Diweithdra
Un o effeithiau pennaf y Dirwasgiad oedd y cynnydd sylweddol mewn diweithdra ym Mhrydain. Cododd i 2.5 miliwn yn 1933. Roedd hynny yn 25 y cant o’r gweithlu. Ardaloedd diwydiant trwm yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a gogledd Lloegr a ddioddefodd waethaf. Diwydiannau megis:
- glo
- haearn
- dur
- adeiladu llongau
Roedd y diwydiannau hynny eisoes mewn trafferthion oherwydd nad oedden nhw wedi moderneiddio ar ôl y rhyfel, ac effeithiwyd yn ddrwg arnyn nhw gan gystadleuaeth o wledydd eraill. Yn anffodus chwalodd y diwydiannau hyn.

Er enghraifft, pan gaeodd iard longau y Palmers Shipbuilding and Iron Company yn Jarrow yng ngogledd ddwyrain Lloegr, cododd cyfradd ddiweithdra’r dref i 70 y cant a dywedir bod tref Jarrow i bob pwrpas wedi ‘marw’.
Cylch dieflig – effaith diweithdra
Nid oedd y 2.5 miliwn oedd yn ddi-waith yn cael cyflog a doedden nhw ddim yn gallu prynu pethau. Effeithiodd hynny ar y galw am nwyddau a gynhyrchwyd ym Mhrydain, ac aeth mwy o fusnesau i’r wal, ac arweiniodd hynny at fwy o ddiweithdra.
Ni helpwyd y broblem gan y ffaith nad oedd y budd-dal diweithdra (y dôl) yn ddigon i dalu am gostau sylfaenol megis bwyd a dillad.
