Y bardd a'r saer maen Hedd Bleddyn wedi marw yn 87 oed

Hedd BleddynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hedd Bleddyn yn adnabyddus ym mywyd diwylliannol ei ardal - yn fardd, cyn-gynghorydd a chrefftwr cerrig beddi

  • Cyhoeddwyd

Yn 87 oed bu farw'r bardd, saer maen a'r cyn-gynghorydd sir ym Mhowys, Hedd Bleddyn.

Yn wreiddiol o Lanbrynmair, roedd wedi ymgartrefu ym Mhenegoes ger Machynlleth ar ôl ymddeol.

Roedd yn ffigwr adnabyddus ym mywyd diwylliannol a chyhoeddus Sir Drefaldwyn am ddegawdau, gan wasanaethu fel cynghorydd sir annibynnol dros ardal Llanbrynmair ar Gyngor Sir Powys am gyfnod.

Yn 15 oed gadawodd yr ysgol gan ddilyn yn ôl troed ei dad a dod yn saer maen ym musnes naddu cerrig beddi y teulu.

Roedd y cwmni yn Llanbrynmair wedi ei sefydlu'n wreiddiol ym 1918 gan T R Jones o Bennal, a chafodd ei brynu gan dad Hedd Bleddyn, I B Williams ym 1938.

Trosglwyddwyd y busnes i Hedd Bleddyn ei hun ym 1960, a'i fab Rhys Bleddyn sydd bellach yn rhedeg y cwmni.

Rhys a Hedd Bleddyn
Disgrifiad o’r llun,

Hedd Bleddyn gyda'i fab Rhys, sydd bellach yn rhedeg y busnes teulu yn naddu cerrig beddi

Ym 1995 cafodd ei ethol yn gynghorydd dros Lanbrynmair yn yr etholiad cyntaf i gyngor newydd Powys, a chynrychioli'r ward hyd at 2008.

Bu'n aelod o dîm Talwrn Maldwyn am flynyddoedd, ac roedd yn gyn-archdderwydd Eisteddfod Powys.

Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 2011, a chyhoeddodd ei hunangofiant yn 2013 o dan y teitl 'Dwyn i Gof a Dyna i Gyd'

Bu farw ei wraig Marian ym mis Mehefin eleni.

Roedd yn dad i ddau o blant - Rhys a Nia – ac yn daid i bump o wyrion.

Hedd BleddynFfynhonnell y llun, Llun teulu

Dywedodd Aled Griffiths, cyfaill i Hedd Bleddyn a chadeirydd Eisteddfod Genedlaethol 2027, wrth BBC Radio Cymru ei fod yn "yn fardd, yn gymeriad lleol hoffus iawn, ac yn ddyn busnes".

"Ond yn fwy na hynny, oedd o'n ddyn poblogaidd a dwi'n credu dyna sut 'dan ni yn ei gofio fo," meddai.

"Heb os nac oni bai, roedd o'n un o gymeriadau Sir Drefaldwyn, ond nid yn unig Sir Drefaldwyn - roedd o'n un o hoelion wyth diwylliant Cymru," meddai wrth siarad ar Dros Frecwast.

"Oedd Hedd yn un o'r bobl 'ma oedd yn gallu troi ei law at unrhyw beth a dyna sut 'dan ni yn ei gofio fo.

"Roedd ganddo fo ffordd wych, feddal o ddelio 'efo pobl, ac roedd hynny'n amlwg yn ei waith fel saer maen ac ym mhob agwedd arall o'i fywyd.

"Wrth gwrs, beth sydd yn taro rhywun ydi bod Hedd yn ddyn Steddfod mawr.

"Roedd yr Eisteddfod yn sicr yn ganolog yn ei fywyd, ac roedd o a Marian yn Eisteddfodwyr drwy'r byw.

"Fydd y Babell Lên byth yr un peth heb Hedd Bleddyn, ma' hynny'n sicr, a beth sy'n glên ydi bod o wedi gallu dod yma i fwrlwm yr Eisteddfod ond bod o wedi ein gadael ni yn ystod y Steddfod hefyd.

"Fe fydd ymdrech i gofio amdano pan fydd yr Eisteddfod yn dod i'w ardal y flwyddyn nesaf, heb os nac oni bai.

"'Dan ni gyd yn meddwl am y teuluoedd yr wythnos yma."

'Cofio ei gyfraniad i lywodraeth leol a chymunedau'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Geoff Morgan: "Roedd Hedd Bleddyn, cyn-gynghorydd sir, yn gwasanaethu ei gymuned gydag ymroddiad ac ymrwymiad, gan gynrychioli Llanbrynmair tan 2004.

"Yn ystod ei gyfnod gyda'r cyngor, gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd Pwyllgor Sir Drefaldwyn ym 1996, gan ddangos ei ymrwymiad i ddemocratiaeth leol a gwasanaeth cyhoeddus.

"Ar ran Cyngor Sir Powys, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant â'i deulu, ffrindiau a phawb a oedd yn ei adnabod ac wedi gweithio gydag ef.

"Bydd yn cael ei gofio am ei gyfraniad i lywodraeth leol ac i'r cymunedau y gwasanaethodd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.