Cystadleuaeth Osborne Roberts wedi 'agor drysau' i genedlaethau

Fe wnaeth Mary Lloyd Davies ennill y gystadleuaeth ar sawl achlysur
- Cyhoeddwyd
Mae degau o bobl wedi derbyn Gwobr Goffa Osborne Roberts ar hyd y blynyddoedd.
Eleni, mae'n 75 o flynyddoedd ers sefydlu'r wobr, ac mae un sydd wedi profi gyrfa ddisglair fel cantores yn dweud bod y wobr wedi "agor drysau" i nifer.
Mae'r wobr - y Rhuban Glas i gantorion rhwng 19 a 25 oed - yn cael ei gyfrif fel un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol.
I ddathlu'r garreg filltir arbennig, mae cyn-enillwyr y wobr wedi eu gwahodd i fod yn rhan o'r dathliad ar y maes yn Llantwd.
'Gymaint o hwb'
Un sydd wedi ennill y wobr droeon yw'r gantores adnabyddus Mary Lloyd Davies.
Dywedodd wrth Cymru Fyw bod y gystadleuaeth wedi "agor drysau" wrth iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores.
"O'n i wedi ennill yn Rhydaman yn 1970, wedyn ym Mangor yn 1971, ges i annwyd ofnadwy yn 1972, a nes i ennill yn 1973!
"So oedd o'n dipyn bach o farathon, ac o'n i wedi trio yn Llangollen yr un pryd.
"O'n i'n mynd i'r coleg yn '70 ac wedyn oedd rhywun yn adref dros yr haf ac yn gwneud y Gen a Steddfod a Llangollen, a doedd 'na ddim lot o ysgoloriaethau a phethau ar gael adeg hynny yn anffodus.
"Unwaith o'n i wedi dechrau ennill, o'n i'n cael cyngherddau gyda chorau meibion a lot o bethau fel 'na.
"Oedd ennill yr Osborne wedi rhoi gymaint o hwb i mi, ro'n i'n mynd efo corau meibion i bob man, gwahanol gorau meibion yn canu ac ati."

Roedd Thomas Osborne Roberts yn ffigwr cerddorol blaenllaw ar ddechrau'r 20fed ganrif - yn gyfansoddwr, cyfeilydd, arweinydd, athro a beirniad
Dywedodd Mary Lloyd Davies iddi gael y cyfle i ganu mewn "gwahanol gyngherddau a nosweithiau llawen, lot o bethau fel'na" yn sgil ennill Gwobr Goffa Osborne Roberts.
"Mi oedd o'n hwb mawr, does dim dwywaith am hynny."
Dywedodd ei bod wedi cadw dyddiaduron ers dechrau yn y coleg, a'i bod wedi sylwi ar gymaint o gyngherddau oedd ganddi yn y cyfnod wedi iddi ennill y wobr.
"Weithia' roedd pedwar neu pum cyngerdd yr wythnos, a mynd efo nhw [y corau meibion] dramor."
Aeth yn ei blaen i gael canu yn y "Royal Albert Hall gyda Stuart Burrows yn '74, cyngerdd Gŵyl Dewi, Songs of Praise - lot o ryw bethau fel 'na, ac mi oedd o'n fraint a deud y gwir."
'Dal dipyn o statws iddo'
Mae Mary Lloyd Davies yn credu bod y gystadleuaeth yn parhau i ffynnu hyd heddiw.
Dywedodd bod y gystadleuaeth yn "dal i agor drysau iddyn nhw - mae 'na dal dipyn o statws iddo".
"Maen nhw'n cael eu gweld, a beth sy'n dda yn cystadlu yn yr Eisteddfod ydy bod o'n dysgu chi i gyfathrebu gyda chynulleidfa a'ch paratoi chi."
Roedd Thomas Osborne Roberts yn ffigwr cerddorol blaenllaw ar ddechrau'r 20fed ganrif - yn gyfansoddwr, cyfeilydd, arweinydd, athro a beirniad.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn ddydd Iau, gyda phanel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed i ganu eto yn y rownd derfynol.
Fel rhan o'r dathliadau'n 75 oed bydd Trystan Lewis yn holi rhai o'r enillwyr ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Menai Davies, Ifor Lloyd, Mary Lloyd Davies, Huw Rhys-Evans, Gwynedd Parry a Dafydd Wyn Jones yn y Stiwdio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
