Crynodeb

  • Mae Cymru yn herio Bosnia-Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd FIFA.

  • Gorffennodd y ddau dîm yn ail yn eu grwpiau, a bydd yr enillydd heno yn wynebu naill ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y rownd derfynol ddydd Mawrth.

  • Gallwch wrando ar sylwebaeth BBC Radio Cymru ar y dudalen hon, neu wylio'r gêm ar S4C neu iPlayer.

  • Cic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45.

  1. Sut mae'r nerfau?wedi ei gyhoeddi 18:31 GMT 26 Mawrth

    Croeso i'n llif byw wrth i Gymru wynebu Bosnia-Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Os yn fuddugol, bydd tîm Craig Bellamy wedyn yn chwarae'n erbyn un ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon am le yng Nghwpan y Byd.

    Ond un cam ar y tro...

    Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images