Grant o £4m i adfer hen synagog ym Merthyr Tudful

y synagogFfynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • Cyhoeddwyd

Bydd synagog hynaf de Cymru yn cael ei hadfer yn dilyn grant o bron i £4m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Gyda chefnogaeth yr arian, y bwriad yw trawsnewid y Synagog i fod yn ganolfan ddiwylliant Iddewig Gymreig.

Mae'r synagog ym Merthyr Tudful yn cael ei hystyried fel un o'r pwysicaf yn y DU oherwydd ei phensaernïaeth.

Dyma'r synagog hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru, a'r unig un yn y DU a gafodd ei hadeiladu mewn arddull Gothig.

Y gobaith yw, y bydd y synagog yn cael ei hadfer yn llawn gan ddarparu cyfleoedd newydd i bobl.

Maen nhw'n gobeithio cynnig swyddi, cyfle i wirfoddoli, cynnal gweithgareddau, ymgysylltu ag ysgolion a darparu cyfleusterau cymunedol newydd.

Dywedodd David Bearman, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru: "Rydym wrth ein boddau o dderbyn y cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn achub y synagog hanesyddol hon ym Merthyr Tudful, y safle treftadaeth Iddewig pwysicaf yng Nghymru.

"Bydd cefnogaeth y loteri yn ein galluogi i ailagor yr adeilad i'r cyhoedd gan greu canolfan ddiwylliant Iddewig Gymreig gydag arddangosfa sy'n adrodd straeon am gyfraniad cymunedau Iddewig Cymru i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru, rhaglen amrywiol ar gyfer dysgu, digwyddiadau a gweithgareddau."

Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol y bydd y ganolfan newydd yn "dathlu dros 250 o hanes a diwylliant".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.