Bywyd yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad‘Cael deupen llinyn ynghyd’ ac allfudo o Gymru

Roedd y Dirwasgiad yn gyfnod cythryblus i gymaint o deuluoedd ym Mhrydain ac roedden nhw’n wynebu nifer o heriau. Ond, yn rhyfeddol, roedd rhai ardaloedd wedi ffynnu yn ystod y 1930au. Sut oedd pobl yn gallu ymdopi â’r heriau yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

‘Cael deupen llinyn ynghyd’ ac allfudo o Gymru

Gallai diweithdra arwain at dlodi, methu â thalu am gostau byw sylfaenol a theimlad o anobaith. Roedd tlodi yn effeithio ar fywydau llawer o bobl yn gorfforol a meddyliol.

Roedd pwysau bywyd ar y dôl a delio â phwysau’r yn golygu bod bywyd yn anodd, ac felly roedd rhaid i bobl geisio cael deupen llinyn ynghyd.

Fel arfer, dim ond y dyn oedd yn ennill cyflog, felly pan oedd yn colli ei swydd roedd y teulu cyfan yn dioddef. Yn aml, y menywod oedd yn gorfod gwneud yr aberth mwyaf. Bydden nhw’n bwyta’r dognau lleiaf o fwyd wrth iddyn nhw straffaglu i fwydo eu teuluoedd.

Roedd teuluoedd tlawd yn aml yn bwyta llawer o fwyd rhad megis tatws a bara gyda margarîn, ac ychydig iawn o fwyd mwy maethlon megis cig, llysiau, ffrwythau ffres a llaeth. Roedd hynny’n golygu eu bod yn fwy tebygol o ddioddef afiechydon.

Dangosodd un arolwg yn Stockton-on-Tees fod teulu tlawd yn debygol o wario dim ond 3 swllt (15c) y pen ar fwyd bob wythnos, ond bod teulu mwy cyfoethog yn gwario o leiaf 6 swllt (30c). Yn 1936, roedd gan 4.5 miliwn o bobl Prydain deiet cwbwl annigonol.

Roedd menywod yn aml yn esgeuluso eu hiechyd eu hunain, ee yn peidio â phrynu meddyginiaethau pan oedden nhw’n sâl. Mae'r adroddiadau swyddogol yn cadarnhau bod niferoedd y marwolaethau wrth roi genedigaeth ac afiechydon menywod yn uwch yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain.

Gallai cael plentyn yn ystod y blynyddoedd hynny fod yn anodd iawn. Yn ogystal â’r gyfradd marwolaethau uwch, roedd hi’n anodd darparu’r pethau elfennol megis llaeth a chlytiau, ac yn aml defnyddiwyd pethau fel dŵr siwgr a hen bapurau newydd yn lle hynny.

Dynes yn gorchuddio twll mewn llawr ystafell adfeiliedig. Ei mab ifanc yn edrych arni
Image caption,
Mrs Margaret James o Ferthyr Tudful yng Nghymru, yn gorchuddio twll yn llawr ei hystafell wely a’i mab yn edrych arni (Mawrth 1939)

Roedd nifer o ferched yn ceisio gofalu am y cartref gydag ychydig iawn o arian, neu’n atgyweirio dillad. Yn aml roedden nhw’n chwilio am waith mewn gwasanaeth domestig neu drwy weithio fel cynorthwywyr siopau.

Roedden nhw’n aml yn derbyn cyflogau llai na dynion am hynny, a gallai hynny effeithio ar unrhyw ddôl y gallai’r gŵr ei dderbyn oherwydd y Prawf Modd. Bob blwyddyn roedd hi’n anoddach dod i ben ac atgyweirio wrth i fwy o nwyddau’r cartref a dillad fynd yn hen a thyllog.

Allfudo o Gymru

Symudodd miloedd o weithwyr di-waith a’u teuluoedd o Gymru i’r ardaloedd mwy ffyniannus neu lai tlawd, megis canolbarth a de-ddwyrain Lloegr.

Wrth iddyn nhw chwilio am waith a gobaith newydd, roedd rhai wedi defnyddio cynllun y llywodraeth a drefnwyd er mwyn canfod gwaith a llety yn Lloegr ar gyfer gweithwyr di-waith o Gymru.

Oherwydd y rhyfel, ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941, ond amcangyfrifir bod:

  • 430,000 wedi gadael Cymru yn ystod y 1920au a’r 1930au
  • Merthyr Tudful wedi colli 10,000 o bobl yn ystod y 1930au