Heddlu'n ymchwilio i dân bwriadol ger ysbyty ym Merthyr Tudful

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i dân bwriadol ger Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
Cafodd y tân ei gynnau ger pad hofrennydd yr ysbyty am tua 12:20 ddydd Mercher.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad, ond ni chafodd unrhyw gleifion na gwasanaethau'r ysbyty eu heffeithio.
Does neb wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod y tân "wedi cael ei reoli'n gyflym oherwydd ymateb y gwasanaethau brys".
Dywedodd y bwrdd iechyd y "gallai'r digwyddiad fod wedi cael canlyniadau mwy difrifol", gan fod cynnau tân yn fwriadol ger ysbyty yn gallu "rhoi bywydau mewn perygl a tharfu ar wasanaethau hanfodol".
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai helpu gyda'r ymchwiliad.