Cyferbyniad ardaloedd
Roedd yna amrywiaeth fawr yn ansawdd bywyd pobl Prydain yn y 1930au, a dywedodd yr hanesydd Bryn O’Callaghan bod yna ddwy Brydain yn y 1930au
.
Yn sicr, roedd ardaloedd yr hen ddiwydiannau traddodiadol yn dioddef, er enghraifft:
- Cwm Rhondda (cloddio am lo)
- Swydd Gaerhirfryn (cotwm)
- Glannau Mersi a Jarrow (dur ac adeiladu llongau)
Cyfeiriodd Ellen Wilkinson, AS Jarrow, at Jarrow fel y dref a lofruddiwyd
.
Ond, roedd effaith Dirwasgiad y 1930au yn sylweddol wahanol ac yn llai trallodus mewn ardaloedd oedd yn elwa o gyflogaeth yn y diwydiannau ysgafn newydd, ee cerbydau modur a nwyddau trydanol.
Roedd yr ardaloedd yma’n bennaf yng nghanolbarth a de-ddwyrain Lloegr, ac yn sgil hynny cawson nhw fanteision o ran gwell tai a chysylltiadau trafnidiaeth yn ogystal â chynnydd mewn cyflogaeth a gallu i brynu nwyddau.
Mae’r cyferbyniad yma yn ategu’r ddadl bod yna wahaniaeth amlwg rhwng profiadau de-ddwyrain Cymru a gogledd Lloegr a’r bobl oedd yn byw yn ardaloedd mwy ffyniannus canolbarth a de-ddwyrain Lloegr.