Lefel allyriadau carbon un o siroedd y de ymhlith yr uchaf yn y byd

Mae cyfres o danau gwyllt wedi bod yn llosgi mewn ardaloedd ar draws Cymru dros yr haf
- Cyhoeddwyd
Roedd un o siroedd de Cymru ymhlith yr ardaloedd sydd â'r dwysedd allyriadau carbon uchaf yn y byd ym mis Gorffennaf, yn ôl elusen.
Mae Torfaen yn un o'r ardaloedd sydd wedi ei heffeithio yn ddiweddar gan gyfres o danau gwyllt, gyda'r tân ger Blaenafon yn cael ei ddisgrifio gan y gwasanaeth tân fel un o'r "mwyaf heriol" yn ne Cymru ers rhai blynyddoedd.
Yn ôl data Copernicus Wildfire Emissions Watch, roedd Torfaen yn bedwerydd ar y rhestr, y tu ôl i Annaba yn Algeria (1af), Ávila yn Sbaen (2il) a Malanje yn Angola (3ydd).
Mae elusen Achub y Plant yn pryderu am effaith bosib y llygredd ar iechyd, gan ddisgrifio'r amodau fel rhai "brawychus".
Dywedodd Cyngor Torfaen nad oedden nhw'n ymwybodol o'r data dan sylw, ond bod eu gwaith monitro hefyd yn dangos cynnydd diweddar yn lefel yr allyriadau.
'Erioed wedi gweld cymaint ar unwaith' - wythnos galed diffoddwr tân a rheolwr siop
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Angen i'r llywodraeth 'ddysgu gwersi' wedi'r holl danau gwyllt
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Un o'r tanau gwyllt mwyaf yn Nhorfaen oedd yr un ym Mlaenafon, ddechreuodd losgi ar 19 Gorffennaf.
Pan oedd y tân ar ei anterth roedd gwynt yn cario'r mwg am filltiroedd ar draws de Cymru, gyda phobl yn honni eu bod yn gallu ei arogli yng Nghaerdydd - sydd tua 30 milltir i ffwrdd.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Janet Jones fod y mwg yn ardal Blaenafon "yn arbennig o ddrwg" ar 13 Awst.
"Roedd 'na bryder mawr am ansawdd yr aer ac effaith hynny ar bobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy'n effeithio ar y gallu i anadlu."
Ychwanegodd ei bod wedi siarad â dwy feddygfa bythefnos yn ôl ac nad oedd hi'n ymwybodol o unrhyw gynnydd o ran cleifion yn adrodd problemau anadlu, ond nododd y "gallai hynny newid yn y misoedd nesaf".
Cyngor yn monitro ansawdd aer 'yn barhaus'
Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: "Yng Nghymru ac ar draws y byd, mae plant yn anadlu mwg o danau gwyllt, yn ymdopi â gwres eithafol ac yn colli'r rhyddid i chwarae yn yr awyr agored oherwydd nad yw'r aer bellach yn ddiogel.
"Nid yw'r amodau hyn yn unig yn frawychus - maent yn effeithio'n ddifrifol ar iechyd plant, sydd â'u cyrff a'u hysgyfaint yn dal i ddatblygu.
"Mae mor bwysig bod gan bob plentyn fynediad at natur ac ardaloedd gwyrdd, ac mae tanau gwyllt a gwres eithafol yn ei gwneud hi'n fwy anodd i blant sy'n byw mewn tlodi fwynhau'r awyr agored."
Dywedodd Cyngor Torfaen nad oedden nhw'n ymwybodol o'r gwaith ymchwil ac "nad oedd hi'n glir pa ddata neu dystiolaeth gafodd ei ddefnyddio yn yr asesiad".
Maen nhw'n "cydnabod fod cyfres o danau gwyllt yn gallu cael effaith niweidiol ar ansawdd aer, yn enwedig o ganlyniad i lefelau uchel o fwg".
Ychwanegodd yr awdurdod lleol eu bod yn monitro ansawdd aer yn barhaus o orsaf yng Nghroesyceiliog, Cwmbrân.
"Er ein bod wedi gweld cynnydd diweddar yn lefel yr allyriadau yn ystod y cyfnod yma o danau gwyllt, pwrpas y ganolfan monitro yw darparu gwybodaeth am ansawdd awyr cyffredinol yn hytrach na'r amgylchiadau mewn mannau penodol sydd yn agos iawn i'r tanau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.