‘Codi gêr’ i ‘gyrraedd pob cymuned’ yn Eisteddfod 2027wedi ei gyhoeddi 09:49 GMT+1 29 Mai
Dros Frecwast
BBC Radio Cymru
Mae’r cyffro at 2027 wedi codi “hyd yn oed yn fwy” ar ôl wythnos yma yn ôl cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen.
“Ar ôl yr wythnos yma bydd y gêr yn codi i'r nesaf heb os ac onibai - ac felly byddwn yn mynd â'r holl afiaith a'r asbri ni wedi gweld a’i deimlo nôl gyda ni a gobeithio paratoi ar gyfer eisteddfod gwerth chweil y flwyddyn nesaf,” meddai Elin Maher.
Dywedodd nad oedden nhw’n poeni gormod am dargedau ariannol gan mai eu blaenoriaeth yw cyrraedd pob cymuned.
Meddai: “[Rydym yn] ceisio ein gorau i gyrraedd ac i greu a chynnal gweithgarwch ym mhob cymuned ar draws y pum sir. Y lleoliad fydd Casnewydd y flwyddyn nesaf ond mae'r pum sir yn mynd i fod yn cyfrannu.
“Ni'n mynd i rannu'r cyfrifoldeb yna. Ni wedi edrych ar darged Môn, maen nhw wedi bod yn wych iawn, ond wrth gwrs mae’n rhaid ni gofio bod ein hardal ni yn ardal eitha’ gwahanol i Fôn - mae'n ardal fwy poblog ac mae'n ardal sydd â gwahanol elfennau o fewn y gymuned.
“A gobeithio gawn ni gefnogaeth y gymuned - ni wedi cael e'n barod ond hyd yn oed yn fwy dros y misoedd i ddod.”

Elin Maher, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Bro'r Wenynen 2027




















