Prysurdeb yn y Bae!wedi ei gyhoeddi 13:50 GMT+1 12 Mai
Daniel Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Ar hyd y blynyddoedd dwi wedi gwylio cyfarfodydd di-ri o’r Senedd - rhai ohonyn nhw’n llai cofiadwy nag eraill.
Ond mae heddiw am fod yn gyfarfod tra gwahanol, gyda newid mawr wedi bod yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Des i lawr i’r siambr yn gynnar i sicrhau fod mod i’n cael tocyn i’r galeri cyhoeddus.
Mae ‘na alw mawr am seddi i wylio’r sesiwn heddiw, yn ôl y sôn, gyda’r holl aelodau newydd yn gwahodd eu teuluoedd i’r Bae.




