Dyma'r dyddiau gorau, yn ôl llawer, ond mae'r blynyddoedd ysgol yn dod law yn llaw â'u problemau eu hunain.
O'r ymwahaniad poenus ar y diwrnod cyntaf i ymdopi gyda'r arddegau trawmatig, dyw cloch yr ysgol ddim o hyd yn dynodi amser i ffwrdd o gyfrifoldebau magu plant.
Maent yn ddyddiau anodd i'r plant hefyd ac mae ymdopi gyda her bywyd ysgol yn gallu bod yn straen enfawr. Mae 'na ddigon allwch chi wneud i helpu, serch hynny - o ddysgu sgiliau allweddol i'w paratoi ar gyfer yr ysgol i helpu gyda anhawsterau dysgu.