Keir Starmer i ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DUwedi ei gyhoeddi 09:36 GMT+1 22 MehefinNewydd dorri
Mae Syr Keir yn dweud ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU.
Syr Keir Starmer yn cyhoeddi y tu allan i 10 Downing Street y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur
Mae Prif Weinidog y DU wedi wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo dros y penwythnos
Daw hynny yn dilyn buddugoliaeth Andy Burnham yn isetholiad Makerfield yr wythnos diwethaf, ond roedd pwysau wedi bod ar Syr Keir ers rhai misoedd bellach
Bydd yn aros yn brif weinidog tan i olynydd gael ei ethol
Mae Andy Burnham wedi cadarnhau y bydd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth, ac mae Wes Streeting - oedd yn cael ei weld fel ymgeisydd arall posib - wedi ei gefnogi
Mae Starmer wedi dilyn y strategaeth wleidyddol anghywir trwy geisio apelio at bleidleiswyr asgell dde, yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick
Mae Syr Keir yn dweud ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU.
Mae Syr Keir Starmer wedi camu allan o 10 Downing Street ac mae wedi dechrau ar ei ddatganiad.
Mae'n dechrau trwy ddweud cymaint o lwyddiannau mae ei blaid wedi eu cyflawni yn eu dwy flynedd mewn grym.
Ond does bosib bod cyhoeddiad mawr i ddod...
Y disgwyl yw y bydd Syr Keir Starmer yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU y bore 'ma, ar ôl colli cefnogaeth rhai o aelodau allweddol y blaid Lafur.
Daw ei gyhoeddiad yn dilyn cyfnod cythryblus i'r llywodraeth, sydd ond mewn grym ers Gorffennaf 2024.
Wedi canlyniadau trychinebus i Lafur mewn etholiadau ar draws y DU, fe wnaeth dwsinau o ASau alw'n gyhoeddus am newid gan gynnwys - maes o law - aelodau amlwg o fewn y cabinet.
Fe wnaeth y pwysau gynyddu ar y prif weinidog wedi i gyn-Faer Manceinion, Andy Burnham ennill is-etholiad Makerfield ddydd Iau diwethaf, gyda'r disgwyl ei fod â'i fryd ar olynu Syr Keir yn Downing Street.
Bore da a chroeso i'n llif byw ar ddiwrnod allai fod yn un enfawr i wleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r prif weinidog Syr Keir Starmer ar fin gwneud cyhoeddiad y tu allan i 10 Downing Street o fewn y munudau nesaf, wrth i'r pwysau gynyddu arno i ymddiswyddo.
Arhoswch gyda ni am y diweddaraf wrth i ni ddod â'r holl ymateb i chi ar ein llif byw.
