|
Y syniad yw rhoi lle amlycach i atyniad a anwybyddir ar hyn o bryd oherwydd ei leoliad.
Dadl y Dr Gwyn Thomas yw y byddai'n creu gryn argraff o'u gosod yn y llecyn yma, yn enwedig wrth ddod i'r dre' o gyfeiriad Rhuthun.
"Byddai'n olygfa drawiadol iawn", meddai, "hefo'r castell yn y cefndir ac yn ddi-os byddent yn sicr o ennyn diddordeb a chreu peth wmbredd o chwilfrydedd ymysg pobol ddŵad".
Yn ystod y drafodaeth yn Siambr y Cyngor fodd bynnag, mynegwyd amheuon gan sawl un ynglŷn ag ymarferoldeb y syniad ac anodd fyddai gallu dychmygu cynnal seremoni'r cyhoeddi a defodau eraill y Brifwyl ynghanol prysurdeb traffig ganol haf.
Yn ôl Mr Medwyn Jones, Clerc y Dre', dymuniad Pwyllgor Eisteddfod 2001 oedd na fyddent yn hoffi gweld y meini'n cael eu symud. Soniodd hefyd am y problemau posib ynglŷn â diogelwch a bod cwestiynau y dylid eu hystyried.
Ond yn y pen draw byddai'n rhad cael sêl bendith Gorsedd yr Eisteddfod cyn gwneud dim. Ysgwn i?
 |