Crynodeb

  • Mae Cymru yn herio Bosnia-Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd FIFA.

  • Gorffennodd y ddau dîm yn ail yn eu grwpiau, a bydd yr enillydd heno yn wynebu naill ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y rownd derfynol ddydd Mawrth.

  • Gallwch wrando ar sylwebaeth BBC Radio Cymru ar y dudalen hon, neu wylio'r gêm ar S4C neu iPlayer.

  • Cic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45.

  1. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 20:31 GMT 26 Mawrth

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Roeddwn i'n disgwyl mai Bosnia fyddai'n achosi problemau o giciau rhydd.

    Dydyn nhw ddim wedi cael un eto ond rydyn ni wedi cael rhai - ac rydyn ni'n edrych yn beryglus ohonyn nhw.

  2. Mwy o gardiau melynwedi ei gyhoeddi 20:26 GMT 26 Mawrth

    Cymru 0-0 Bosnia-Herzegovina

    Dau gerdyn melyn arall i Bosnia-Herzegovina o fewn ychydig funudau, yn dilyn taclo chadarn a hwyr.

    Caiff Demirović a Kolasinac eu cosbi - bydd yn rhaid iddyn nhw a Memic fod yn ofalus nawr.

  3. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 20:23 GMT 26 Mawrth

    Cymru 0-0 Bosnia-Herzegovina

    Wrth i Jordan James dderbyn triniaeth ar ymyl y cae, mae eilyddion Cymru yn cynhesu. Ond mae'n edrych fel y bydd yn ail-ymuno â'r chwarae.

    Roedden ni'n disgwyl gêm gorfforol, a dyna'n union sydd i'w weld ar hyn o bryd.

    Mae'r ddau dîm yn ymosod am yn ail, gyda Cymru yn chwilio am gyfleoedd i fanteisio ar gyflymder eu hymosodwyr.

  4. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 20:18 GMT 26 Mawrth

    Cymru 0-0 Bosnia-Herzegovina

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae carfan Bosnia yn heneiddio, ond mae yna chwaraewyr chwim.

    Maen nhw'n ddigon hapus i ddal yn ôl ac aros am gyfle i ymosod. Bydd yn rhaid i Gymru fod yn ofalus.

  5. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 20:13 GMT 26 Mawrth

    Cymru 0-0 Bosnia-Herzegovina

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd BBC Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd

    Roedden ni’n union y tu ôl i’r ergyd honno gan Harry Wilson. Plygu a throi anhygoel. Mor agos at ergyd arall i’w ychwanegu at ei gasgliad cynyddol o goliau gwych.

  6. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 20:10 GMT 26 Mawrth

    Oddi ar y postyn!

    Daeth Harry Wilson o fewn trwch blewyn i roi Cymru ar y blaen.

    Ond mae pryder ar hyn o bryd gan fod Ethan Ampadu wedi aros ar y llawr... oes anaf?

  7. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 20:08 GMT 26 Mawrth

    Mae 20 munud agoriadol y gêm wedi gwibio.

    Bu bron i Gymru gael y gorau o Bosnia wrth iddyn nhw chwarae o'r cefn.

    Mae cymaint o gyflymder ymhlith ymosodwyr tîm Cymru.

    Di-sgôr yw'r gêm rhwng Yr Eidal a Gogledd Iwerddon, gyda llaw.

  8. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 20:01 GMT 26 Mawrth

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae cyflymder y gêm wedi setlo, a Kath Morgan yn synhwyro y gallai Cymru elwa.

    'Mae gan Gymru lawer o le yng nghanol y cae, mae ganddyn nhw ddigon o amser a lle. Mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr eu bod nhw'n pasio'n gywir pan maen nhw'n cyrraedd safleoedd i ymosod.'

  9. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 19:58 GMT 26 Mawrth

    Mae Demirovic yn ergydio at y gôl, ond fe aiff y bêl yn syth at Karl Darlow.

    Dyna'r cyfle cyntaf i'r ymwelwyr.

  10. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 19:55 GMT 26 Mawrth

    A dweud y gwir, fe allai Cymru fod wedi cael ambell gic rydd arall yn y munudau agoriadol yma....

    Mae Memic newydd weld cerdyn melyn cyntaf y gêm.

  11. Dechrau bywiogwedi ei gyhoeddi 19:52 GMT 26 Mawrth

    Dyma ddechrau bywiog i'r gêm, fel y disgwyl.

    Mae Cymru yn ennill cic rydd ar ymyl y cwrt cosbi, ond Bosnia yn hawlio'r bêl yn ôl yn syth.

    Mae'n edrych fel y bydd hon yn gêm gorfforol a chystadleuol.

  12. Barn y cefnogwyrwedi ei gyhoeddi 19:46 GMT 26 Mawrth

    Cefnogwyr Cymru

    Ac mae cefnogwyr Cymru hefyd yn llawn gobaith... am heno, o leiaf.

    Mae Sian, Elin, Elen a Sioned wedi teithio o Felinheli ar gyfer gêm heno yng Nghaerdydd.

    “Rydyn ni’n nerfus, ond dw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn hyderus ar gyfer heno ond nos Fawrth, dw i ddim yn rhy siŵr. Mae’r cyfan yn dibynnu ar bwy fydd yn ennill y rownd gynderfynol arall.

    “Dw i’n meddwl os awn ni drwodd, os cawn ni Ogledd Iwerddon, byddan nhw’n fwy tebygol o gael gôl hwyr yn ein herbyn ni."

  13. Criw Radio Cymru yn obeithiolwedi ei gyhoeddi 19:40 GMT 26 Mawrth

    Draw ar BBC Radio Cymru, mae Iwan Roberts, Kath Morgan a Heledd Anna yn gwneud ei gorau i glywed ei gilydd dros ruo Yma o Hyd a Zombie Nation!

    Wrth edrych yn ôl ar yr ymgyrch hyd yma, awgrymodd Iwan Roberts bod rheswm i deimlo'n obeithio heno:

    "Ryda ni wedi bod yn ddewr, wedi dangos cymeriad. Roedd pwysau yn y gemau olaf i gael pwyntiau. Fe wnaeth y garfan ddangos bod ysbryd a chymeriad a digon yn y chwaraewyr i guro gemau."

    Ac yn ôl Kath Morgan, fe allai'r fantais o chwarae adref fod yn bwysig i Gymru: "Mae hanes yn dangos mor bwysig yw hi i chwarae yma. I mi, dyma'r naws a dyma'r cefnogwyr sydd wedi bod tu ôl i Gymru am y ddegawd ddiwethaf.

    "Mae 100% yn fuddiol i ni chwarae adref - dwi'n gobeithio y cawn ni noson i'w chofio."

    Gwrandewch ar frig y dudalen hon.

  14. Dau newid i dîm Cymruwedi ei gyhoeddi 19:27 GMT 26 Mawrth

    Mae Craig Bellamy wedi gwneud dau newid i'r tîm wnaeth ennill o 7-1 yn erbyn Gogledd Macedonia ym mis Tachwedd.

    Mae Ethan Ampadu, yn dychwelyd o'i waharddiad i fod yn gapten ar y tîm, gan gymryd lle Josh Sheehan.

    Jordan James sy'n ymuno ag o yng nghanol y cae, a hynny yn lle Liam Cullen.

    Cymru: Darlow; Williams, Rodon, Lawlor, Dasilva; Ampadu, J. James; D. James, Brooks, Wilson, Johnson.

    Eilyddion: Ward, King, Cabango, Kpakio, Norrington-Davies, J. Colwill, Sheehan, Cullen, Thomas, Broadhead, Koumas, Harris.

    Bosnia-Herzegovina: Vasilj; Dedic, Katic, Muharemovic, Kolasinac; Memic, Tahirovic, Bajraktarevic, Sunjic; Demirovic, Dzeko.

    Eilyddion: Hadzikic, Zlomislic, Mujakic, Radeljic, Celik, Basic, Gigovic, Hadziahmetovic, Bazdar, Tabakovic, Alajbegovic, Burnic.

  15. 'Gêm allai fynd i'r naill gyfeiriad neu'r llall'wedi ei gyhoeddi 19:19 GMT 26 Mawrth

    Nathan Blake
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC One Wales

    Dyma un o'r gemau hynny a allai fynd i'r naill gyfeiriad neu'r llall. Mae Cymru'n wych wrth ymosod, ond ddim mor gryf ag yr ydym fel arfer yn amddiffynnol.

    Rydyn ni'n wynebu tîm o Bosnia sy'n hoffi amddiffyn a gwrthymosod. Felly pa bynnag dîm sy'n cyflawni eu cynllun gêm orau fydd yn mynd â hi.

  16. Brenin Corwenwedi ei gyhoeddi 19:12 GMT 26 Mawrth

    Pedair blynedd yn ôl i'r wythnos yma fe sgoriodd Gareth Bale ddwy gôl gofiadwy yn erbyn Awstria yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2022.

    Tra'i bod yn anodd dychmygu unrhyw chwaraewr yn llenwi esgidiau'r prif sgoriwr yn hanes Cymru, mae Harry Wilson yn rhoi cynnig go dda arni.

    Fe enillodd ei gap cyntaf yn 16 oed, a hynny fel eilydd hwyr yn erbyn Gwlad Belg yn 2013.

    Digwydd bod, honno oedd gêm olaf Craig Bellamy dros ei wlad. Ychydig funudau ar ôl i Wilson gyrraedd y cae fe greodd Bellamy gôl i Aaron Ramsey i ddod â Chymru'n gyfartal.

    Darllenwch fwy am Frenin Corwen yma.

  17. Beth arall sy'n digwydd heno?wedi ei gyhoeddi 19:05 GMT 26 Mawrth

    Mae heno'n noson llawn cyffro o ran gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

    Dim ond un o wyth gêm yn y gemau ail gyfle yw gêm Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina.

    Mae Twrci yn barod wedi ennill 1-0 yn erbyn Romania mewn gêm gynnar, tra bod chwe gêm arall, gan gynnwys yr Eidal yn erbyn Gogledd Iwerddon, yn dechrau am 19:45.

    Mewn mannau eraill, mae'r Weriniaeth Tsiec yn croesawu Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Macedonia yn teithio i Ddenmarc, Albania yn wynebu Gwlad Pwyl, Slofacia yn chwarae gartref yn erbyn Kosovo a'r Wcráin yn chwarae yn erbyn Sweden.

  18. Cwpan y Byd arall 'tu hwnt i bob breuddwyd'wedi ei gyhoeddi 18:55 GMT 26 Mawrth

    Byddai cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am yr ail dro yn olynol "tu hwnt i bob breuddwyd" yn ôl Ben Davies.

    Ni fydd yr amddiffynnwr 32 oed yn chwarae heno nag mewn unrhyw gêm nos Fawrth, a hynny ar ôl torri ei ffêr wrth chwarae i Tottenham ym mis Ionawr.

    Ond ar ôl bod yn gapten am y rhan fwyaf o'r ymgyrch ragbrofol, dywedodd Davies wrth BBC Cymru y byddai cyrraedd rownd derfynol fawr arall yn gamp anhygoel.

    Er na fydd yn chwarae heno, bydd i'w weld ar y cae cyn yr anthemau wrth gael ei anrhydeddu gyda chap aur er mwyn nodi 100 ymddangosiad dros ei wlad.

  19. Beth yw llwybr Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2026?wedi ei gyhoeddi 18:46 GMT 26 Mawrth

    Ar ôl gorffen yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol, mae Cymru angen dwy fuddugoliaeth er mwyn hawlio lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA.

    Er fod Bosnia-Herzegovina 36 safle'n is na Chymru ar restr detholion y byd, mae tîm Craig Bellamy gêm gystadleuol heno.

    Roedd Bosnia-Herzegovina 13 munud i ffwrdd o gyrraedd Cwpan y Byd heb orfod wynebu gemau ail gyfle. Oni bai eu bod wedi ildio gôl hwyr yn erbyn Awstria yn eu gêm olaf, nhw fyddai wedi gorffen ar frig grŵp H.

    Yr enw mwyaf cyfarwydd yn eu carfan ydi Edin Dzeko, ac er ei fod bellach yn 40 oed mae disgwyl y bydd yn fygythiad i obeithion Cymru heno.

    Dzeko yw'r prif sgoriwr yn hanes Bosnia gyda 72 gôl, ac mae o wedi sgorio chwe gôl yn ei wyth gêm ddiwethaf i glwb Schalke yn Yr Almaen.

    Darllenwch ddadansoddiad Owain Llŷr yma.

  20. Gwrandewch ar sylwebaeth BBC Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 18:45 GMT 26 Mawrth

    Mae Alun Williams a Carl Roberts ymysg y cefnogwyr du allan i Stadiwm Dinas Caerdydd ar hyn o bryd, gwrandewch yn fyw ar frig y dudalen hon.

    Carl ac Alun