ASau yn cerdded allan o'r Senedd wedi ail araith ddadleuol gan AS Reform

Joe MartinFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joe Martin jocio nad yw myfyrwyr Cymru yn gallu darllen, a dywedodd bod nyrsys Indiaidd yn cymryd swyddi pobl Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth aelodau'r Senedd o Blaid Cymru, Llafur a'r Blaid Werdd gerdded allan o'r siambr ddydd Mercher ar ôl i AS Reform UK jocio nad yw myfyrwyr Cymru yn gallu darllen, a dweud bod nyrsys Indiaidd yn cymryd swyddi pobl Cymru.

Dyma'r ail ddiwrnod i Joe Martin gynhyrfu ASau, gyda Phlaid Cymru yn ei gyhuddo o "fod yn gwbl hiliol" pan ddywedodd wrth y Senedd ddydd Mawrth fod ymosodiadau gan geiswyr lloches o Swdan yn "anochel".

Mae'r Llywydd Huw Irranca-Davies wedi ceryddu'r AS dros Gaerdydd Penarth am ei ail araith - ond mae'r BBC ar ddeall bod rhai ym Mhlaid Cymru yn credu y dylai wedi bod yn fwy cadarn gyda Mr Martin yn gynt.

Dywedodd Jason O'Connell o Reform fod penderfyniad rhai ASau i gerdded allan yn "gywilyddus".

Yr AS Joe MartinFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Joe Martin AS gyfres o honiadau am geiswyr lloches o Swdan yn ystod cwestiynau'r prif weinidog ddydd Mawrth

Yn gynharach yn y dydd, fe wnaeth prif chwip Reform, Llŷr Powell, amddiffyn yr araith wnaeth Mr Martin yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, gan ddweud bod angen i wrthwynebwyr gwleidyddol "ddod i arfer" â rhai sylwadau.

Mewn dadl Reform am wariant rhyngwladol ddydd Mercher, fe wnaeth Mr Martin jocio ei fod wedi cysylltu â "myfyrwyr Cymreig sydd wedi bod trwy ein system addysg sy'n cael ei danariannu, ond ni chefais ateb oherwydd ein bod wedi anfon e-bost atyn nhw a dyw nhw methu darllen".

Wrth i bobl ymateb yn y siambr, dywedodd: "Edrychwch ar gyfraddau anllythrennedd myfyrwyr sy'n graddio."

Ychwanegodd Mr Martin ei bod yn wych bod nyrsys yn cael eu recriwtio o India "oherwydd mae'n golygu y gall y Cymry a fyddai wedi dod yn nyrsys fel arall fynd ar gredyd cyffredinol yn lle".

Dywedodd AS Caerdydd Ffynnon Taf, Zaynub Akbar, yn y cefndir: "Dwi'n mynd i adael oherwydd dydw i ddim yn derbyn dim o hyn a dydw i ddim eisiau bod yn rhan o hyn."

Dywedodd ffynhonnell o Blaid Cymru fod y rhan fwyaf o'u ASau oedd yn gallu gadael wedi gadael. Fe wnaeth Mike Hedges o'r Blaid Lafur ac arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, gerdded allan hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru na fydd y blaid "yn sefyll wrth i Reform UK wneud hwyl am ben ein democratiaeth a gwneud hwyl am ben y cymunedau rydyn ni'n eu cynrychioli".

Seddi gwag yn siambr y SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o seddi wag yn y siambr ar ôl i'r ASau gerdded allan

Yn gynharach yn y dydd fe wnaeth Plaid Cymru gyhuddo Mr Martin o dorri rheolau'r Senedd gyda'i sylwadau yng nghwestiynau'r prif weinidog ddydd Mawrth, mewn cwyn i'r llywydd Huw Irranca-Davies.

Gan ymddangos ei fod yn beirniadu sylwadau Mr Martin yn anuniongyrchol ddydd Mercher, gofynnodd Mr Irranca-Davies i ASau osgoi iaith sydd â'r "potensial i danio dadl".

Ar ôl yr ail araith gan Mr Martin, fe wnaeth y llywydd Huw Irranca-Davies ei geryddu, gan ddweud: "Hoffwn i chi fyfyrio, os gwelwch yn dda, ar y sylwadau a'ch cyfraniad heddiw. Nid oedd yn unol â'm disgwyliadau."

Dywedodd prif chwip Reform UK, Llŷr Powell, nad oedd wedi clywed unrhyw sylw annerbyniol ac ychwanegodd: "Dewch i arfer â hyn, dyma'r norm newydd".

Llŷr PowellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd pawb wnaeth bleidleisio dros Reform yn gwybod beth oedden ni'n dod i mewn i'w wneud," meddai Llŷr Powell

Er gwaethaf cwyn Plaid, dywedodd llefarydd ar ran y Senedd nad oedd Joe Martin wedi torri'r rheolau.

Fodd bynnag, mae BBC Cymru ar ddeall bod sylwadau'r llywydd yn gallu cael eu dehongli fel rhybudd ola' i bob aelod.

Mae Joe Martin wedi cael cais am sylw.

Mewn cwestiwn am bolisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, gwnaeth Mr Martin gyfres o honiadau am geiswyr lloches o Swdan yn ystod cwestiynau'r prif weinidog ddydd Mawrth.

Soniodd am ymosodiad diweddar yn Belfast lle cafodd dyn o Swdan ei arestio a llofruddiaeth Rhiannon Whyte gan geisiwr lloches o Swdan.

Gofynnodd i'r prif weinidog beth fyddai'n ei wneud "i wneud yn siŵr, pan fydd yr ymosodiad anochel nesaf yn digwydd, nad yw'n digwydd yng Nghymru".

'Hollti cymunedau'

Roedd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, yn nodio ei ben wrth i Mr Martin wneud ei gyfraniad, ond roedd syndod yn y siambr gan aelodau Plaid Cymru a Llafur.

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth ei fod yn credu y byddai'n rhaid i'r Senedd "ddod i arfer â'r math hwn o gyfraniad", a chyhuddodd yr AS Reform o geisio "hollti cymunedau".

Roedd Shav Taj o'r blaid Lafur bron mewn dagrau wrth iddi wneud araith emosiynol yn sôn am ei chefndir Pacistanaidd a dywedodd bod y sylwadau yn rhai oedd yn "aflonyddu".

Ond dywedodd Sam Rowlands o'r Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi'n "iawn" i wleidyddion yn y Senedd "ofyn am sicrwydd gan eu llywodraeth ynghylch y trefniadau diogelu".

Dywedodd Mr Powell o Reform, pe bai digwyddiad fel y disgrifiodd Plaid Cymru, yna byddai'r Llywydd "wedi delio ag ef yno ac yn y fan a'r lle".

Dywedodd ei bod yn "arfer gwael rhoi sylw i'r Llywydd fel hyn a gollwng yr hyn a ddywedodd i'r wasg".

"Ro'n i'n eistedd yn y siambr, roedd Joe Martin yn sefyll y tu ôl i mi. Wnes i ddim clywed dim byd ro'n i'n meddwl oedd yn annerbyniol," meddai.

"Roedd pawb wnaeth bleidleisio dros Reform yn gwybod beth oedd ein bwriadau. Ro'n i'n siarad am Genedl Noddfa yn ystod yr etholiad, roedd Joe Martin yn siarad am Genedl Noddfa yn y siambr.

"Nawr rydw i wedi gweld llawer o bethau'n dod allan gan y pleidiau eraill, yn fy marn i: 'dewch i arfer gydag e, dyma'r norm newydd' yw'r geiriau rydw i'n eu defnyddio."

'Dwyn anfri ar y Senedd'

Mewn llythyr at y llywydd, dywedodd gweinidog busnes Plaid Cymru, Heledd Fychan, fod y sylwadau'n "beryglus ac yn ddirmygus" ac yn "dwyn anfri ar y Senedd".

Ychwanegodd y Trefnydd y byddai "bob amser yn delio ag achosion o hiliaeth uniongyrchol gyda'r difrifoldeb mwyaf a'i bod wedi ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn am ddyfarniad brys ar yr hyn yr wyf yn ei gredu sy'n torri'r Rheolau Sefydlog yn ddifrifol ac yn glir".

Y gred yw bod Plaid Cymru wedi dadlau bod Mr Martin wedi torri'r rheolau sefydlog sy'n ymwneud ag ymddygiad anghwrtais neu anweddus ac wedi defnyddio iaith sy'n gwahaniaethu neu'n sarhaus, neu iaith sy'n tynnu sylw oddi ar urddas y Senedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.