Tlws Sbardun i Elliw Jones, 10 mlynedd ers lansio'r gystadleuaeth

Elliw Jones sydd wedi derbyn Tlws Sbardun eleni
- Cyhoeddwyd
Mae eleni yn ddegawd ers lansio cystadleuaeth Tlws Sbardun yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd Alun 'Sbardun' Huws yn un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig Cymru.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 2014, fe benderfynodd ei weddw, Gwenno, sefydlu cystadleuaeth er mwyn denu cerddorion ifanc i gyfansoddi.
Alis Glyn o Gaernarfon oedd enillydd y wobr llynedd, a dywedodd mai dyna oedd "uchafbwynt ei gyrfa" fel y ferch ieuengaf erioed i ennill y tlws.
Bydd enillydd y wobr eleni yn cael ei gyhoeddi brynhawn Mercher - mae enillwyr y gorffennol wedi cael gwahoddiad i fynychu'r digwyddiad.
Ddydd Mercher cyflwynwyd y Tlws a'r wobr o £500 i Elliw Jones, sy'n arfer canu gyda'r grŵp Tant ond hefyd yn perfformio ar ei phen ei hun.

Roedd Alun 'Sbardun' Huws yn un o'r rhai a sefydlodd Y Tebot Piws a bu hefyd yn aelod o sawl band arall - yn eu plith Ac Eraill a Mynediad am Ddim.
Bu hefyd yn cyfansoddi caneuon ar gyfer eraill gan gynnwys Bryn Fôn, Brigyn, Linda Griffiths a Cowbois Rhos Botwnnog.
Yn dilyn ei farwolaeth yn Rhagfyr 2014, ag yntau ond yn 66 oed, fe benderfynodd ei weddw, Gwenno i lansio'r gystadleuaeth.
Ei bwriad oedd sicrhau bod ei waddol yn parhau, ac fe gafodd y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016 am y gân werin wreiddiol orau.
Wrth siarad â'r Eisteddfod, dywedodd Gwenno: "Roedd Sbardun yn angerddol am ysgrifennu caneuon newydd Cymraeg, ac annog cerddorion i wneud hynny yn aml.
"Roedd wedi rhoi cymorth i lawer wneud hynny gan eu hysbrydoli i fentro.
"Bwriad Tlws Sbardun yw parhau â'i ddymuniadau, ac rwy'n gobeithio bod y Tlws a'r wobr ariannol yn denu cerddorion ifanc i wneud hynny."

Alis Glyn oedd y ferch ieuengaf erioed i ennill y tlws, a hynny yn Eisteddfod 2025
Alis Glyn o Gaernarfon oedd enillydd y Tlws llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam gyda'i chân 'Llinyn Arian'.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Alis Glyn fod ennill y wobr yn "uchafbwynt yn fy ngyrfa o ddechrau fel artist ifanc gan fod o wedi dangos i mi bod pobl yn hoff o'r ffordd dwi'n cyfansoddi!
"O wybod hefyd mai fi oedd yr enillydd ieuengaf a'r ferch gyntaf i ennill y tlws mi ges i lawer mwy o hyder i ddyfalbarhau i gyfansoddi a sgwennu yn y Gymraeg."
Dywedodd iddi ddod i wybod am y gystadleuaeth "wrth sylwi ar gystadlaethau cyfansoddi oedd yn cael eu cynnal yn yr Eisteddfod.
"Roeddwn i wedi cystadlu yn yr Urdd am gyfansoddi o'r blaen ond heb sylweddoli bod 'na gyfle i wneud hynny yn y Genedlaethol. Felly mi wnes i benderfynu rhoi tro arni!
"Dwi wrth fy modd yn cyfansoddi a dwi wir yn hoff o ganeuon Sbardun a'i ddawn fel cyfansoddwr, ac felly ro'n i'n teimlo bod hyn yn gyfle gwych i gael barn ac adborth gan artistiaid proffesiynol am fy ngwaith cyfansoddi!"
'Profiad bythgofiadwy'
Dywedodd fod ennill y tlws yn "brofiad bythgofiadwy" iddi.
"Yr her fwyaf oedd cadw'r peth yn gyfrinach rhag fy ffrindiau a fy nheulu a'u denu nhw i Tŷ Gwerin heb godi amheuaeth pam!
"Mi o'n i reit nerfus yn perfformio'r gân gan fod 'na gymaint o fawrion y byd cyfansoddi Cymraeg a chyn enillwyr yn fy ngwylio ond mi nes i joio bob eiliad!
"Ac roedd cael cyfarfod Gwenno gweddw Sbardun a derbyn y tlws ganddi yn braf iawn."
Bu Alis yn perfformio ar y Maes ddechrau'r wythnos ac mae'n gobeithio parhau i "ddatblygu fel artist a pharhau i ddod o hyd i'n sain ac arddull unigryw i!"
Bydd enillydd cystadlaethau Tlws Sbardun yn cael ei ddatgelu mewn seremoni arbennig yn y Tŷ Gwerin brynhawn Mercher.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2016

- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2016
