Cymru am gael gwared â 'bwgan Cwpan y Byd 2011'

  • Cyhoeddwyd
Tacl Sam Warburton ar Vincent Clerc yn 2011Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sam Warburton ei anfon o'r cae wedi'r dacl yma ar Vincent Clerc wyth mlynedd yn ôl

GanGareth Charles
Gohebydd Rygbi BBC Cymru yn Japan

Mae'n ystrydeb yn y byd chwaraeon - does dim gwahaniaeth pa mor dda mae unrhyw dîm neu unigolyn wedi chwarae, y gêm bwysicaf yw'r gêm nesa'.

Ond weithiau does dim help edrych 'nôl, ac wrth edrych 'mlaen i'r gêm yn erbyn Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ddydd Sul mae'n naturiol bod y gêm gynderfynol rhwng y ddwy wlad yn 2011 yn fyw iawn yn y cof.

Mae'n siŵr bod un person yn enwedig wedi cael llond bol ar ateb cwestiynau am yr achlysur.

Cerdyn coch i gapten Cymru, Sam Warburton, ar ôl dim ond 18 munud newidiodd gwrs y gêm a thynged Cymru yn y gystadleuaeth, wrth iddyn nhw golli 9-8.

Ar y pryd roedd penderfyniad y dyfarnwr Alain Rolland yn un dadleuol iawn a nifer, gan gynnwys fi, a'm cyd-sylwebydd ar Radio Cymru, Ken Owens yn grediniol y byddai cerdyn melyn wedi bod yn fwy addas.

Yn sicr doedd dim malais yn nhacl Warburton ar Vincent Clerc - momentwm yr asgellwr o Ffrainc ac agosatrwydd y blaenasgellwr o Gymru olygodd bod coesau Clerc wedi codi i'r awyr ac yntau wedi disgyn wysg ei gefn.

Cerdyn coch i WarburtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Gwyddel, Alain Rolland yn dangos y cerdyn coch i Warburton ar 15 Hydref, 2011

Mewn gwaed oer efallai bod 'na fwy o gydymdeimlad gyda phenderfyniad Monsieur Rolland!

Taclo uchel yn erbyn y pen sydd wedi llethu'r gwpan eleni a does ond gobeithio na fydd Jaco Peyper, y dyfarnwr ddydd Sul, yn gorfod gwneud penderfyniad all sbwylio'r gêm hon.

Gêm olaf Gatland?

Mae wyth o garfan 2011 ynghlwm â'r garfan bresennol - chwech yn chwaraewyr a Huw Bennett a Stephen Jones yn rhan o'r tîm hyfforddi.

Mae'n gyfle iddyn nhw i, nid gymaint i ddial ond cael gwared â'r bwgan hwnnw sy'n dal i lechu yng nghefn eu meddyliau.

Mae'r un yn wir am y tîm hyfforddi oedd hefyd yno wyth mlynedd nôl, ac mae pawb yn sylweddoli mai'r tro nesa' y bydd Cymru'n colli bydd gêm ola' Warren Gatland wrth y llyw.

Ar ôl ennill tair Camp Lawn a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd unwaith a'r chwarteri ddwywaith beth yw gêm bwysica' Warren?

Ar y funud, yr un nesa' ddydd Sul.

Straeon perthnasol