|
Yr ydym yn ymfalchïo yn llwyddiant un o hogiau Dinbych, sef Bryn Dwyfor Williams, a fu'n cynrychioli Gogledd Cymru ar raglen BBC2 Great British Menu.
Y mae Bryn, sy'n 28 oed, yn fab i Eifion a Gwenda Williams, 70, Lon Tywysog, yn frawd i Gareth a Siôn ac yn ŵyr i Mrs Morfydd Williams, Bythynnod Wynne's Parc.
Ei wrthwynebydd ar Great British Menu oedd y fenyw o'r De Angela Hartnett.
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Frenhines yn 80, trefnwyd cystadleuaeth gan y BBC ar gyfer cogyddion gorau Prydain gan edrych wedyn at greu bwydlen 4 cwrs ar gyfer y dathliad mawr.
Gwahoddwyd Bryn i gystadlu ar ôl iddo ddod yn ail yng nghystadleuaeth Roux yn 2005 - ef oedd y Cymro cyntaf i gyflawni'r gamp honno.
Rhoddodd Bryn gyfri da ohono ei hun ar y rhaglenni a chofiodd ei wreiddiau gan sôn am ei deulu a dod yn ôl i'r ardal i gael cynnyrch o fferm ei ewythr yn Llanrhaeadr ac ymweld â siop Alwyn Thomas - yr un a roddodd ei swydd gyntaf iddo.
Bwriad Bryn yw dychwelyd i'w sir enedigol ac agor ei fwyty ei hun rywdro yn y
dyfodol ond Llundain yw'r ganolfan ar hyn o bryd.
Braf iawn yw gweld un o hogiau'r dref yn llwyddo mor arbennig. Pob dymuniad da iddo.
 |