Nid darparu prydiau bwyd byth a beunydd a gwasanaeth golchi dillad yw'ch unig rôl - chi yw hefyd y person mwyaf dylanwadol a phwysig ym mywyd eich plentyn. Dim pwysau!
Chi yw'r un sydd yn y sefyllfa orau i siarad a rhoi sylw unigol i'ch plentyn, yn ogystal ag i wybod beth sy'n ei diddori nhw - ac yn gwneud iddyn nhw chwerthin.
Wedi'r cyfan, plant hapus a chytbwys yw dymuniad pob rhiant - ond sut allwch chi sicrhau fod eich plentyn yn ffynnu?
Mae angen help ar bob rhiant, hyd yn oed y rhai mwyaf profiadol - ac mae cymorth yn y cartref i chi yma.