'Mor drist bod Annette ddim yma dim mwy, roedd hi'n arbennig'

Annette Bryn Parri gydag Emyr Gibson a gweddill Trio - sef ei mab Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor a'r canwr Emyr Wyn Gibson wedi rhoi teyrnged i'w "angor", Annette Bryn Parri gan ddiolch iddi am helpu sefydlu'r grŵp Trio.
Dywedodd yr actor, fu'n chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd am 18 mlynedd, ei bod yn "ddynes arbennig" ac yn "amhrisiadwy i Gymru gyfan".
Diolchodd iddi hefyd am helpu i sefydlu Trio ddegawd yn ôl - y triawd mae o'n rhan ohono gyda'r canwr opera Steffan Lloyd Owen a mab Annette Bryn Parri, Bedwyr Gwyn Parri.
Dydi'r grŵp heb berfformio ers marwolaeth y cerddor, ond maen nhw'n debygol o ddod nôl at ei gilydd i gasglu arian at ysgoloriaeth er cof amdani.

Annette a'i gŵr Gwyn, a fu farw yn 2021
Ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, fe ddewisodd Emyr Gibson y gân Angor er cof am y pianydd gan ddweud: "Annette Bryn Parri oedd ein hangor ni. Hi ddaeth â fi, Steffan a Beds at ei gilydd.
"Mae o mor drist bod hi ddim yma dim mwy. Dynes arbennig, a thalentog tu hwnt ac amhrisiadwy i Gymru gyfan.
"Mi fysa hi'n 'neud unrhyw beth i chi."
Dywedodd Emyr Gibson, gafodd ei fagu yn Neiniolen fel Annette Bryn Parri, bod y ddau deulu yn ffrindiau agos ers degawdau.
Ac fe gafodd anogaeth gan y pianydd i ddatblygu fel cerddor.
"Er bod fi'n canu ac yn cystadlu, do'n i ddim yn gystadleuwr mawr yn y genedlaethol a ballu.
"Ond dwi'n cofio Eisteddfod y Faenol yn 2005 a'r Sioe Gerdd yn cael ei droi'n ddwy gystadleuaeth - o dan 19 oed a dros 19 oed. Nes i drio, a nes i guro, ac roedd Annette efo fi ac mae hwnna yn atgof arbennig."

Fe wnaeth Trio recordio albwm yn 2014
Yn ddiweddarach fe wnaeth y pianydd, fu'n cyfeilio i nifer fawr o gantorion gan gynnwys Bryn Terfel ar ddechrau ei yrfa, ei helpu i sefydlu'r grŵp Trio.
Yr aelodau eraill oedd ei mab Bedwyr, sy'n gwnselydd, a'r bariton Steffan, sydd wedi bod yn gweithio yn y byd opera yn Y Swistir yn ddiweddar.
Fe gafodd y grŵp 10 mlynedd brysur gan gynnwys recordio albwm a pherfformio mewn cyngherddau - o Washington i bob cwr o Gymru.
"Dwi'n cofio ni'n heirio bws mini, ac roedda ni'n canu rywle yn y gogledd ar nos Iau, wedyn rhywle ella ar nos Wener, wedyn roedda ni'n mynd i rywle i dde Cymru i ganu mewn pentre' bach, a chael noson arbennig," meddai Emyr.
"Dwi'n cofio mynd i Clacton-on-Sea. Roedd Annette a Gwyn efo cyswllt yna ac roedda ni'n disgwyl ein bod ni am fynd i festri neu neuadd gapel neu'r neuadd bentre', ond na [roeddan ni] mewn theatr fawr.
"Dim ond ni oedd yna fel Trio ac roedd y tocynnau wedi gwerthu allan i gyd. Roedd dros 900 o bobl yna. Roedd hwnna'n anhygoel."

Roedd Emyr Gibson, sydd wedi cael rhan mewn drama am streic Friction Dynamics yn ddiweddar ac yn cyflwyno ar Môn FM, yn cael ei holi gan Beti George
Dydi Trio heb ganu ers marwolaeth Annette Bryn Parri yn 2025, yn rhannol gan fod y tri wedi bod mor brysur.
Ond dywedodd Emyr eu bod yn bwriadu dod yn ôl at ei gilydd yn fuan.
"Mi fysa hi'n anodd iawn rŵan, ond dwi'n gwybod bod y teulu yn mynd i wneud Ysgoloriaeth Annette ac mi fydd yna gyngerdd felly dwi'n siŵr fydd Trio yno - yn bendant.
"Mi fydd hynny'n beth cysurus a braf iawn i fod yn rhan ohono."
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 ar 12 Gorffennaf neu ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2025

- Cyhoeddwyd24 Medi 2024

- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
