Crynodeb

  • Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi ei ethol yn brif weinidog

  • Dywedodd yn ei araith fod "ein dyddiau gorau o'n blaenau" i Gymru

  • Huw Irranca-Davies o'r blaid Lafur wedi'i ethol yn Llywydd, a Kerry Ferguson o Blaid Cymru yn ddirprwy Lywydd

  • Roedd y Gwyrddion wedi cefnogi ethol Rhun ap Iorwerth, tra bo' Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymatal

  • Roedd aelodau Reform wedi pleidleisio o blaid Dan Thomas, a'r Ceidwadwyr o blaid Darren Millar

  • Dyma oedd y tro cyntaf i'r Senedd gwrdd ers yr etholiad yr wythnos diwethaf

  • Plaid Cymru enillodd y mwyaf o seddi yn yr etholiad - 43 - ond maen nhw chwe aelod yn brin o fwyafrif

  • Enillodd Reform 34 sedd, Llafur 9, Ceidwadwyr 7, Y Blaid Werdd 2, a'r Democratiaid Rhyddfrydol 1

  1. Iechyd yn her sylweddol i'r llywodraeth newyddwedi ei gyhoeddi 16:25 GMT+1 12 Mai

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Bydd llywodraeth newydd Plaid Cymru yn wynebu sawl her wrth iddi ddechrau ei gwaith - ond ymhlith y mwyaf sylweddol fydd dod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

    Fel cyn-lefarydd iechyd i'w blaid fe fydd Rhun ap Iorwerth yn ymwybodol iawn o hynny.

    Mae iechyd a gofal cymdeithasol eisoes yn llyncu tua 55% o holl gyllideb y llywodraeth ar gyfer gwariant dydd i ddydd.

    Ac os yw'r llywodraeth newydd am gynyddu'r arian sy'n mynd i'r meysydd hynny, bydd angen - fwy na thebyg - gwneud penderfyniadau mawr ynglŷn â pha doriadau fyddai eu hangen o fewn cyllidebau eraill.

    Mae Plaid Cymru yn barod wedi addo recriwtio hyd at 100 o feddygon teulu ychwanegol - er nad yw'r amserlen ar gyfer hynny eto'n amlwg.

    Ond fe allai gwario ar staff ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd gyfyngu ar allu'r llywodraeth newydd i fod yn fwy hael gyda'r staff presennol.

  2. Ni’n beilo nawr!wedi ei gyhoeddi 16:20 GMT+1 12 Mai

    Neges llongyfarchiadau ar belen gwair

    Fydd hwn ddim yn un hawdd i’w gadw yn y drôr efo gweddill y cardiau llongyfarchiadau…

    Wrth i arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth baratoi i gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru, mae rhywun yn ei etholaeth wedi datgan barn yn glir.

    Mewn cae yn y pentref lle mae Mr Iorwerth yn byw ar Ynys Môn, mae’r neges yma wedi ei osod ar ochr belen wair fawr: “Llongyfarchiadau Rhun Prif Weinidog cyntaf Llangristiolus”.

  3. Pwy ydi Rhun ap Iorwerth?wedi ei gyhoeddi 16:15 GMT+1 12 Mai

    Tua 100 mlynedd ar ôl sefydlu Plaid Cymru, ac ar ôl tua chanrif o oruchafiaeth Llafur yng Nghymru, mae un cyfnod gwleidyddol yn dod i ben, ac un arall yn dechrau.

    Wrth i afael hir Llafur ar rym ddirwyn i ben yn ddisymwth, mae arweinydd Plaid Cymru yn brif weinidog am y tro cyntaf ar ôl etholiad llwyddiannus.

    Mae'n nodi newid rhyfeddol o'i gymharu â thair blynedd yn ôl, pan etifeddodd Rhun ap Iorwerth blaid mewn anhrefn.

    Roedd adroddiad beirniadol ar "ddiwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn Plaid Cymru wedi gorfodi ei ragflaenydd, Adam Price, i ymddiswyddo, gan adael y blaid yn wynebu argyfwng o hyder a hygrededd.

    Felly beth ydyn ni'n ei wybod am seithfed prif weinidog Cymru? Dyma broffil ohono.

    Rhun ap Iorwerth yn gohebu i'r BBC yn 1998
  4. Huw Irranca-Davies - y pedwerydd Llywydd yn hanes datganoliwedi ei gyhoeddi 16:10 GMT+1 12 Mai

    Huw Irranca-Davies ydi’r pedwerydd person i ddal swydd y Llywydd ers dechrau datganoli.

    Mae’n cymryd yr awenau gan Elin Jones, Plaid Cymru, fu’n gwneud y swydd am 10 mlynedd. Rosemary Butler, o’r Blaid Lafur, oedd yn y rôl cyn hynny – rhwng 2011-2016.

    Llywydd cynta’r Senedd – neu’r Cynulliad fel oedd bryd hynny - oedd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, hefyd o Blaid Cymru. Roedd yn Llywydd rhwng 1999 a 2011.

    Huw Irranca-DaviesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  5. Rhun ap Iorwerth - seithfed Prif Weinidog Cymruwedi ei gyhoeddi 16:04 GMT+1 12 Mai

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Rhun ap Iorwerth ydi seithfed prif weinidog Cymru - a’r cyntaf sydd ddim o’r Blaid Lafur.

    Prif Ysgrifennydd oedd enw gwreiddiol y rôl ac Alun Michael oedd yr un cyntaf, nôl yn 1999. Bu wrth y llyw am lai na blwyddyn cyn iddo ymddiswyddo, pan etholwyd Rhodri Morgan yn ei le.

    Wedi degawd yn y swydd fe wnaeth Mr Morgan drosglwyddo’r awenau i Carwyn Jones, fu’n arwain am naw mlynedd rhwng 2009 a 2018, gan gynnwys drwy gyfnod heriol Clwy’r Traed a’r Genau.

    Cyfnod heriol arall oedd yn wynebu ei olynydd Mark Drakeford wrth iddo dreulio rhan helaeth o’i bum mlynedd wrth y llyw yn delio gyda'r pandemig Covid.

    Wedi i Mr Drakeford ymddiswyddo, fe gafodd Vaughan Gething ei ethol yn Brif Weinidog Cymru fis Mawrth 2024.

    Yn dilyn 138 diwrnod cythryblus, fe ymddiswyddodd gan arwain at Eluned Morgan yn cael ei hethol fis Awst 2024. Daeth ei chyfnod hi - a Llafur wrth y llyw - i ben yn dilyn yr etholiad yr wythnos diwethaf.

  6. Lluniau: O'r Siambrwedi ei gyhoeddi 15:59 GMT+1 12 Mai

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Rhun ap Iorwerth wedi ei ethol yn brif weinidog newydd Cymru y prynhawn 'ma

    Rhun ap iorwerth yn y siambrFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Y foment y cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol yn brif weinidog

    Huw Irranca-DaviesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Huw Irranca-Davies o'r blaid Lafur gafodd ei ethol yn Llywydd newydd y Senedd, gan olynu Elin Jones

    Kerry FergusonFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Kerry Ferguson o Blaid Cymru gafodd ei hethol yn ddirprwy Lywydd

  7. 'Braint fy mywyd' - Rhun ap Iorwerthwedi ei gyhoeddi 15:53 GMT+1 12 Mai

    Gwyliwch araith prif weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi iddo gael ei ethol.

    Disgrifiad,

    Araith Rhun ap Iorwerth

  8. Beth nesaf i Rhun ap Iorwerth?wedi ei gyhoeddi 15:49 GMT+1 12 Mai

    Er i Rhun ap Iorwerth gael ei ethol gan y Senedd i fod yn brif weinidog newydd Cymru, mae 'na swyddogaethau y mae disgwyl iddo eu cyflawni yn syth.

    Y swyddogaeth gyntaf fydd tyngu llw gyda barnwr Uchel Lys - o fewn yr oriau nesaf - fydd yn golygu ei fod yn bennaeth gwleidyddol ar Lywodraeth Cymru yn gyfreithiol.

    Yna, bydd rhaid iddo ddewis gweinidogion. Rydyn ni'n disgwyl iddo wneud hyn yfory, ar ei ddiwrnod llawn cyntaf yn y swydd.

  9. Cyfarfod cyntaf y seithfed Senedd ar benwedi ei gyhoeddi 15:46 GMT+1 12 Mai

    Mae'r trafodaethau nawr wedi dod i ben, ond dyw cyfrifoldebau newydd Rhun ap Iorwerth ddim wedi'u cwblhau eto...

  10. 'Tasg aruthrol o'ch blaen'wedi ei gyhoeddi 15:42 GMT+1 12 Mai

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar, yn llongyfarch Rhun ap Iorwerth ar "ganlyniad etholiad aruthrol" ond mae'n rhybuddio bod "tasg aruthrol o'ch blaen" wrth fynd i'r afael a'r heriau yn y gwasanaeth iechyd, addysg ac ati.

    Ond mae ei araith yn cymryd tro, wrth iddo ddweud bod y ffaith fod Huw Irranca-Davies wedi symud o fod yn ddirprwy brif weinidog i swydd ddiduedd y Llywydd "yn drewi".

  11. Ken Skates yn cymharu ei grŵp i Lord of the Ringswedi ei gyhoeddi 15:40 GMT+1 12 Mai

    Ag yntau'n hoff iawn o Lord of the Rings, mae Ken Skates yn codi gwên ar weddill y Senedd wrth iddo wneud cymhariaeth â'i grŵp ei hun o ASau.

    “Efallai mai dim ond grŵp o naw ydyn ni nawr, ond yn anad dim rydym yn gymrodoriaeth (fellowship),” meddai.

    “A gadewch i ni gofio, yn The Fellowship of the Ring, dim ond naw wnaeth oresgyn yr anawsterau enfawr i ddymchwel ymerodraeth, dan arweiniad eu Gandalf eu hunain [gan gyfeirio at Huw Irranca-Davies], a fydd nawr yn ein harwain ac yn amddiffyn ein democratiaeth gyda'i fyrllysg newydd sgleiniog."

  12. Llafur hefyd yn addo bod yn 'wrthblaid effeithiol'wedi ei gyhoeddi 15:35 GMT+1 12 Mai

    Dywed Ken Skates, arweinydd dros dro Llafur, ei fod yn falch o gyflawniadau ei blaid mewn llywodraeth ac y bydd nawr yn "wrthblaid effeithiol" ac "yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl Cymru".

    "Does neb yn gwybod yn well na'n plaid ei bod hi'n fraint llywodraethu," meddai.

    Mae'n rhoi teyrnged i'r rhai nad ydynt wedi dychwelyd, gan gynnwys Eluned Morgan, a ddangosodd "gymaint o urddas".

  13. Reform i fod yn 'wrthwynebiad cadarn'wedi ei gyhoeddi 15:32 GMT+1 12 Mai

    Dywed Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, y byddan nhw "fel yr wrthblaid fwyaf, yn cynnig gwrthwynebiad cadarn a llais i'r cymunedau sydd wedi eu gadael ar ôl, a byddwn yn chwalu'r consensws clyd".

    Ychwanegodd fod "mwyafrif o blaid yr undeb" yn y Senedd.

    "Mae dyfodol Cymru ffyniannus o fewn y Deyrnas Unedig llwyddiannus," meddai.

  14. Gwyliwch Rhun ap Iorwerth yn cael ei etholwedi ei gyhoeddi 15:31 GMT+1 12 Mai

    Cymeradwyaeth yn y Senedd wrth i Rhun ap Iorwerth gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru.

    Disgrifiad,

    Ethol Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru

  15. 'Rhywbeth newydd wedi ei danio yn enaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 15:31 GMT+1 12 Mai

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen at y sesiynau wythnosol o gwestiynau i’r prif weinidog gyda Dan Thomas o Reform.

    “Mi wna i ddysgu yn gynt na’n hwyrach os oedd yn fwy o hwyl i ofyn y cwestiynau na’u hateb,” meddai.

    “Mae rhywbeth newydd wedi ei danio yn enaid Cymru,” ychwanegodd.

    “Hyder newydd, gobaith newydd. Gorwel ehangach a newydd, na fydd yn cael ei gulhau byth eto.

    “O’r foment hanesyddol hwn ymlaen, bydd pob person ym mhob rhan o’n cenedl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn llywodraeth iddyn nhw.

    “Fy addewid i bawb yw y byddaf yn arwain heb ragfarn neu ragdybiaeth. Ni fyddaf byth yn cymryd y fraint hon yn ganiataol.”

  16. 'Ein dyddiau gorau o'n blaenau'wedi ei gyhoeddi 15:27 GMT+1 12 Mai

    Mae Rhun ap Iorwerth yn parhau: "Byddwn yn troi'r genhadaeth honno o garedigrwydd a goddefgarwch yn gefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen fwyaf.

    "Mae Cymru yn winllan sydd wedi'i hymddiried yn ein gofal, a byddwn yn gofalu amdani.

    "Pan fydd tosturi yn cael ei gefnogi gan y dewrder i weithredu, a phan fydd cydnabyddiaeth o'n potensial heddiw yn cwrdd â dyhead ar y cyd i sicrhau yfory gwell, dyna pryd y bydd llais ein cenedl yn canu gryfaf.

    "Dyna pryd y gwyddom fod ein dyddiau gorau o'n blaenau."

  17. 'Ad-dalu'r ymddiriedaeth'wedi ei gyhoeddi 15:20 GMT+1 12 Mai

    "Dwi'n ysu i ad-dalu'r ymddiriedaeth y mae pobl Cymru wedi ei rhoi ynddon ni, ac i wireddu'r newid y mae pobl wedi datgan mor glir y maen nhw am ei weld," meddai Rhun ap Iorwerth.

    Mae hefyd yn llongyfarch y Llywydd a’r dirprwy Lywydd newydd.

    Mae’n rhoi teyrnged i’r cyn-brif weinidog Eluned Morgan yn ogystal, gan ddweud ei bod wedi “llywio ei llywodraeth gyda brwdfrydedd a balchder bob amser”.

  18. 'Braint fy mywyd'wedi ei gyhoeddi 15:18 GMT+1 12 Mai

    Mae Rhun ap Iorwerth yn annerch y Senedd.

    "Braint fy mywyd i yw cael fy ethol yn brif weinidog ar y genedl sy'n golygu cymaint i mi.

    "Dwi'n dechrau'r daith yn wylaidd, yn ddyledus i gefnogaeth a chariad fy nheulu sydd yma heddiw, a fy mam sydd a'i dylanwad arnaf gymaint ag erioed."

  19. Teulu a ffrindiau Rhun ap Iorwerth dan deimladwedi ei gyhoeddi 15:16 GMT+1 12 Mai

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae teulu a ffrindiau Rhun ap Iorwerth yma yn y galeri ac maen nhw'n amlwg dan deimlad o’i weld yn cael ei ethol yn brif weinidog.

    Moment emosiynol iddyn nhw i gyd.

  20. Ethol Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymruwedi ei gyhoeddi 15:11 GMT+1 12 Mai
    Newydd dorri

    Mae'r Llywydd yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais.

    Rhun ap Iorwerth - 44

    Dan Thomas - 34

    Darren Millar - 7

    Ymatal - 9

    Felly mae Rhun ap Iorwerth yn cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru.

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd Cymru