Parhau i asesu llifogydd yn dilyn ffrwydrad mewn chwarel

Gwaelod-y-garth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl eiddo eu gwagio ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r llifogydd yng Ngwaelod-y-garth ar gyrion Caerdydd yn dal i gael eu hasesu, yn dilyn digwyddiad mewn chwarel gerllaw.

Cafodd sawl eiddo eu gwagio, roedd ffyrdd wedi cau a phobl yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal.

Ddydd Iau dywedodd trigolion wrth y BBC eu bod wedi clywed ffrwydrad mawr o gyfeiriad y chwarel tua 12:30 a bod y dŵr wedi'u cyrraedd ychydig funudau'n ddiweddarach.

Mewn diweddariad ddydd Gwener, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn "ymwybodol o ddifrod sylweddol i hawl tramwy (right of way) cyhoeddus trwy'r coetir o ganlyniad i'r digwyddiad".

Mae ffordd Heol Goch ar gau i'r ddau gyfeiriad o'r B4262 i Clos Goch.

Gwaelod-y-garth, ddydd Iau
Disgrifiad o’r llun,

Gwaelod-y-garth, ddydd Iau

Dywedodd Chris Weaver, arweinydd Cyngor Caerdydd, fod ymateb amlasiantaeth ar lefel "Gold Command" wedi cael ei roi ar waith yn dilyn y digwyddiad.

"Ar hyn o bryd y flaenoriaeth yw gwneud popeth yn ddiogel, glanhau'r ardal a chefnogi'r trigolion," meddai.

"Yn amlwg rydyn ni'n ymwybodol o'r ffrwydradau yn y chwarel, a bydd hynny'n cael ei ymchwilio'n llawn er mwyn deall beth achosodd y digwyddiad."

Dywedodd hefyd fod tua 15 o gartrefi wedi'u heffeithio a bod oddeutu 40 o bobl wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad.

"Roedd ymateb y gwasanaethau brys a staff y cyngor yn arbennig, ac rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth wnaethon nhw i sicrhau bod pobl yn ddiogel," meddai.

Ychwanegodd fod swyddogion tai'r cyngor yn parhau i gefnogi'r trigolion ac y byddai'r cyngor yn cysylltu â phawb sydd wedi'u heffeithio i weld pa gymorth pellach y gall ei ddarparu.

Ffrwydrad mewn chwarel

Mae cwmni Breedon, sy'n gweithredu Chwarel Ffynnon Taf, wedi cadarnhau bod y digwyddiad yn dilyn un o'i "ffrwydradau sy'n cael eu cynllunio" yn y chwarel.

Dywedodd Mike Pearce, prif weithredwr Breedon GB, mai eu "blaenoriaeth lwyr" oedd cefnogi'r bobl sydd wedi'u heffeithio.

"Mae ein tîm ar lawr gwlad yn gweithio gyda'r awdurdodau a'r gymuned leol i sicrhau bod gan bawb lety diogel ac addas, ynghyd ag unrhyw gymorth arall sydd ei angen," meddai.

Dywedodd y cwmni y byddai'n cefnogi ymchwiliad yr awdurdodau ac y byddai hefyd yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i "ddeall beth sydd wedi digwydd".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru fod eu meddyliau gyda'r "rhai sy'n cael eu heffeithio" gan y digwyddiad.

"Rydym yn ymwybodol o'r newid lliw gweladwy yn Afon Taf o ganlyniad i'r digwyddiad yma.

"Mae ein swyddogion ar y safle yn asesu'r effaith amgylcheddol ac yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys i roi cyngor ar sut i leihau unrhyw risg pellach o lygredd i lwybrau dŵr yn yr ardal.

"Rydym yn ymwybodol o ddifrod sylweddol i hawl tramwy (right of way) cyhoeddus trwy'r coetir o ganlyniad i'r digwyddiad ac yn annog i bobl osgoi'r ardal," meddai CNC.

'Peri pryder'

Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi dweud bod y digwyddiad wedi "peri pryder".

"Mae ein meddyliau gyda'r trigolion a'r busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd yng Ngwaelod-y-garth," meddai.

"Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa a chefnogi ein partneriaid fel rhan o'r ymateb amlasiantaeth, sydd nawr yn symud i gyfnod adferiad."

Ychwanegodd y bydd yr awdurdodau perthnasol yn ymchwilio i'r digwyddiad "i ddeall yn union beth ddigwyddodd", ac na fyddai'n briodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig