'Dychmygwch ganol Tanygrisiau yn llawn bywyd unwaith eto'

Hen swyddfa bostFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Wrth i fwyfwy o fentrau cymunedol brynu tafarndai yng Nghymru, mae gan bentref Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog nod gwahanol.

Prynu hen swyddfa bost ydy'r bwriad yno gan Fenter Nyth y Gigfran a'i throi'n adnodd i'r gymuned - fflat i bobl leol, siop a chaffi bach.

Bu aelod o'r fenter, Sara Ashton-Thomas, yn trafod ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru a dywedodd ei bod hi'n "falch ac yn gyffrous i fod yn rhan o'r mudiad".

Mae'n pwysleisio bod hwn yn "gyfle anhygoel i'r gymuned" a "dychmygwch ganol Tanygrisiau yn llawn bywyd unwaith eto," meddai mewn datganiad ar-lein.

Mae ganddyn nhw gynlluniau pensaer, caniatâd cynllunio a chynllun busnes ond mae angen "sicrhau'r cam nesaf - sef perchnogi'r adeilad".

Sara Ashton-ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

"Da' ni angan symud mor sydyn â fedran ni ar hyn," meddai Ms Thomas, gan eu bod yn poeni os caiff yr adeilad gwag ei roi ar y farchnad agored y gall unrhyw un ei brynu.

Adeilad llys oedd yr adeilad yn wreiddiol ond mae wedi bod yn swyddfa bost ers tua 150 mlynedd.

Esboniodd Ms Thomas - cyn gallu gwneud ceisiadau am gyllid, mae angen casglu tua £12,000 eu hunain - fel gwarant y gallen nhw dalu'r llog.

Y cam nesaf wedyn fyddai ceisio sicrhau benthyciad o £90,000 gan y CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru), er mwyn ei brynu ac yna trio am wahanol grantiau i'w drwsio a'i adnewyddu yn y pendraw.

"Mae rhai yn dweud bod Tanygrisiau ar ei lawr ond mae'r gymuned yn mynnu dyfodol ffyniannus i'n pentref," meddai Ms Thomas ar-lein.

Hen swyddfa bostFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Yn ei sgwrs ar Dros Frecwast aeth Ms Thomas ymlaen i bwysleisio pa mor "anhygoel" mae'r gefnogaeth wedi bod hyd yma.

"'Da' ni m'ond wedi lansio'r ymgyrch ers dydd Llun ac mae lot, lot, lot o bobl wedi cyfrannu - bobl leol yn enwedig a phobl tu hwnt.

"Da' ni'n ddiolchgar iawn am bob cyfraniad ac wrth ddod at ein gilydd fel hyn, fedran ni 'neud i betha' ddigwydd."

Cafodd y fenter ei henwi ar ôl y mynydd sy'n cysylltu Tanygrisiau, Rhiw a Glan-y-pwll - tair ardal agos at ei gilydd.

Gobaith y fenter ydy "cychwyn gyda sefydlu cartref i berson neu deulu lleol a gofod a busnes byrlymus i'r gymuned - gan y gymuned - reit yng nghanol y pentref".

Ychwanegodd y fenter mewn datganiad, os na fydden nhw'n llwyddo i brynu'r safle, yna bydd y rhoddion ariannol y maen nhw'n eu casglu yn cael eu had-dalu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.