Holi'r athrawon - nifer wedi treulio eu gwyliau yn yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 12:57 GMT+1 29 Mai
Er bod hi'n wythnos wyliau i ysgolion dyw nifer o blant nac athrawon wedi cael rhyw lawer o wyliau. Ar ddiwrnod ola'r Brifwyl dyma ofyn i rai ohonyn nhw beth yw'r heriau presennol a beth maen nhw'n ei ddymuno gan lywodraeth newydd Cymru.
Dywedodd Nia Pugh, Pennaeth Ysgol Dolau, Llanharan: "Y prif heriau 'da ni'n gweld o ran yr ysgol, ydy anghenion ychwanegol - mae hynny'n gallu bod yn ddwys ac ariannu hynny yn iawn mewn ysgolion. Mae hwnna'n rhoi lot o bwysau ar staff.
"Lles athrawon hefyd - mae hwnnw mor bwysig a phwysau gwaith mae hwnna'n rwbath 'da ni rili isio gweld buddsoddiad arian i mewn iddo fo."

Mae David Roberts, yn un o uwch dîm rheoli yn Ysgol Awel Taf, Pontypridd.
"Mae athrawon yn mynd allan o'u ffordd, fel 'da ni'n weld yr wythnos yma. Mae'r gwaith sydd wedi cael ei roi mewn i ddod â rhywbeth fel Eisteddfod yr Urdd at ei gilydd, yn ddi-dâl yn anhygoel.
"Yn anffodus, dydi'r gefnogaeth ddim bob tro yna.
"Mae 'na ormod o athrawon ifanc yn teimlo dan straen... rhaid i ni edrych ar ôl ein hathrawon."

Dywedodd Catrin Evans o Ysgol Gynradd Llanrhaeadr ym Mochnant: "Cyllideb faswn I'n deud ydi'r heriau mwyaf, does 'na ddim digon o arian yn cael ei roi mewn i'n hysgolion. Mae pawb yn jyglo pres.
"Mae pawb dwi'n siarad efo nhw, mae nhw gyd dan bwysau"
"'Dw I'n dysgu ers 34 o flynyddoedd, a 'dw i 'di gweld pres yn mynd yn llai. Mae nhw angen cyllido ysgolion yn well, dyna beth mae plant angen, mae nhw angen oedolion yn y dosbarth. Mae o'n ffordd o fuddsoddi yn addysg plant."
Ychwanegodd fod y swydd wedi newid dros y blynyddoedd: "Mae heriau plant dipyn mwy nag oeddan nhw, mae 'na fwy o broblemau ymddygiad... mae angen mwy o gyllideb, mae plant dipyn mwy heriol i ddysgu nag oeddan nhw flynyddoedd yn ôl."

Ar Dros Frecwast dywedodd y Gweinidog Addysg Anna Brychan: "Yn bersonol ni am gyfathrebu ar sut i symud mlaen efo'r fframwaith rhifedd a llythrennedd newydd.
"Mae angen edrych ar y pwysau gwaith sydd ar athrawon. Mae trafferthion denu pobl i'r proffesiwn ac ni'n edrych ar ffyrdd o wella hynny. Un o'r pethau pwysicaf yw bod yn fwy eglur am ein targedau ac mae'n bwysig ein bod ni'n siarad yr un iaith o safbwynt ein disgwyliadau"
























