|
Nodyn: Nid yw BMI bob amser yn adlewyrchiad da o faint o fraster sydd ar gorff. Gall fod gan berson cyhyrog BMI uchel er bod y braster ar ei gorff ar lefel iach - mae cyhyrau’n pwyso mwy na braster.
Os ydych chi am gyfrifo’ch BMI drosoch chi eich hun, dilynwch y camau hyn:
1. Gweithiwch allan eich taldra mewn metrau, a lluoswch y ffigwr hyn gan ei hun (hynny yw, sgwario’r ffigwr)
2. Mesurwch eich pwysau mewn cilogramau
3. Rhannwch y pwysau gan y taldra sgwâr (hynny yw, yr ateb i 1 uchod). Er enghraifft, efallai rydych chi’n 1.6m (5 troedfedd 3 modfedd) o daldra ac yn pwyso 65 cilogram (10 stôn). Dyma’r cyfrifiad:
1.6 x 1.6 = 2.56. Y BMI yw 65 wedi rhannu gan 2.56 = 25.39.
taldra x taldra = taldra2
pwysau / taldra2
|