Ffordd yr A40 ar gau wedi i fws fod mewn gwrthdrawiad ger Llandeilo

Ffoshelig Ffynhonnell y llun, Carmarthenshire news online
  • Cyhoeddwyd

Mae rhan o ffordd yr A40 i'r ddau gyfeiriad ar gau wedi gwrthdrawiad ger Llandeilo.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y gwasanaethau wedi eu galw yn dilyn "gwrthdrawiad difrifol" rhwng bws a fan am 16:30 brynhawn Gwener.

Mae'r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân yn parhau ar safle'r gwrthdrawiad ond deallir bod y sefyllfa o dan reolaeth.

Mae'r lôn yn parhau ar gau rhwng Ffordd Caerfyrddin yn Llandeilo a Phentrefelin a'r cyngor i yrwyr yw osgoi'r ardal.

llandeilo

O'r safle (toc cyn 19:00)

Meleri Williams, Gohebydd BBC Cymru

Mae llawer o blismyn o hyd ar ffordd yr A40 rhwng Llandeilo a Nantgaredig.

Rwy' wedi gweld dwy injan dân yn gadael ac mae'r ambiwlans awyr hefyd wedi mynd nôl.

Yn y pellter rwy'n gallu gweld fan wen ar y llain galed a bws cwmni Ffoshelig.

Mae Ffoshelig yn gwmni adnabyddus yn Sir Gâr - yn bennaf mae'r bysys yn cludo plant ysgol ond dydyn ni ddim wedi cael cadarnhad bod y bws yn cludo disgyblion.

Mae'n dawel yma ac mae'r heddlu wedi gofyn i bobl osgoi'r ardal gan bod y ffordd yn parhau i fod ar gau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig