BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Plant ar y We

1 Llefydd i gyhoeddi gwaith
2 Syrffio'n ddiogel
3 Bod yn effro i'r peryglon

Bod yn effro i'r peryglon

Mae'r papurau newydd wedi cynnwys digon o benawdau dychrynllyd i wneud rhieni'n ymwybodol o'r risgiau a allai fod yn gysylltiedig â chaniatáu i'w plant ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio ar y rhyngrwyd heb eu goruchwylio. Mae'r gwir berygl yn codi pan fo plentyn - a merched ifanc yn eu harddegau sy'n wynebu'r risg fwyaf - yn trefnu cyfarfod cyfrinachol â dieithryn llwyr y mae wedi cael sgyrsiau arlein ag ef.

Peidiwch byth, wrth gwrs, â gadael i'ch plant gyfarfod dieithryn fel hyn. Dylech hefyd fynnu nad yw plant byth yn datgelu manylion personol pan fônt arlein: eu henw, cyfeiriad, rhif ffôn, enw a chyfeiriad eu hysgol, eu cyfrinair rhyngrwyd - na'r digidau niferus hynny sydd ar gerdyn credyd mam. Atgoffwch eich plentyn dro ar ôl tro - mae plant galluog iawn hyd yn oed yn gallu bod yn hynod naïf. Yn ôl un arolwg gan NOP dywedodd yn agos at un rhan o dair o'r plant a gyfwelwyd y byddent yn rhoi eu cyfeiriad er mwyn dod o hyd i ffrind y maent wedi ei "gyfarfod" unwaith yn unig ar y rhyngrwyd.

Gyda rhai ystafelloedd sgwrsio ar gyfer plant, mae oedolyn yn gweithredu fel cymedrolwr er mwyn sicrhau bod pawb yn ymddwyn yn gall ond am ryw reswm od, nid yr ystafelloedd hyn yw'r rhai mwyaf poblogaidd!

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ganllaw Becta i ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio'n ddiogel.

Anogwch eich plentyn i ymweld â rhai o'r safleoedd sy'n egluro'r peryglon y gallent ddod ar eu traws ar-lein. Po fwyaf ymwybodol ydynt o'r risgiau posibl, po fwyaf tebygol y byddant o ddefnyddio'r rhyngrwyd yn gall.

Mae gan Safekids dudalennau ar gyfer plant iau ac ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau.

Cyfryngau chwilio addas i blant

Ask Jeeves for Kids
KidsClick
Lycos Kids
OneKey
Super-Kids
Yahooligans!

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 3 o 3|1 2 3  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy