'Degawd ers Brexit mae'r effeithiau'n dal i gael eu gweld o hyd'

Llun o faneri Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn chwifio y tu allan i Senedd San Steffan.Ffynhonnell y llun, Getty Images
GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ar 23 Mehefin 2016 fe bleidleisiodd mwyafrif o etholwyr y Deyrnas Unedig - a Chymru hefyd - o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Union ddegawd yn ddiweddarach mae effeithiau'r daeargryn gwleidyddol hwnnw i'w gweld o hyd ar ein gwleidyddiaeth, yn ôl rhai oedd yn rhan o'r ymgyrchu yr haf tyngedfennol hwnnw.

Bellach yn Aelod o Senedd Cymru dros Reform, roedd Llŷr Powell yn 21 oed yn 2016 ac yn gweithio fel swyddog i'r wasg i'r ymgyrch dros adael yr UE yng Nghymru.

Roedd yng Nghei Connah ar noson y refferendwm lle'r oedd canlyniadau gwahanol rannau o Gymru'n cael eu casglu.

Mae'n cofio'r foment "swreal" wrth deithio'n ôl i'r gwesty a'r geiriau "we've done it" yn cael eu hailadrodd yn ei ben.

Mae'r llun yn dangos Llŷr Powell yn cael ei holi gan ohebydd.  Mae'r ddau'n sefyll uwchlaw neuadd chwaraeon ble mae pleidlieisiau yn cael eu cyfrif.
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr Powell yn cael ei holi ar raglen ganlyniadau S4C wedi'r refferendwm

Mae Powell o'r farn bod yr hyn ddigwyddodd yn 2016 wedi cyfrannu at ganlyniadau hanesyddol yn yr etholiad diweddar i Fae Caerdydd pan ddaeth cyfnod hir Llafur mewn grym i ben.

Plaid Cymru enillodd y nifer fwyaf o seddi fis diwethaf, a Reform yn ail.

Ers pleidlais Brexit "mae pobl yn gwybod bod nhw'n gallu newid y ffordd mae'r wlad yn mynd", meddai Powell, sy'n brif chwip ar grŵp Reform yn Senedd Cymru.

Ac er nad yw'n credu y byddai Plaid Cymru'n cytuno gyda'i ddadansoddiad, mae Powell yn credu bod Rhun ap Iorwerth ei hun yn brif weinidog oherwydd y newid yma gafodd ei gyflwyno gan y refferendwm.

"Roedd Llafur yn gryf yng Nghymru ac roedd pobl yn meddwl 'what's the point, mae Llafur yn mynd i ennill'.

"Ar ôl 2016 mae pobl yn gwybod nawr chi'n gallu newid unrhyw beth drwy'r ballot box os chi'n troi mas."

'Brexit oedd y camgymeriad gwaethaf'

Daeth y refferendwm union saith wythnos ar ôl i bobl Cymru bleidleisio mewn etholiad i Fae Caerdydd.

Mae Mark Drakeford, oedd yn aelod blaenllaw o gabinet Llywodraeth Cymru ar y pryd, yn cofio Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn erfyn ar Brif Weinidog y DU David Cameron i beidio â chynnal y refferendwm mor agos at yr etholiad.

Yn y pen draw fe wnaeth amseru'r refferendwm olygu ei bod hi "fwy neu lai'n amhosibl" i ddod â phobl o'r gwahanol bleidiau, oedd wedi bod yn dadlau gyda'i gilydd wythnosau ynghynt, at ei gilydd i ymgyrchu dros aros yn yr UE, meddai Drakeford.

Mae'n edrych yn ôl ar 23 Mehefin 2016 fel "y diwrnod pan ddigwyddodd y camgymeriad gwaethaf yn fy mywyd gwleidyddol" ac mae'n rhoi'r bai ar Cameron am ei benderfyniad "anghyfrifol" i gynnal y refferendwm yn y lle cyntaf.

Roedd cynnal pleidlais ar Brexit yn addewid ym maniffesto'r Ceidwadwyr cyn etholiad cyffredinol 2015.

Mark Drakeford yn areithio o'r llwyfan ar ôl cael ei ailethol yn yr etholiad i'r Cynulliad yn 2016.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Drakeford ei ail-ethol i Fae Caerdydd wythnosau cyn y refferendwm

Mae Drakeford hefyd o'r farn bod canlyniad y refferendwm wedi cael effaith ar wleidyddiaeth Cymru heddiw, ac yn enwedig ar natur y drafodaeth wleidyddol gyda'r ymgyrch wedi rhoi trwydded "i nifer fach o bobl" i fod "yn gas".

Mae Leanne Wood - arweinydd Plaid Cymru adeg y refferendwm - yn cytuno.

Ym Mehefin 2016, roedd hi newydd sicrhau ei buddugoliaeth arwyddocaol ei hun drwy gael ei hethol fel Aelod Cynulliad newydd Rhondda.

Roedd yna "awydd am newid yn y Cymoedd", meddai.

Ond tra ei bod hi wedi manteisio o hynny ym mis mai 2016, roedd yna bris i'w dalu fis yn ddiweddarach gyda nifer o'r un bobl a gefnogodd ei hymgyrch hi yn yr etholiad yna'n cefnogi Brexit.

Ymgyrch y refferendwm oedd "yr ymgyrch anoddaf i mi fod yn rhan ohoni," meddai Wood ac mae hi'n cytuno gyda Drakeford bod amseru'r bleidlais - mor agos at yr etholiad - wedi creu problemau.

Dywedodd ei bod hi wedi dweud wrth Carwyn Jones ddechrau'r gwanwyn bod angen ymgyrch dros aros yn yr UE fyddai'n dod ag undebau, eglwysi a sefydliadau cyhoeddus Cymru ynghyd, ond bod Jones wedi dweud na fyddai hynny'n bosib oherwydd yr etholiad.

"Rwy'n deall hynny ond roedd hynny'n risg ar y pryd achos doedden ni methu dod ag ymgyrch ynghyd ar y funud olaf," meddai Wood.

Llun o Leanne wood a Carwyn Jones gyda'i gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.  Mae'r ddau yn dal crys tîm pêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn i Leanne Wood a Carwyn Jones allu ymgyrchu gyda'i gilydd roedd hi'n rhy hwyr, yn ôl Wood

Fel Drakeford, mae Wood hefyd o'r farn taw dylanwad mwyaf Brexit ar ein gwleidyddiaeth ydy'r hyder sydd gan rai nawr "i fynegi safbwyntiau oedd yn cael eu hystyried yn annerbyniol".

Brexit oedd y dechrau ar y "pegynnu gwleidyddol sydd gyda ni heddiw", ychwanegodd.

Andrew RT Davies oedd un o'r lleisiau cryfaf o blaid Brexit yng Nghymru.

Mae'n dweud bod gwleidyddion yn dal i gael eu rhannu yn nhermau sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn 2016.

"Yn aml iawn mae rhywun yn dal i gyfeirio atoch chi fel Brexiteer neu rywun oedd eisiau aros, ac mae'n anodd meddwl am unrhyw benderfyniad gwleidyddol diweddar sy'n dal i rannu pobl yn y modd yna," meddai.

Dywedodd Davies y gallai'r rhethreg yn ystod yr ymgyrch "ar y ddwy ochr fod wedi bod yn well ac mae yna lawer i'w ddysgu".

Ddegawd ers y bleidlais mae Davies yn credu'n "angerddol" bod y DU yn "gryfach nawr o allu gwneud ei phenderfyniadau ei hun".

"Efallai nad ydy'r dewisiadau gwleidyddol dros y 10 mlynedd diwethaf bob tro wedi bod y rhai cywir ond o leiaf yn wleidyddol ry'n ni wedi gallu gwneud hynny," meddai.

'Brexit wedi ail-siapio sut mae pobl yn teimlo am Brydain'

Yn ôl Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru mae mwyafrif clir o etholwyr Cymru bellach o blaid ail-ymuno â'r Undeb a hynny oherwydd taw dyna safbwynt y rhan fwyaf o etholwyr iau oedd yn rhy ifanc i bleidleisio yn 2016.

Mae Larner hefyd yn dweud bod Brexit wedi cael effaith hirdymor ar hunaniaeth pobl.

"Mae ymchwil yn dangos i 'aros' a 'gadael' ddod yn gyflym yn hunaniaeth gymdeithasol bwerus, hyd yn oed yn gryfach na pherthyn i blaid wleidyddol.

"Yng Nghymru'n benodol gwanhaodd Brexit ymdeimlad pobl o Brydeindod yn sylweddol... ond arhosodd hunaniaeth Gymreig yr un fath.

"Felly fe wnaeth Brexit ail-siapio sut mae pobl yn teimlo am Brydain heb ail-siapio sut maen nhw'n teimlo am Gymru," meddai.

Llun o Mared Gwyn yn gwenu at y camera. Mae hi'n gwisgo siaced wen.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Brexit yn "her fawr" i'r Undeb Ewropeaidd, meddai Mared Gwyn

Wrth gwrs fe gafodd Brexit effaith amlwg ar wleidyddiaeth Ewrop gyfan hefyd, gyda'r canlyniad yn "syfrdanu" yr Undeb ei hun, yn ôl newyddiadurwr Euronews Mared Gwyn, sy'n byw ac yn gweithio ym Mrwsel.

"Doedd yr Undeb Ewropeaidd erioed wedi gweld y fath beth yn digwydd iddi," meddai, gan ychwanegu bod Brexit wedi cyflwyno her fawr i arweinwyr yr UE a'u rhoi "ar brawf".

Ddegawd yn ddiweddarach, mae hi'n dweud bod penaethiaid yr UE yn teimlo eu bod nhw wedi ymateb i Brexit "mewn ffordd lwyddiannus" gyda mwy o wledydd erbyn hyn yn "cnocio ar y drws" eisiau ymuno.

A fydd y Deyrnas Unedig ryw ddydd yn curo ar ddrws Brwsel yn y gobaith o gael ail-ymuno â'r UE?

Mae'n gwestiwn sydd wedi codi eto'n sgil y dyfalu am sefyllfa Syr Keir Starmer, gydag un sy'n barod i'w herio - Wes Streeting - wedi dweud y byddai e am weld y DU yn ailymuno â'r Undeb "ryw ddydd".

Ac yma yng Nghymru mae'r prif weinidog newydd wedi dweud y dylai'r DU agosáu at Frwsel.

Ddeng mlynedd ers y bleidlais hanesyddol honno, mae Brexit yn dal i fod yn destun trafod a dadlau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.