Crynodeb

  1. Tiara nid Coron i Miss Cymruwedi ei gyhoeddi 11:19 GMT+1 29 Mai

    Miss Cymru

    Nage, nid enillydd y Goron ond Ellie Corcoran - y ferch gyntaf o Ynys Môn i fod yn Miss Cymru.

    “Dwi ddim wedi gwisgo sgidiau addas i’r maes,” meddai mewn sodlau coch uchel!

  2. Y babell gelf yn denu ymwelwyr ac yn ysbrydoliwedi ei gyhoeddi 11:14 GMT+1 29 Mai

    celf
    celf
    celf
    celf
    celf
  3. Gwalltiau Mr Urdd! Y ffasiwn newydd?wedi ei gyhoeddi 11:08 GMT+1 29 Mai

    Mae crysau T, bathodynnau a chapiau Mr Urdd yn ddigon cyffredin ar y maes.... ond gwalltiau?

    Edrychwch yn ofalus ar wallt Edie ac Eida o Rydaman ac fe welwch driongl gwyn, coch a gwyrdd.

    Ai dyma ddechrau ffasiwn newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen 2027?

    Llun o wallt dwy ferch fach - a Mr Urdd
  4. Mari Lovgreen: 'Pleser cael dathlu efo'r plant'wedi ei gyhoeddi 11:03 GMT+1 29 Mai

    Mari Lovgreen

    Mae 'na lwyth o blant, pobl ifanc, athrawon a theuluoedd yn dathlu drwy'r wythnos - ond neb fwy na Mari Lovgreen.

    Hi sy'n cyhoeddi'r enillwyr ar Lwyfan y Canlyniadau - ac felly'n cael dathlu efo pawb.

    Meddai: “Mae’n bleser ac yn fraint cael dathlu efo’r plant a’r bobl ifanc yma.

    "Maen nhw i gyd yn dathlu cyn dechrau, ac rydw i mor falch o fod yng nghanol y dathlu.

    "Beth sy’n fy nharo i bob blwyddyn ydy’r gwaith gwych mae’r athrawon a’r hyfforddwyr yn ei wneud gyda’r plant.”

  5. 🚗🚉 Sut i gyrraedd y Maes ar Gae Mona?wedi ei gyhoeddi 11:02 GMT+1 29 Mai

    Os mai hwn yw'ch diwrnod cyntaf ar y maes dyma'r ffordd:

    Sut i gyrraedd yn y car?

    O'r de:

    • Dewch oddi ar yr A55 ar gyffordd 6
    • Dilynwch yr arwyddion am Faes yr Eisteddfod
    • Bydd arwyddion melyn yr Eisteddfod yn eich cyfeirio at y meysydd parcio

    O'r gogledd:

    • Dewch oddi ar yr A55 ar gyffordd 5
    • Dilynwch yr arwyddion am Faes yr Eisteddfod
    • Bydd arwyddion melyn yr Eisteddfod yn eich cyfeirio at y meysydd parcio

    Os yn defnyddio Sat Nav - defnyddiwch y cod post LL65 4RW

    map

    Trafnidiaeth gyhoeddus

    Trên

    • Yr orsaf drenau agosaf yw Llanfairpwll, sydd tua naw milltir o'r Maes.
    • Neu mae gorsaf Tŷ Croes, sy'n orsaf fach stopio ar gais, bum milltir o'r Maes.

    Bws

    • Y bws cyhoeddus sy'n pasio'r Maes yw'r A4 o Fangor i Gaergybi - mae Maes yr Eisteddfod gyferbyn â safle bws stad ddiwydiannol Mona

    Beic

    • Os ydych chi am ddod i'r Eisteddfod ar eich beic, mae 'na le parcio beics yn saff wrth ymyl y Ganolfan Groeso

    Cerdded

    • Nid yw'r Urdd yn argymell cerdded i'r Maes gan nad oes palmant yn arwain at Gae'r Sioe
  6. 'Mor bwysig bod yr Eisteddfod yn teithio'wedi ei gyhoeddi 10:59 GMT+1 29 Mai

    Wrth i Eisteddfod yr Urdd baratoi i adael Ynys Môn a throi ei golygon i’r de ddwyrain, pwysleisiodd Prif Weithredwr y mudiad pa mor bwysig oedd parhau fel gŵyl deithiol.

    Wrth ymateb i’r clip sydd wedi mynd yn feiral o Lloyd Lewis yn mynd yn emosiynol wrth drafod y Gymraeg yn ei ardal enedigol, fydd yn croesawu’r eisteddfod y flwyddyn nesaf, dywedodd ei fod yn “lysgennad gwych i ardal Gwent a Chwmbran”.

    Meddai ar raglen Dros Frecwast: “Wrth edrych ymlaen mae hi yn bwysig bod hi’n parhau i fod yn ŵyl deithiol ond hefyd yn parhau i fynd i ardaloedd lle nad ydi'r Gymraeg mor gryf ag yw hi yn rhywle fel Ynys Môn.

    “Pwrpas yr Urdd o fynd i ardal yna yw codi ymwybyddiaeth, codi diddordeb a chodi'r cyffro i'r datblygiad sylweddol sydd mewn addysg Gymraeg yng Ngwent a Chasnewydd.”

    Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn ardal Casnewydd yn 2027 cyn teithio i Eryri yn 2028 a Cheredigion yn 2029.

    Disgrifiad,

    'Cymreictod yn golygu lot fawr i fi' - Lloyd Lewis dan deimlad

  7. Tri brawd yn joiowedi ei gyhoeddi 10:55 GMT+1 29 Mai

    Tri brawd bach

    Mohammad, Achmad a Johed yn mwynhau ar faes y Steddfod.

    Fe symudodd eu rhieni o Afghanistan bum mlynedd yn ôl ac maen nhw bellach wedi ymgartrefu ar Ynys Môn.

  8. Ydy Mistar Urdd yn iau neu'n hŷn na...? Pwy well i ateb na'r prif weithredwr!wedi ei gyhoeddi 10:52 GMT+1 29 Mai

    Disgrifiad,

    Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd sy'n chwarae hŷn neu iau na Mistar Urdd

  9. Gŵyl Triban ar BBC Soundswedi ei gyhoeddi 10:48 GMT+1 29 Mai

    Y dorf yn TribanFfynhonnell y llun, Yr Urdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Un o ffans Fleur De Lys

    Os na lwyddoch chi i fynd yno - neu os am fwynhau'r profiad eto - gallwch rŵan wrando ar gig nos Sul yng Ngŵyl Triban ar BBC Sounds.

    Lisa Gwilym sy'n cyflwyno uchafbwyntiau Mawrion Môn gyda rhai o artistiaid gwych yr ynys - Elin Fflur, Cordia, Gwilym a Fleur De Lys!

    Cliciwch yma i wrando ar BBC Sounds.

    Y band GwilymFfynhonnell y llun, Yr Urdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwilym ar y llwyfan nos Sul

  10. Mae sawl piano ar y maes i gael yr un ymarfer ola' yna!wedi ei gyhoeddi 10:45 GMT+1 29 Mai

    Tomos yn cael un ymarfer ola' cyn cystadlu ar yr unawd piano blwyddyn 6 ac iau

    tomosFfynhonnell y llun, bbc
  11. 'Diolch i'r holl wirfoddolwyr'wedi ei gyhoeddi 10:38 GMT+1 29 Mai

    Jac a Dyfrig, stwardiaid

    Mae angen digon o egni ar y stiwardiaid - fel mae Jac a Dyfrig yn gwybod.

    "‘Dan ni wedi bod yn brysur iawn, ond mae’r Eisteddfod wedi bod yn wych," meddai Dyfrig, y prif swyddog cenedlaethol, wrth gael paned a brecwast.

    "Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled, ac yn edrych ymlaen at weld pawb yng Nghasnewydd flwyddyn nesaf.”

  12. Llwyddiant am waith celf i Ifanwedi ei gyhoeddi 10:35 GMT+1 29 Mai

    Ifan o Ysgol y Dderi, Ceredigion, yn fuddugol ar y serameg blwyddyn 2 ac iau.

    Bachgen gyda gwaith celf
  13. Barod am y llwyfan - yr holl ffordd o Gastell-neddwedi ei gyhoeddi 10:33 GMT+1 29 Mai

    Plant Ysgol Gymraeg Castell-nedd yn barod i fentro ar y llwyfan

    Pedwar o blant
  14. Candi fflos... i frecwast?!wedi ei gyhoeddi 10:30 GMT+1 29 Mai

    Wel... mae'n ddiwrnod ola'r Eisteddfod wedi'r cyfan...

    Dau o blant ifanc gyda candi fflos
  15. Elsi ac Anni yn barod i ddawnsiowedi ei gyhoeddi 10:23 GMT+1 29 Mai

    Gyda'u cennin pedr a'u gwisgoedd dawnsio gwerin, mae Elsi ac Anni o Ysgol Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin, yn barod i gystadlu.

    Dwy o enethod mewn gwisg dawnsio gwerin
  16. Y gaith celf yn denu'r torfeydd gydol yr wythnoswedi ei gyhoeddi 10:20 GMT+1 29 Mai

    Eisteddfod yr Urdd

    celf

    Mae'r gwaith celf ar y maes wastad yn boblogaidd, gyda phobl yn gwerthfawrogi sgiliau ieuenctid plant a phobl ifanc.

    celf
  17. Edrych ymlaen i gystadlu yn yr unawd i chwythbrennauwedi ei gyhoeddi 10:16 GMT+1 29 Mai

    Mae Avery a Jamey wedi teithio o Gaerdydd.

    Mae Avery yn edrych ymlaen i gystadlu yn yr unawd chwythbrennau.

    Avery
  18. Steddfod cyntaf Ethni o Ddinas Mawddwywedi ei gyhoeddi 10:09 GMT+1 29 Mai

    Plentyn ifanc gyda dol

    Dyma Ethni - a'i dol - o Ddinas Mawddwy, yn ei heisteddfod yr Urdd gyntaf erioed ❤️

  19. Sawl parti sydd angen i ddathlu pen-blwydd 50?!wedi ei gyhoeddi 10:03 GMT+1 29 Mai

    urdd

    Mae cyrraedd penblwyddi arbennig yn gyfle i ddathlu gyda theulu a ffrindiau.

    Ac mae Mistar Urdd wedi cael sawl parti i ddathlu ei ben-blwydd yn 50.

    Yn ôl y sôn mae 'na barti arall ar y maes heddiw - pam ddim?

    urdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Catrin a’i thad Simon yn mwynhau coffi tra bod nain wedi rhedeg ar ôl y plant oedd eisiau gweld Mistar Urdd

  20. 'Wythnos anhygoel' - Eisteddfod cyntaf gŵr o Batagoniawedi ei gyhoeddi 09:55 GMT+1 29 Mai

    Alun Jones

    Mae Alun Jones wedi dod yr holl ffordd o Drefelin yn y Wladfa i'w Eisteddfod yr Urdd gyntaf.

    “Mae hi wedi bod yn wythnos anhygoel," meddai. "Be’ dwi wedi mwynhau fwyaf yw cymdeithasu hefo pobl leol a chlywed y Gymraeg, a chael y cyfle i ganu hefo Rhys Meirion eto wrth gwrs.”