Cerddi Rownd 2 2026
Pennill bachog yn mynegi diffyg amynedd
Caernarfon
Dwi'n rhy fyrbwyll fel Arlywydd:
Dwi'n rapsgaliwn, dwi'n aflonydd,
A dwi'n licio bodio petha -
Be di'r botwm coch 'ma fama...?
Emlyn Gomer 8
Twtil
“Dwi’n brysur!” “Dwi’n sal!” “Dwi ar fy mheriod, wir i ti!”
“Dwi methu’n lân â chyrraedd fy apwyntiad heddiw, ’sdi.”
Dwi’n dallt dy fod yn swil am fynd at nyrs ar hyn o bryd,
ond dos i ddangos gwddf dy groth, a hawlia dy gorff i gyd
Tegwen Bruce-Deans 8
Cwpled caeth: Beddargraff Swyddog VAR
Caernarfon
Diflas o hir oedd gwirio
holl onglau ei angau o.
Ifor ap Glyn 8.5
Twtil
Y ffans a gladdodd y ffŵl
yn ei fedd, cyn ailfeddwl.
Steffan Phillips 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Mae criw yn y dref yn hel arian’
Caernarfon
Mae criw yn y dref yn hel arian:
Mynd â bwced o gwmpas y baria’n
begera am bres
i roi roced yn sbes
i chwilio am fwyd fejetarian..
Geraint Lovgreen 8
Twtil
Mae criw yn y dref yn hel arian
i fficso’r hen gyrtens blaen llwyfan
er mwyn caniatáu
eu weindio ar gau
pan fydd Løvgreen yn cyrraedd y gytgan.
Buddug Watcyn Roberts 8.5
Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth
Caernarfon
Rhun ap Iorwerth
Hwn yw Rhun, Rhun a’i arweiniad o Fôn
i Fynwy’n ddieithriad;
Rhun nerthol mewn etholiad;
Rhun y glew yn arwain gwlad.
Gwlad, gwlad, pleidiol yw’n gwleidydd, yn genedl
down i ganu’i glodydd;
Rhun y triw, Rhun ein trywydd
am yr haul i’r Gymru rydd.
Cymru rydd fydd Cymru Rhun, Cymru deg,
Cymru’r dweud, nid gofyn;
dychwel wnaeth pabi melyn
i’w herwau hi. Hwn yw’r un!
Ifan Prys 9.5
Twtil
Eisteddfod y Ffôr
2006, 2016, 2026
Mae’u hwyl yn parhau ym mhen yr hogyn
â Chymraeg anghymen:
hybarch Orsedd anniben
yn rhoi bri ar gadair bren.
Fy nghadair i yw hi un haf wedyn;
dyma godi’n araf
a swil – nid y gynilaf
oedd y gerdd, ond eistedd gaf.
I eisteddfod fy mrodiad af heno,
i’r un fan yn feirniad;
di-fwrn yw rhoi dyfarniad
â’r un hen bren yn barhad.
Iestyn Tyne 9.5
Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Nid yr un o hyd yw’r ateb’
Caernarfon
Mae ein hoes, yn bendifaddau,
Yn llawn sgolors 'nelo'u hawliau.
Ond pan ddaw hi i gyfrifoldeb,
Nid yr un o hyd yw'r ateb.
Emlyn Gomer 8.5
Twtil
Nid yr un o hyd yw’r ateb,
Ac nid hawdd ei gyfrifoldeb.
Lleisiau’r rhai a fu sy’n atsain,
Rhun tro hwn a ddaw i’n harwain.
Buddug Watcyn Roberts 8.5
Cân ysgafn: Taith Ddirgel
Caernarfon
Dan ni ar y bỳs i rywle, ond does neb a ŵyr i ble;
dan ni’n deithwyr o’r gorllewin, dwyrain, gogledd ac o’r de.
Dan ni i gyd yn weddol barchus, ffwrdd â ni heb fawr o ffỳs,
ond di hogie’r seti cefn ddim ’di arfer bod ar fỳs.
Ma nhw’n griw reit anystywallt, ma hi’n siŵr o fynd yn ffrae:
thâl hi’m poeni, yma maen nhw efo ni er gwell er gwaeth.
Lle dan ni’n mynd? Ai troi i’r dde sy nesa, neu i’r chwith?
Dim ots gan rai, cyn belled fod na sgons a bara brith.
Ond sneb ddim callach hyd yn hyn ynglŷn â phen y daith
ac mae’r gyrrwr newydd fel tae’n strapio mewn am siwrnai faith,
a dio ddim yn mynd dros ugain er y twrw yn y cefn
felly gallem fod yn dal i deithio’n nwy fil twenti sefn.
Ond rhown ein ffydd ’n y gyrrwr ’ma i’n cludo ni ymlaen,
all o byth fod mor ddi-glem â’r gyrwyr eraill ddaeth o’i flaen.
Pan gyrhaeddan ni’r nirfana bydd yn nefoedd wen i ni –
bydd y caffi’n syrfio sgons a bara brith – a chacen gri.
Geraint Lovgreen 8.5
Twtil
Er mwyn cael sybsideiddio fy ngwaith fel ffrîlans bardd,
dwi ’di dechrau cwmni teithio o’m sied sgwennu yn yr ardd.
Dwi’n cynnig dyddiau dirgel i brofi seits y fro,
er darganfyddwch lawer mwy os ewch chi jyst am dro.
Y tric yw’r holl farchnata - o insta i dic toc,
fe dalith bobol ffortiwn i fynd rownd a rownd y bloc.
Fe brynais double-decker sy’n peswch ffiwms i’r stryd
i atal fy nghwsmeriaid rhag gweled fawr o ’im byd.
Er honni ’mod i’n byrstio â gwybodaeth, sda fi’m cliw,
am hanner awr ben bore yr hen Woolworths yw y view.
Diddanwch ar ôl cinio yw ffordd osgoi y dre
i’r rhai sy’n ddigon ffodus i eistedd ar y dde.
Dywedaf, os bydd cwyno, “mae’r safle nesa’n well”,
sef aros mewn rhyw leibai i wylio’r haul o bell.
A gan bo’ pawb yn talu am drip tan ha’w di saith,
dwi’n sibrwd wrth y gyrrwr “cylcha’r carpark ugain gwaith”.
Dwi’n dileu pob adolygiad sy’n fy ngalw i yn glown,
a’n ffotoshopio’r lluniau i droi'r gwepau ypseid down.
Ac os lleihau wna’r elw, ni chodaf fawr o ffws,
caf bolisi yswiriant a rhoi matsien dan y bws.
Steffan Phillips 8.5
Ateb llinell ar y pryd – Doed a ddêl cawn ddiod dda
Caernarfon
Ty’n Llan yw ein nirfana
Doed a ddêl cawn ddiod dda
Ifan Prys 0.5
Twtil
Rhy onest fu’r meuryna
Doed a ddêl cawn ddiod dda
Iestyn Tyne
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Oedi
Caernarfon
6 y bore… ceisio ailgydio
mewn breudd-fideo, heb lun,
‘mond islais injan lori, blychau plastig
yn drymio’n flêr ar bafin,
a gwydr yn chwalu’n rhaeadr sydyn.
6 y bore, rhwng cwsg, a chydwybod-bigo
cyn llithro nôl i’r lluniau,
sŵn drysau’n rhywle’n drymio’n flêr
a’r Beretta bach yn trwyno
fel llygoden o’ch llaw
Codaf yn araf, eroch, rhagoch, cyn fy hyrddio’n
gawod wydr wysg fy nghefn…
Mae’n 6 y bore… ac er na allaf
gyn-bo-hirio’r gerdd ddim mwy,
nid i mi Silicon-iaith eich deallusrwydd gwneud,
na’r ebychu emosiwn fel hosan ar law.
Af yn hytrach,
i hepian greu, ryw gyntun bach ymhellach….
Ifor ap Glyn 9.5
Twtil
“Tisho paned, Taid?”
Mae’r awyr yn drwch o goch
wrth i’r machlud fwytho eli i ’sgwyddau’r bryniau,
ond cytser neon y ddinas sy’n pefrio’n dy lygaid dithau.
Cau d’amrannau wedyn, i agor dôr dy ddychymyg
a chrwydro strydoedd dy blentyndod,
nes i ti gymryd y troad anghywir
cyn cyrraedd adref.
Atseinia ’nghwestiwn o gylch y ’stafell
fel atgof y tu hwnt i afael
wrth i ti chwarae mig yng nghrychau dy flynyddoedd
a chuddio rhag cael dy dynnu ’nôl i ddydd
a atalnodir â phaneidiau a phils
a phethau tu chwith allan;
dianc i fyd lle mae popeth ’nôl mewn trefn,
lle mae ffarwel yr haul yn llawn addewid.
Â’th lygaid dal ar gau, rwyt ti’n nodio.
A gwenu.
Tegwen Bruce-Deans 9.5
Englyn: Robot
Caernarfon
Mashîn oer, diemosiwn yw, a chod
a chylchedau ydyw;
a’i galedwedd mor glodwiw
ni all hwn fyth deimlo lliw.
Ifan Prys 10
Twtil
Rhannwn ni’n rhy anhunanol rannau
o’r hunan, i borthol
mwy cyflawn na’r ddawn ddynol
roi i ni’r un rhannau nôl.
Iestyn Tyne 10