Cannoedd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Melbourne, Awstralia

Robat Arwyn oedd yn arwain Cymanfa Ganu Gŵyl Dewi Melbourne
- Cyhoeddwyd
Daeth cannoedd o bobl ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Melbourne, Awstralia dros y penwythnos.
Roedd y dathliadau'n cynnwys Cymanfa Ganu yng Nghadeirlan Sant Paul y ddinas gan ddenu 900 o bobl.
Mae'r trefnwyr yn honni mai dyma un o'r torfeydd mwyaf o bobl o dras Gymraeg i erioed cyfarfod fel rhan o ddigwyddiad - tu allan i fyd chwaraeon - unrhyw le yn y byd.
Cymerodd sawl côr ran, gan gynnwys Côr Cymraeg Melbourne a Chôr Merched Geelong.

Cafodd y gymanfa ei harwain gan Robat Arwyn, arweinydd Côr Rhuthun, a hefyd yn ymuno â'r dathliadau oedd y soprano o Gymru Erin Fflur.
Yn y cyfamser, cynhaliwyd gwasanaeth llai yn Eglwys Gymreig Melbourne ar Stryd La Trobe yng nghanol y ddinas.
Yn ôl cyfrifiad diwethaf Awstralia yn 2021, mae 29,250 o bobl yn byw yn Awstralia a gafodd eu geni yng Nghymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth

- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024
