Cerddi Rownd 2 2026
Pennill bachog yn mynegi llawenydd
Penllyn
Pan fyddwch yn erbyn ‘Tir Iarll’ neu’r ‘Tir Mawr’.
Hawdd teimlo fod Duw wedi’ch gadael i lawr.
Ond, fe deflir mymryn o oleuni weithiau,
A daw y dydd y gosodir chwithau
Mewn gornest yn erbyn un o dimau ddoe,
Sydd ond’di cael athro fel Arwyn Groe.
Aled Jones 8.5
Llewod Cochion
Beth yw cyfrinach
Gwir lawenydd?
Rhoi cweir i’r tîm
O dros y mynydd!
Alun Cefne 9
Cwpled caeth: Beddargraff Perchennog Sw
Penllyn
Mae’r llaw fu’n cloi pob cawell
Yma’n gaeth ond mewn man gwell.
Al Tŷ Coch 8.5
Llewod Cochion
O’r ywen ni chlywn ruo
Y llew hwn o’i gawell o.
Angharad Penrhyn Jones yn darllen gwaith Arwyn Groe 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Mae’n debyg na ddylwn ymffrostiio’
Penllyn
Mae’n debyg na ddylwn ymffrostio
Mae’r Beibl yn dweud wrthyf beidio;
Mae hefyd yn dweud
Na ddylwn i wneud
Y deg gorchwyl arall rwy’n licio!
Aled Jones 8.5
Llewod Cochion
Mae'n debyg na ddylwn ymffrostio
Ond lladdais ddau ffesant heb drio,
Y wind-sgrin fu ffawd
Trist iawn y ddau frawd,
Rwy'n dlawd, ond ces swper a chinio.
Pryderi Jones 9
Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth
Penllyn
Rhun, fe wêl rhywrai o hyd fai arnat;
gan gollfarnwyr diwyd
cei abiws unlliw, swnllyd,
gwenwyn byw. Ond gwyn ein byd:
a'n byd yn deilchion, a'n bae yn agos
at sigo, celwyddau'n
ymhél fel rhyw gymylau
duon, draw ym Môn y mae,
oes, mae, y mae yma un, un a saif
y nos hon ar ddibyn
ei wlad. Ac fe wêl wedyn
rywrai o hyd d'olau, Rhun.
Gruffudd Antur 9.5
Llewod Cochion
O Dd’Hondt, y daeth yn ddi-au – hyfryd
wefr buddugoliaethau;
Y mae lot o fformiwlau –
Gwir! Ond hon ydyw’r gorau.
Y gorau o’n holl gewri – Llywelyn
Nid llyw olaf ‘leni;
O Frwsel dros yr heli,
Nid Glyndw^r ein harwr ni.
Ein harwyr a goncwerwyd – y ni gynt
Yn ein gwae, Brydeiniwyd;
Y ni o gymhedrol nwyd,
O hen wyntoedd, Dd’Hondtiwyd!
Pryderi Jones 9
Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Do, mi roddwyd dewis imi’
Penllyn
Do mi roddwyd dewis imi
Dawn i garu neu farddoni
Dyna, barchus gynulleidfa,
Pam mae’r pennill hwn mor llipa.
Gruffudd Antur 8.5
Llewod Cochion
Do, mi roddwyd dewis imi
lodes lân neu dduwies lysti :
dewis wnes ‘run on i’n caru;
nawr rwy’n “seventy “ – rwy’n difaru.
Alun Cefne 9
Cân ysgafn: Y Dafarn Gymunedol
Penllyn Tafarn “Cymunidwal”!!
Tafarnwr oedd Godfrey yn “Ninasdimllau”, ond ni fedrai ond siarad iaith fain,
Un o Rwsia oedd Loti, ei wraig o, ac yn hoff o arbrofi ‘fo chwain!
“Crafwr byw” oedd eu mab,.... un llwyddiannus, yn Rwsia, yn nhref “Cosi Lot”,
Roedd o’n gweithio fo rhai plant..... llau ffodus, a’r lleill ddim yn cael crafu lot!
Roedd yr ŵyr ‘di dod adref o’r coleg, ar wyliau, i’r pyb at ei Nain
A gobeithiai, ar ôl iddo raddio, fynd rownd sgolion fel nyrs gwarchod chwain!
Yn ei lofft, bu’n croesi “Moscoitos” efo nythiaid o chwain, a chael match,
Yr arbrawf oedd wir yn llwyddiannus, a’i gampwaith ....’O’... ydoedd o sgratch!
Roedd y bych wedi creu rhyw anghenfil, a fagai fel na bu ei fath,
A Godfrey ag ofn cael ei fwyta, nid pawb sydd yn cosi ‘r’un fath!
Roedd ciwed ohonynt, llond selar, yn magu’n dorraethog fel pla,
Yn bwyta porc “scratchings”, yfed “Bugweisar”, a Godfrey bron dwedyd ta ta!
Daeth ’rachubiaeth trwy Idwal y G’wnidog yn ei V.W. ‘Beetle’ o draw
Bu’n genad sawl gwaith ym “Mothlehem” dref, dyn a grafai a’i aswy law!
A God-free a lefarodd: “Idwal, Idwal, do come in, come in Idwal, Idwal, come in”.
Ac o lyfr “y Llau ‘R Sgwar” (pr2) tri pwynt un pedwar, fe gafwyd yr ateb mewn dim.
Ar ôl mesur arwynebedd pob trychfil, pob chwannen a phob lleuen ‘gron’
Y rhai lleiaf....roddwyd mewn rhai canolig, ar canolig ... yn y mwyaf yn llon!
Y cwbwl a roddwyd mewn un,....yr un fwya, a’u danfon i gyd yn ôl i Rwsia.
Hyd heddiw, fel diolch gan bobol yr ardal, fe elwir y lle yn dafarn “Cymunidwal”.
Aled Jones 9
Llewod Cochion
Fe brynais i shâr yn fy local
I'w achub rhag troi yn dŷ haf
Rhyw ganpunt yr oedd i ymuno
A chael enw ar sêt wrth y bar
Fe droies i lan i'r cyfarfod
Heb syniad am beth oedd co-op
A gadael rhyw bedair awr wedyn
Dim callach - a'm mhen i yn slop!
Am ffwdan oedd dethol y cwrw,
A pha liw i beintio'r drws cefn,
Pan ddaeth amser i ddewis y bar-snacs
Wel aeth pethau yn hollol ddi-drefn!
Nawr, mae'r bwrdd darts 'di gwneud mas o felcro
A'r awr hapus yn ddosbarth tai tshi,
Nes i geisio un tro gwylio'r rygbi
Ond roedd sgrym i droi bant y TV!
Rhaid dweud, dwi yn colli'r hen dafarn
A'r hen griw reit gyfeillgar di-flin,
Diolch byth bod na Frymi drws nesa'
 home-brew a theledu wide-screen!
Alun Cefne yn darllen gwaith Owen Shiers 8.5
Ateb llinell ar y pryd – Mae cerddi’n llenwi Tŷ’n Llan
Penllyn
Mae cerddi’n llenwi Tŷ’n Llan
Ella fod gwell tuallan
Gruffudd Antur 0.5
Llewod Cochion
Bydd pawb call di dodd allan
Mae cerddi’n llenwi Tŷ’n Llan
Pryderi Jones 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dillad Haf
Penllyn
I groesawu Gwern, ein hŵyr bach newydd.
A dyma gyrraedd yr ha’
a chan fy mod i – rhywfodd –
yn nain i saith o deithwyr bach,
mae gen i hawl gwirioni
ar dywydd sychu.
Fe ddônt i ddathlu carreg filltir
na ŵyr yr un ohonynt
bellter ei chyffwrdd eto.
Ac ar y lein mae ôl eu taith –
yn hosan bitw a bib banana,
yn stremps cyfaddawd hufen ia
a fest dwyn mafon.
Yn staen cacenni mwd a thrimings eithin,
Ac esgid unig, a’i llond o wely afon.
Arhosaf innau am ennyd ar ein taith,
ac ar y pen fe begiaf fy nghôt aeaf,
a gadael i’r haul gynhesu’r brethyn-
cyn ail-gychwyn.
Haf Llewelyn 9.5
Llewod Cochion
Maen nhw'n hongian yn y cwpwrdd
fel ysbrydion, yn sisial
ymysg ei gilydd, cotwm
yn brwsio'n ysgafn yn erbyn llin.
Dyma'r sgert sydd yr un lliw
â'r llygad doli yn y dolydd gynt,
y sgert sydd wedi gweld
sawl haf.
Wrth fyseddu'r dillad
dwi'n breuddwydio
am redeg yn chwim trwy'r gwair hir, am feicio
ar hyd lonydd cefn, y gwynt
yn cipio fy ngwallt, am symffoni drydanol
ceiliogod y rhedyn. A ieir bach yr haf
yn chwyrlïo trwy'r aer, yn arddangos
eu gwisgoedd perffaith;
dernynnau
o fyd coll.
Angharad Penrhyn Jones 9.5
Englyn: Cynghrair
Penllyn
Mae Llanuwchllyn wedi codi i Gynghrair Cymru Gogledd a’r Bala wedi disgyn i lawr iddi.
Gwir nod Llanuwchllyn oedd codi – ond daeth
Bala Town lawr ’leni,
Yn eu herbyn bydd darbi,
A Llan wnaiff ei hennill hi.
Al Tŷ Coch 9
Llewod Cochion
Hel ei phaill ar flew ei phen - wrth hofran,
wrth wefru ar fedwen
wanwynol; y wenynen
piau’r hawl i beillio’r pren.
Angharad Penrhyn Jones 10