Crynodeb

  • Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi ei ethol yn brif weinidog

  • Dywedodd yn ei araith fod "ein dyddiau gorau o'n blaenau" i Gymru

  • Huw Irranca-Davies o'r blaid Lafur wedi'i ethol yn Llywydd, a Kerry Ferguson o Blaid Cymru yn ddirprwy Lywydd

  • Roedd y Gwyrddion wedi cefnogi ethol Rhun ap Iorwerth, tra bo' Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymatal

  • Roedd aelodau Reform wedi pleidleisio o blaid Dan Thomas, a'r Ceidwadwyr o blaid Darren Millar

  • Dyma oedd y tro cyntaf i'r Senedd gwrdd ers yr etholiad yr wythnos diwethaf

  • Plaid Cymru enillodd y mwyaf o seddi yn yr etholiad - 43 - ond maen nhw chwe aelod yn brin o fwyafrif

  • Enillodd Reform 34 sedd, Llafur 9, Ceidwadwyr 7, Y Blaid Werdd 2, a'r Democratiaid Rhyddfrydol 1

  1. Aros am y canlyniadwedi ei gyhoeddi 15:09 GMT+1 12 Mai

    Mae'r holl aelodau wedi pleidleisio, ac rydyn ni'n aros am ganlyniad swyddogol.

    Mae aelodau Llafur a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Senedd wedi atal eu pleidlais, felly y disgwyl yw y bydd Rhun ap Iorwerth yn llwyddiannus.

  2. Tri enwebiad ar gyfer prif weinidogwedi ei gyhoeddi 14:57 GMT+1 12 Mai

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cael ei enwebu gan Blaid Cymru.

    Enwebir Darren Millar gan y Ceidwadwyr.

    Mae Dan Thomas yn cael ei enwebu gan Reform.

    Mae'r holl aelodau nawr yn pleidleisio ar lafar.

  3. Sut fydd y bleidlais yn gweithio?wedi ei gyhoeddi 14:53 GMT+1 12 Mai

    Bydd y bleidlais i gadarnhau pwy fydd brif weinidog yn digwydd wrth i aelodau gyhoeddi enw ar lafar fesul un.

    Mae’r drefn hon ychydig yn anghyffredin, a dydyn ni ddim fel arfer yn gweld y math yma o bleidlais yn digwydd yn y Senedd - mae’n golygu bod enwau Aelodau’r Senedd yn cael eu darllen yn uchel fesul un.

    Bydd yn rhaid i bob aelod nodi ar lafar pwy maen nhw’n ei gefnogi.

    Bydd arweinwyr yn gorfod enwi eu hunain - felly bydd Rhun ap Iorwerth yn gorfod dweud ei fod yn cefnogi Rhun ap Iorwerth.

    Dylai arweinydd Plaid Cymru gael ei ethol am fod ganddo gefnogaeth y Blaid Werdd, tra bod disgwyl i’r blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol ymatal.

    Yr enillydd fydd un ai:

    • Os oes dau berson wedi eu henwebu, yr un gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau
    • Os oes tri neu fwy wedi eu henwebu, yr un fydd â mwy o bleidleisiau na'r gweddill gyda’i gilydd
  4. Enwebiadau ar gyfer prif weinidogwedi ei gyhoeddi 14:53 GMT+1 12 Mai

    Rydym yn symud ymlaen i enwebiadau ar gyfer prif weinidog.

  5. Pwy yw Kerry Ferguson?wedi ei gyhoeddi 14:52 GMT+1 12 Mai

    Y dirprwy Lywydd newydd yw Kerry Ferguson, AS newydd Plaid Cymru.

    Roedd hi'n arfer bod yn Faer ar dref Aberystwyth, ac mae'n AS ar gyfer Ceredigion Penfro - sy'n cwmpasu ardaloedd Ceredigion a Sir Benfro.

    Mae Ms Ferguson yn newydd i'r Senedd ac roedd yn rhan o'r criw Plaid Cymru newydd yn etholiadau'r Senedd yr wythnos diwethaf.

    Mae hi'n olynu David Rees fel dirprwy Lywydd, oedd wedi methu â chael ei ailethol y tro hwn.

  6. Ethol Kerry Ferguson yn ddirprwy Lywyddwedi ei gyhoeddi 14:51 GMT+1 12 Mai
    Newydd dorri

    Mae Plaid Cymru yn cynnig enw Kerry Ferguson i fod yn ddirprwy Lywydd.

    Nid oes enwebiad arall, ac nid oes gwrthwynebiad, felly mae hi'n cael ei hethol.

    Kerry FergusonFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  7. 'Rwy'n addo gweithio gyda'r holl aelodau'wedi ei gyhoeddi 14:47 GMT+1 12 Mai

    Gwyliwch araith Huw Irranca-Davies wrth iddo gyflwyno ei achos i'w gyd-aelodau ei ethol yn Llywydd yn gynharach.

    Disgrifiad,

    Huw Irranca-Davies yw'r Llywydd newydd

  8. Ethol Huw Irranca-Davies yn Llywyddwedi ei gyhoeddi 14:46 GMT+1 12 Mai
    Newydd dorri

    Mae'r aelodau yn ôl yn y Siambr ac mae Elin Jones yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais i ethol Huw Irranca-Davies yn Llywydd.

    O blaid - 85

    Ymatal - 1

    Yn erbyn - 9

    Felly mae Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Llywydd y Senedd, ac ef sy'n cadeirio ar unwaith.

    Yr eitem nesaf yw ethol dirprwy Lywydd.

    Huw Irranca-DaviesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  9. Beth sy'n digwydd ar hyn o bryd?wedi ei gyhoeddi 14:39 GMT+1 12 Mai

    I'ch atgoffa, mae pleidlais gudd yn digwydd ar hyn o bryd er mwyn ethol Llywydd - mae'r ffrwd gwylio wedi'i atal am y tro tra bod hynny'n digwydd.

    Huw Irranca-Davies yw'r unig enwebiad, felly pleidlais o'i blaid neu yn erbyn fydd hon.

    Mae BBC Cymru’n deall bod yr AS Ceidwadol Darren Millar wedi gwrthwynebu'r enwebiad.

    Mae'n rhaid i'r ASau aros i bleidleisio mewn ystafell ger siambr y Senedd.

    Wedi hynny bydd dirprwy Lywydd yn cael ei ethol. Yr awgrym ar hyn o bryd yw mai Kerry Ferguson o Blaid Cymru fydd yr unig enwebiad.

    Yna, bydd y broses o ethol prif weinidog yn dechrau.

  10. Plaid Cymru 'yn dibynnu' ar gefnogaeth Llafurwedi ei gyhoeddi 14:37 GMT+1 12 Mai

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Heddiw mae’r 96 aelod newydd yn cwrdd am y tro cyntaf yn y Senedd - ond unwaith y bydd y prif weinidog, Llywydd a’r dirprwy Lywydd wedi eu hethol, faint o gyd-weithio fydd yn digwydd?

    Er na fydd Llafur yn gallu ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, mae ganddyn nhw dal rym, meddai’r sylwebydd gwleidyddol yr Athro Syr Deian Hopkin.

    Dywedodd ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru: “Yn y pendraw y cwestiwn mawr ydi beth mae Llafurwyr yn y Senedd - naw ohonyn nhw - yn mynd i wneud, achos mae ganddyn nhw safle mathemategol o fewn y Senedd.

    "Achos mae’n rhaid i’r llywodraeth newydd, fydd yn cael ei arwain gan Blaid Cymru, bydd rhaid iddyn nhw ddibynnu ar rai elfennau o’r blaid Lafur i’w cefnogi nhw.

    "Mae hynny’n mynd i fod yn gwestiwn diddorol iawn - sut i ddatrys hynny.”

  11. Dwsinau o ymgyrchwyr a chefnogwyr Plaid Cymru ynowedi ei gyhoeddi 14:26 GMT+1 12 Mai

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae 'na ddwsinau o ymgyrchwyr a chefnogwyr Plaid Cymru wedi ymgasglu yn aros i gael mynd i’r oriel i weld Rhun ap Iorwerth yn cael ei ethol yn Brif Weinidog.

    Mae’r cyn-arweinydd Ieuan Wyn Jones yma, yn ogystal â’r cyn-Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Cynog Dafis.

    Rhun yn y senedd
  12. Ffrindiau ar draws y pleidiauwedi ei gyhoeddi 14:20 GMT+1 12 Mai

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    'Da ni’n aml yn gweld cryn dipyn o ddadlau a ffraeo rhwng y pleidiau yn y siambr yma.

    Ond y gwirionedd yw bod gan yr aelodau lot o barch i’w gilydd ac mae 'na ffrindiau ar draws y pleidiau hefyd.

    Wrth i'r aelodau fynd allan i bleidleisio nawr, daeth arweinydd y Ceidwadwyr Darren Millar i fyny at Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru i ysgwyd ei law, gyda Huw Irranca-Davies o’r blaid Lafur - yr unig enwebiad i fod yn Llywydd - yn ymuno â nhw am sgwrs hefyd.

    Tra bod yr aelodau’n dal i bleidleisio mae Huw Irranca-Davies yn cael gwers sydyn ar sut mae defnyddio cyfrifiadur y Llywydd.

    Mi fydd ganddo reolaeth dros feicroffonau’r holl aelodau unwaith y mae yn y sedd.

  13. Criw Plaid Cymru yn cyrraedd y Seneddwedi ei gyhoeddi 14:15 GMT+1 12 Mai

    Dyma oedd yr olygfa yn y prynhawn 'ma wrth i aelodau etholedig newydd Plaid Cymru gyrraedd y Senedd.

    Disgrifiad,

    Grŵp Plaid Cymru yn cerdded i'r Siambr

  14. Ai Kerry Ferguson fydd y dirprwy Lywydd?wedi ei gyhoeddi 14:12 GMT+1 12 Mai

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dwi’n deall y bydd Plaid Cymru yn cynnig enw Kerry Ferguson ymlaen i fod yn ddirprwy Lywydd.

    Byddai hyn yn golygu bod Elin Jones yn pasio’r baton ymlaen i aelod arall o Geredigion - er, fel dirprwy yn hytrach na Llywydd.

  15. 'Profiad eang'wedi ei gyhoeddi 14:09 GMT+1 12 Mai

    Dywed Huw Irranca-Davies bod ganddo y "profiad eang" ar gyfer y swydd a'i fod "yn credu yng ngrym y sefydliad democrataidd hwn i wella bywydau pobl yng Nghymru".

    "Os caf fy ethol, dwi'n addo gweithio gyda phawb yn y siambr, gydag atebolrwydd ac yn ddiduedd".

    Bydd pleidlais gyfrinachol nawr yn cael ei chynnal, ac mae'r cyfarfod wedi'i atal er mwyn galluogi i aelodau wneud hynny.

  16. Enwebiadauwedi ei gyhoeddi 14:03 GMT+1 12 Mai

    Mae Huw Irranca-Davies yn cael ei enwebu ac yn cael ei eilio.

    Mae Paul Davies yn cael ei enwebu ond ddim yn cael ei eilio.

    Dim ond Huw Irranca-Davies sy'n symud ymlaen felly.

    Ond gan fod rhywun yn dweud eu bod yn gwrthwynebu, rydyn ni nawr yn disgwyl pleidlais.

    Yn gyntaf, mae gan Mr Irranca Davies y cyfle i gyflwyno ei achos i'r Senedd.

  17. Galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddwedi ei gyhoeddi 14:02 GMT+1 12 Mai

    Yr eitem gyntaf yw ethol Llywydd i olynu Elin Jones.

    Mae hi'n llongyfarch y 96 Aelod newydd ac yn eu hatgoffa o'r "disgwyliadau uchel" gan bobl Cymru.

    Mae'r cadeirydd, Ms Jones, yn galw am enwebiadau.

    Rhaid i enwebiad gael ei eilio gan aelod nad yw'n perthyn i'r un grŵp gwleidyddol â'r aelod sy'n enwebu.

  18. Gwyliwch y trafodaethau'n fywwedi ei gyhoeddi 14:01 GMT+1 12 Mai

    Mae'r cyfarfod wedi dechrau - gallwch wylio'r trafodaethau yn fyw trwy glicio'r eicon chwarae ar frig y llif.

  19. Ethol dirprwy Lywydd yn ‘effeithio mwyafrif llywodraeth’wedi ei gyhoeddi 13:59 GMT+1 12 Mai

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Doedd hi ddim yn glir doe a fyddai'r bleidlais i ethol prif weinidog yn mynd yn ei blaen heddiw, oherwydd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai'n cymryd swydd y dirprwy Lywydd.

    Yn ôl rheolau sefydlog y Senedd, os yw'r Llywydd yn aelod o wrthblaid, yna mae rhaid i'r dirprwy Lywydd fod yn aelod o'r llywodraeth.

    Gydag enwau Huw Irranca-Davies o Lafur a Paul Davies o'r Ceidwadwyr eisoes yn y ras i fod yn Llywydd, roedd disgwyl i Blaid Cymru enwebu dirprwy - rhywbeth mae’r blaid bellach wedi cadarnhau y byddan nhw’n ei wneud.

    Yn ôl Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, y rheswm am yr ansicrwydd ydi’r effaith ar y llywodraeth newydd - gan nad ydi'r Llywydd na'r dirprwy fel rheol yn cael pleidleisio.

    “Mae ‘na bwysau wedi bod ar Blaid Cymru i fod yn enwebu heddiw ond mi fydd hynna wrth gwrs yn effeithio ar eu mwyafrif nhw fel llywodraeth a dyna pam oedden nhw ychydig yn anfoddog i neud hynny,” meddai Dr Royles ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

    “Felly mae [ethol y llywydd a’r dirprwy] yn broses ond mae’n broses bwysig er mwyn i’r Senedd allu gweithio mewn ffordd effeithiol ac mae nifer o rolau pwysig o gwmpas y rôl - yn cadeirio'r cyfarfodydd llawn ond hefyd bod yn wleidyddol ddiduedd ac yn y blaen yn y Siambr ac yng ngwaith y Senedd.”

  20. Diddordeb gan 'fwy nag un' o Blaid Cymru i fod yn ddirprwy Lywyddwedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1 12 Mai

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw'n enwebu dirprwy Lywydd, ond dyw hi ddim yn glir hyd yma pwy fydd hynny.

    Mae diddordeb gan "fwy nag un" o fewn Plaid Cymru mewn bod yn ddirprwy Lywydd, yn ôl un o ASau'r blaid.

    Dywedodd Llyr Gruffydd ar Dros Frecwast y bore 'ma bod "dau ymgeisydd arbennig iawn" i fod yn Llywydd - Huw Irranca-Davies a Paul Davies.

    Er y byddai'n ddigon hapus gweld un yn llywydd a'r llall yn ddirprwy, "nid dyna sy’n cael ei ganiatáu o fewn y rheolau".

    Gyda'r disgwyliad y bydd Plaid Cymru'n ffurfio'r llywodraeth nesaf, dywedodd: "Ein bwriad ar hyn o bryd yw bydd un o’r gwrthbleidiau ac un o’r llywodraeth.”