Crynodeb

  • Syr Keir Starmer yn cyhoeddi y tu allan i 10 Downing Street y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur

  • Mae Prif Weinidog y DU wedi wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo dros y penwythnos

  • Daw hynny yn dilyn buddugoliaeth Andy Burnham yn isetholiad Makerfield yr wythnos diwethaf, ond roedd pwysau wedi bod ar Syr Keir ers rhai misoedd bellach

  • Bydd yn aros yn brif weinidog tan i olynydd gael ei ethol

  • Mae Andy Burnham wedi cadarnhau y bydd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth, ac mae Wes Streeting - oedd yn cael ei weld fel ymgeisydd arall posib - wedi ei gefnogi

  • Mae Starmer wedi dilyn y strategaeth wleidyddol anghywir trwy geisio apelio at bleidleiswyr asgell dde, yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick

  1. Beth aeth o'i le i Keir Starmer?wedi ei gyhoeddi 12:11 GMT+1 22 Mehefin

    Mae Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU, ar ôl colli cefnogaeth rhai o aelodau allweddol y Blaid Lafur.

    Yn dilyn cyfnod cythryblus i'r llywodraeth a chanlyniadau trychinebus i Lafur mewn etholiadau ar draws y DU, fe wnaeth dwsinau o ASau alw'n gyhoeddus am newid gan gynnwys - maes o law - aelodau amlwg o fewn y cabinet.

    Ag yntau wedi cael ei ethol yn brif weinidog lai na dwy flynedd yn ôl ar ôl i'w blaid ennill etholiad cyffredinol gyda mwyafrif ysgubol, beth aeth o'i le i Starmer?

    Darllenwch fwy yma.

    Keir StarmerFfynhonnell y llun, Reuters
  2. Reform yn galw am etholiad cyffredinolwedi ei gyhoeddi 12:04 GMT+1 22 Mehefin

    Mae arweinydd Reform, Nigel Farage, yn galw am etholiad cyffredinol "cyn gynted â phosib".

    Mewn neges ar wefan X, dywedodd mai Starmer yw "y prif weinidog mwyaf di-glem" a gafodd y DU erioed.

    Mae'n honni na all y "dosbarth gwleidyddol" barhau i fradychu pleidleiswyr, gan gyfeirio at y tro pedol yn nhaliadau tanwydd y gaeaf, lefelau mewnfudo a chytundebau Ynysoedd Chagos fel esiamplau o sut mae Llafur wedi siomi y rhai a'u rhoddodd mewn pŵer.

    Yn ôl Farage, byddai Andy Burnham yn parhau â pholisïau Starmer pe bai'n dod yn arweinydd newydd Llafur.

    Nigel FarageFfynhonnell y llun, Peter Byrne/PA Wire

    Ychwanegodd arweinydd Reform Cymru, Dan Thomas, ei bod yn "bryder" nad oedd Burnham yn AS pan gafodd y llywodraeth Lafur ei hethol.

    "Mae'n rhaid i'r cyhoedd benderfynu pwy sy'n llywodraethu'r wlad - nid aelodau Llafur," meddai.

  3. 'Ymddiswyddiad yn nodi trobwynt i San Steffan' - Liz Saville Robertswedi ei gyhoeddi 11:55 GMT+1 22 Mehefin

    Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, galwodd Liz Saville Roberts AS ar "newidiadau cyfansoddiadol go iawn" yn sgil ymddiswyddiad Keir Starmer, a'i fod yn nodi "trobwynt i San Steffan".

    Dywedodd fod "Cymru'n haeddu gwell" na'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni yn y ddwy flynedd ers i Lafur ddod i rym.

    "Mae llywodraeth Starmer yn dilyn llinell hir o lywodraethau sydd wedi methu â chyflawni sefydlogrwydd.

    "Wrth i ni agosáu at 10 mlynedd ers refferendwm Brexit, mae pobl Cymru wedi gweld chwe phrif weinidog gwahanol yn pasio trwy Downing Street – ac wedi profi dim heblaw ansicrwydd ac anhrefn."

    Liz Saville RobertsFfynhonnell y llun, Senedd y DU

    Aeth arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan ymlaen i ddweud fod datganoli wedi "cael ei ystyried yn fygythiad ers rhy hir", a bod hyn nawr yn gyfle i symud tuag at "ddatganoli gwirioneddol".

    "Dylai cyfiawnder, rheilffyrdd, a'n hadnoddau naturiol gael eu rheoli yma yng Nghymru, ochr yn ochr â chyllid teg i'n gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

    "Mae rhain yn ymyriadau hanfodol fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau yng Nghymru.

    "Penderfyniadau dros Gymru a wneir yng Nghymru, gydag anghenion ein cymunedau mewn golwg."

  4. Pryd fydd y prif weinidog newydd mewn lle?wedi ei gyhoeddi 11:41 GMT+1 22 Mehefin

    Dywedodd Keir Starmer y bydd yn gofyn i bwyllgor gweithredol y blaid Lafur agor enwebiadau ar 9 Gorffennaf i ethol arweinydd newydd y blaid.

    Bydd hyn wedi'i gwblhau "erbyn toriad yr haf", meddai, sydd wythnos yn ddiweddarach ar 16 Gorffennaf.

    Os bydd mwy nag un ymgeisydd, byddai hyn yn sicrhau bod arweinydd newydd mewn lle erbyn i Dŷ'r Cyffredin ddychwelyd o'u toriad ar 1 Medi.

    Ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn glir a fydd gornest.

    Os mai Andy Burnham yw'r unig ymgeisydd, fe allai ddod yn arweinydd Llafur pan fydd yr enwebiadau'n cau ar 16 Gorffennaf.

    Ond tan hynny, bydd Starmer yn parhau'n brif weinidog.

  5. Wes Streeting yn cefnogi Andy Burnhamwedi ei gyhoeddi 11:32 GMT+1 22 Mehefin
    Newydd dorri

    Mae'r cyn-ysgrifennydd iechyd Wes Streeting wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi Andy Burnham i fod yn arweinydd nesaf Llafur.

    Fe wnaeth Streeting ymddiswyddo o'r llywodraeth yn dilyn canlyniadau siomedig Llafur yn yr etholiadau fis Mai, gan ddweud ei fod wedi colli hyder yn arweinyddiaeth Starmer.

    Roedd wedi dweud yn flaenorol y byddai'n rhan o unrhyw ras arweinyddol, ond gyda Burnham bellach yn ffefryn clir, mae wedi penderfynu rhoi ei gefnogaeth i gyn-Faer Manceinion.

    Wes StreetingFfynhonnell y llun, PA Media

    Dywedodd fod isetholiad Makerfield yn "profi y gall Llafur ennill o hyd os oes gennym ni'r dewrder i newid".

    "Fe allwn ni dreulio'r haf yn pwysleisio gwahaniaethau bychan, neu fe allwn ni ei helpu i ddechrau ar y gwaith sydd ei angen i newid ein plaid a'n gwlad.

    "Dyna'r dewis rydw i'n ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb arall yn cefnogi Andy hefyd."

  6. Andy Burnham yn cynnig ei hun fel olynydd Starmerwedi ei gyhoeddi 11:31 GMT+1 22 Mehefin
    Newydd dorri

    Mae Andy Burnham wedi ymateb i ymddiswyddiad Keir Starmer ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth a'i "arweinyddiaeth a'i ymroddiad yn ystod cyfnod mor heriol".

    Yn ei neges, cadarnhaodd ei fod am gynnig ei hun i fod yn rhan o'r broses i benodi arweinydd newydd i'r blaid Lafur, gan nodi y bydd yn sicrhau y bydd yn broses gadarnhaol er mwyn "adnewyddu ein plaid a'n gwlad".

    "Mae'r wlad yn disgwyl sefydlogrwydd, difrifoldeb a ffocws parhaus ar y materion sydd o bwys, a dyna beth fydd yn ei chael," meddai.

    "Wrth i ni symud ymlaen, mae'n rhaid i ni flaenoriaeth cydweithio er mwyn dod â'r wlad yn ôl i lle rydyn ni i gyd eisiau iddi fod."

    Andy BurnhamFfynhonnell y llun, Reuters

    Yn ôl Burnham, mae pobl eisiau gweld cynnydd yn nhyfiant yr economi, costau byw, gwasanaethau cyhoeddus, tai a chyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf.

    "Ni ddylai newid gwleidyddol fyth dynnu sylw oddi wrth y cyfrifoldeb i wella bywydau pobl," meddai.

    "Mae'r mudiad Llafur bob amser wedi bod ar ei gryfaf pan mae'n edrych ymlaen gyda hyder a phwrpas."

  7. Ar fin cael ein seithfed prif weinidog Prydeinig mewn degawdwedi ei gyhoeddi 11:12 GMT+1 22 Mehefin

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

    Mae’n rhyfeddol meddwl bod llai na dwy flynedd ers i ni wylio Keir Starmer yn cerdded i fyny Downing Street tuag at ddrws Rhif 10, wedi hawlio buddugoliaeth ryfeddol i Lafur yng Ngorffennaf 2024 - 411 o aelodau llafur wedi eu hethol dan ei arweiniad.

    Heddi', bu’n rhaid iddo gydnabod ei fod e wedi colli eu cefnogaeth nhw - ei fod wedi derbyn hynny, a’i fod nawr yn mynd.

    A hyn i gyd yn digwydd er bod y dyn mwya' tebygol o’i olynu, Andy Burnham, heb hyd yn oed gyrraedd San Steffan eto.

    Mae e fod i dyngu llw fel Aelod Seneddol newydd y prynhawn 'ma.

    O ran yr hyn sy’n digwydd nesa' - ddywedodd Keir Starmer y byddai’r enwebiadau i’w olynu yn agor ar 9 Gorffennaf.

    Cawn weld a fydd unrhyw un nawr â’r gefnogaeth o blith aelodau seneddol - a’r awydd - i herio’r dyn wnaeth guro Reform mor llwyddiannus yr wythnos diwethaf yn Makerfield.

    Os na fydd her, mae’n bosib y gallen ni weld Andy Burnham yn cael ei goroni yn arweinydd newydd Llafur, ac yn brif weinidog nesaf Prydain, o fewn tair wythnos.

    Ond beth bynnag sy’n digwydd - ry’n ni ar fin cael ein seithfed prif weinidog Prydeinig mewn degawd.

  8. 'Andy Burnham yn cynnig gobaith i Gymru'wedi ei gyhoeddi 11:00 GMT+1 22 Mehefin

    Ychwanegodd Mark Drakeford ar Dros Frecwast ei fod yn credu bod Andy Burnham yn cynnig "gobaith" i Gymru.

    "Dwi'n cefnogi e achos dwi'n meddwl mae'n deall datganoli, ond hefyd dwi'n meddwl mae'n gallu rhoi rhywbeth newydd mewn i'r byd sydd gennym ni yma yng Nghymru, sef gobaith," meddai.

    "Mae pobl wedi colli gobaith yn y dyfodol.

    "Allen nhw ddim gweld llwybr tuag at ddyfodol ble bydd pethau yn gwella.

    "Mae angen iddyn nhw ddangos beth maen nhw wedi gwneud yn barod, ond hefyd mae'n gallu rhoi gobaith nôl i bobl, a bydd hwnna'n bwysig i ni hefyd."

  9. 'Angen newid agwedd Llafur yn San Steffan tuag at Gymru'wedi ei gyhoeddi 10:50 GMT+1 22 Mehefin

    "Bydd newid y person ar y top ddim yn newid llawer, oni bai bod Llafur - o'r diwedd - yn wynebu'r problemau strwythurol sydd yn parhau i ddal Cymru yn ôl" - dyma ymateb David Chadwick AS, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i ymddiswyddiad Keir Starmer.

    Er canlyniadau "catastroffig" Llafur yn etholiadau'r Senedd eleni, prin yw'r arwyddion fod agwedd Llafur yn San Steffan tuag at Gymru wedi newid, meddai.

    "Bydd yn rhaid i'r prif weinidog nesaf ddysgu'r wers mae'r pump diwethaf wedi ei anwybyddu: allwch chi ddim tyfu'r economi yn gynaliadwy heb berthynas agosach â'r Undeb Ewropeaidd, neu gyflwyno fformiwla ariannu decach i Gymru, sydd yn cydnabod anghenion unigryw ein poblogaeth.

    "Mae Cymru angen mwy na phrif weinidog newydd. Rydyn ni angen llywodraeth yn San Steffan sydd yn cymryd Cymru o ddifri'."

    David Chadwick
  10. Mark Drakeford: Andy Burnham yw'r 'person gorau i arwain'wedi ei gyhoeddi 10:39 GMT+1 22 Mehefin

    Yn siarad ar Dros Frecwast y bore 'ma dywedodd cyn-brif weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn teimlo mai Andy Burnham yw'r "person gorau i arwain y Blaid Llafur ac i arwain y Deyrnas Unedig tuag at y dyfodol".

    "Y broblem yw, os chi wedi cael eich gyrfa i gyd yn San Steffan, chi'n gweld y byd trwy lygaid San Steffan," meddai am Keir Starmer.

    "Mae Andy Burnham wedi gweithio yn San Steffan hefyd, ond nawr mae wedi cael y profiad o weithio tu fas i Lundain.

    "Mae'n gwybod y pwysigrwydd o symud arian, pŵer, cyfrifoldebau mas o Lundain ac i'r ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig.

    "Dyna pam dwi'n meddwl mae'n deall datganoli mewn ffordd sy'n anodd i rywun sy' ddim ond wedi gweithio yn Llundain."

    Mark Drakeford a Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Landudno yn 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford a Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Landudno yn 2023

  11. Fydd gornest, neu goroni?wedi ei gyhoeddi 10:31 GMT+1 22 Mehefin

    Rhodri Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Un o'r prif feirniadaethau sydd wedi codi ynghylch Andy Burnham yw 'beth yw ei weledigaeth ar gyfer y wlad pe bai'n dod yn brif weinidog?'.

    Dyma pam bydd rhai o fewn Llafur yn ffafrio cael gornest, nid coroni.

    Fe fyddai hwn yn gyfle i'r blaid graffu ar syniadau'r holl ymgeiswyr (os bydd 'na rai eraill; Wes Streeting, Ed Miliband, Angela Rayner efallai?).

    Mae hyn yn bwysig oherwydd un o'r prif bethau wnaeth arwain at heddi yw'r gred nad oedd gan Keir Starmer "weledigaeth fawr".

    Ni fyddai'r blaid am ddewis arweinydd newydd sydd â'r un broblem...

  12. Prif Weinidog Cymru'n rhwystredig am yr 'ansefydlogrwydd yn San Steffan'wedi ei gyhoeddi 10:22 GMT+1 22 Mehefin

    Mae Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth wedi dymuno'n dda i Keir Starmer, ond dywedodd ei fod yn "siomedig bod gallu Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â Phrif Weinidog y DU ar faterion sy'n bwysig i bobl Cymru yn cael ei rwystro gan yr ansefydlogrwydd yn San Steffan".

    "Hoffwn weld ei olynydd yn cydnabod bod angen perthynas newydd rhwng Cymru â San Steffan, gyda ffocws ar fwy o bwerau, cyllid teg, a pharch at y mandad democrataidd a gyflwynwyd gan bobl Cymru.

    "Bydd fy llywodraeth a minnau bob amser yn ceisio cael perthynas adeiladol gyda phwy bynnag sydd yn Rhif 10, ond mae gennym ddisgwyliadau clir bod rhaid i'r agenda parch weithio'r ddwy ffordd."

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  13. 'Mor falch' o fod yn brif weinidogwedi ei gyhoeddi 10:11 GMT+1 22 Mehefin

    Rhodri Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth gamu allan o Rif 10 y bore 'ma, roedd cymeradwyaeth i Keir Starmer gan rai aelodau'i gabinet a'i staff cyn iddo ddechrau siarad.

    Dywedodd pa mor falch oedd e wedi bod i fod yn Brif Weinidog, a phwyntio at ei lwyddiannau.

    Ond soniodd hefyd am y trafodaethau oedd wedi digwydd dros y Sul gyda'i weinidogion ac eraill, a dod i'r casgliad nad oedd y blaid moyn e mwyach.

    Ar ddiwedd ei araith, torrodd ei lais wrth sôn am ei wraig a'i blant, a'i fwriad i dreulio mwy o amser gyda nhw o hyn ymlaen.

    Yna trodd at ei wraig a'i chofleidio, cyn mynd nôl tu ôl y drws du.

    Starmer a'i wraig VicFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Daeth Keir â'n plaid ni yn ôl o ebargofiant'wedi ei gyhoeddi 10:07 GMT+1 22 Mehefin

    Wrth ddatgan ei ddiolch i'r prif weinidog, dywedodd arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates, fod Keir Starmer "wedi arwain y wlad drwy amseroedd anodd tu hwnt gydag urddas".

    "Daeth Keir â'n plaid ni yn ôl o ebargofiant, gydag un o'r buddugoliaethau mwyaf a welodd y Blaid Lafur erioed," meddai.

    Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images

    "O dan ei arweinyddiaeth, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn yr isafswm cyflog, hwb i'r pensiwn gwladol a hawliau cyflogaeth cryfach.

    "Derbynion ni hefyd y setliad datganoli mwyaf erioed a chynlluniau unwaith mewn cenhedlaeth o £14bn ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru."

    Galwodd nawr ar ei blaid i "ddod ynghyd" er mwyn sicrhau fod Llafur yn parhau i wasanaethu pobl Cymru a'r DU.

  15. 'Gwleidyddiaeth yn gallu bod yn ddidrugaredd'wedi ei gyhoeddi 10:04 GMT+1 22 Mehefin

    Rhodri Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae rhai yn dweud bod beth ddigwyddodd y bore 'ma yn anochel, ond sylwch fod Keir Starmer wedi arwain Llafur at fuddugoliaeth ysgubol lai na dwy flynedd yn ôl.

    Ond ers hynny mae wedi ei feirniadu am gyfres o gamsyniadau, ond y peth oedd yn poeni ASau Llafur fwyaf oedd nad oedden nhw'n credu y gallai faeddu Reform.

    Yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Makerfield, mae'n eglur bod rai o fewn Llafur yn credu mai Andy Burnham yw'r Mab Darogan all wneud hynny.

    Cawn weld a fydd unrhywun yn ei herio fe am yr arweinyddiaeth nawr.

    Am y tro, gyda llais Keir Starmer yn torri ar ddiwedd ei araith, a gyda ni nawr yn wynebu ein seithfed prif weinidog o fewn degawd, prawf arall y bore 'ma fod gwleidyddiaeth yn gallu bod yn ddidrugaredd.

  16. Starmer i ganolbwyntio nawr ar 'y swydd bwysicaf'wedi ei gyhoeddi 10:02 GMT+1 22 Mehefin

    Aeth Starmer yn emosiynol ar ddiwedd ei araith tra'n crybwyll ei deulu.

    Dywedodd, ar ôl gadael y "swydd fwyaf yn y wlad" y bydd yn treulio mwy o amser ar "y swydd bwysicaf".

    "Bod y gŵr gorau posib i fy ngwraig wych Vic, sydd wedi bod yn graig wrth fy ochr trwy'r amseroedd da a drwg.

    "A bod y tad gorau posib i fy mhlant prydferth."

    Mae'n cofleidio ei wraig cyn mynd yn ôl i mewn i Rif 10.

    StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Starmer yn addo ei gefnogaeth lawn i'r arweinydd nesafwedi ei gyhoeddi 09:53 GMT+1 22 Mehefin

    Ychwanegodd Starmer y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu er mwyn sicrhau y bydd pŵer yn cael ei drosglwyddo i'r arweinydd newydd yn llyfn.

    Dywedodd y bydd hefyd yn cynnig ei gefnogaeth lawn i bwy bynnag fydd yr arweinydd nesaf.

  18. Arweinydd newydd mewn lle cyn diwedd yr hafwedi ei gyhoeddi 09:50 GMT+1 22 Mehefin

    Dywedodd Starmer ei fod wedi siarad gyda'r Brenin y bore 'ma i roi gwybod iddo am ei fwriad i ymddiswyddo.

    Mae wedi gofyn i bwyllgor gweithredol y blaid Lafur osod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd, gydag enwebiadau'n agor ar 9 Gorffennaf a'r broses i ddod i ben cyn diwedd toriad yr haf.

    Mae hyn yn golygu y bydd arweinydd newydd mewn lle cyn i Dŷ'r Cyffredin ddychwelyd fis Medi.

    Tan hynny bydd Starmer yn parhau fel prif weinidog, meddai.

  19. Syr Keir 'wedi clywed' barn ei blaidwedi ei gyhoeddi 09:45 GMT+1 22 Mehefin

    Ond mae'n mynd ymlaen i ddweud bod cwestiynau o fewn ei blaid am ai ef yw'r person gorau i arwain Llafur i'r etholiad cyffredinol nesaf.

    Dywedodd Syr Keir ei fod wedi "clywed ateb" ei blaid i'r cwestiwn hwnnw, a'i fod yn derbyn hynny.

    Mae pob penderfyniad mae wedi gwneud yn y swydd "yn rhoi'r wlad rwy'n ei charu gyntaf", meddai.

    "Fe fydda i'n ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur."

    StarmerFfynhonnell y llun, Reuters
  20. Starmer yn pwysleisio llwyddiannau ei lywodraethwedi ei gyhoeddi 09:41 GMT+1 22 Mehefin

    Yn ei araith dywedodd Keir Starmer mai cael ei ethol yn brif weinidog oedd moment mwyaf balch ei fywyd.

    Ychwanegodd ei fod wedi dod i wleidyddiaeth er mwyn cael y cyfle i newid bywydau miliynau o bobl er gwell.

    Dywedodd ei fod wedi dod yn arweinydd Llafur ar gyfnod ble roedd y blaid mewn trafferthion dybryd, a'i fod wedi adfer hyder yn yr economi, amddiffyn, a diogelwch cenedlaethol.