Pryder am brinder brechlyn y tafod glas wedi i achosion 'ffrwydro'

Mae'r feirws yn cael effaith ar ddefaid, gwartheg, anifeiliaid cnoi cil eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.
- Cyhoeddwyd
Mae pryder yn cynyddu am beryglon clefyd y tafod glas, wrth i ffermwyr gael rhybudd i fod ar eu gwyliadwriaeth am symptomau yn eu hanifeiliaid, ac i siarad â'u milfeddyg am frechu.
Ond mae pryder hefyd bod cyflenwadau o'r brechlyn dan bwysau, gydag un ffermwr yn dweud nad yw wedi gallu brechu ei holl anifeiliaid er ei fod eisiau gwneud hynny.
Yn ôl swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Elin Jenkins, mae nifer yr achosion wedi "ffrwydro" ym Mhrydain yn yr wythnosau diwethaf.
Mae'r sefyllfa ar ei waethaf yng Ngwlad yr Haf a gorllewin Lloegr, ond mae pryder mawr ar ochr yma'r ffin hefyd.
"Mae yna achosion hefyd yng Nghymru, yn y de ac mewn ardaloedd fel Ceredigion a gogledd Powys," meddai Ms Jenkins.
"Mae hyn yn gonsyrn mawr i ni."

"Mae hwn yn rhywbeth i gymryd o ddifri'," meddai Elin Jenkins o'r FUW
Yn ystod tymor 2026/27 mae nifer yr achosion ym Mhrydain wedi codi i 517, gyda 15 achos yng Nghymru, 496 yn Lloegr a chwech yn Yr Alban.
Does dim achosion wedi eu cofnodi yng Ngogledd Iwerddon.
Wrth i nifer yr achosion godi, mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn trefnu cyfres o gyfarfodydd i godi ymwybyddiaeth am y tafod glas.
Bydd un o'r rheiny yn cael ei gynnal ym mart Caerfyrddin ddydd Mercher nesaf.
Dywed Dr Mandy Nevel, pennaeth lles ac iechyd anifeiliaid AHDB eu bod yn "disgwyl i'r achosion gyrraedd penllanw ym mis Medi".
Wrth i'r galw am y brechlyn i'r clefyd gynyddu, mae'n cydnabod fod cyflenwadau "dan bwysau".

Nid yw Wyn Williams wedi gallu brechu ei holl anifeiliaid er ei fod eisiau gwneud hynny
Ar ei fferm ger Llanfair Caereinion ym Mhowys mae gan Wyn Williams tua 1,200 o ddefaid ac ŵyn.
Eleni, am y tro cyntaf ers 2008, mae wedi penderfynu brechu'r stoc er mwyn eu gwarchod rhag y tafod glas.
"Mae'r clwy wedi dod fewn i Bowys – mae e wedi cael ei gonfirmio yn Y Drenewydd ac Aberhafesb, rhyw 13 milltir ar y ffordd o fan hyn ond os ydych chi'n gwneud lein syth mae'n fwy fel pump neu chwech milltir.
"Mi wnes i bendroni amdano fo ond unwaith wnaethon ni glywed bod y case cyntaf yn Llanidloes, ro'n i'n meddwl wedyn bod hi'n amser wneud rhywbeth amdano fo."
Ar ôl siarad gyda'i filfeddyg fe gafodd Wyn ddigon o'r brechlyn i drin ei hyrddod i gyd a'r rhan fwyaf o'r defaid magu, ond doedd dim digon o'r brechlyn i wneud y cyfan.
"Dwi wedi gwneud 500 o ddefaid magu a hyrddod ond dwi'n brin o 150 o ddefaid sydd eisiau gwneud eto, ond dyw'r vaccine ddim yn gallu dod am bythefnos.
"Mae 'na brinder. Does dim stoc o'r stwff."
'Dod fewn yn wythnosol'
Yn ôl y milfeddyg Phil Thomas, sy'n llefarydd ar ran Cymdeithas Filfeddygol y BVA, fe fydd cyflenwadau o'r brechlyn yn cynyddu a bydd mwy ar gael cyn hir, ond mae'n rhaid i ffermwyr archebu'r brechlyn ymlaen llaw.
"Mae fe yn dod fewn yn wythnosol," meddai,
"'Wy'n credu bod tua tri chwarter miliwn o doses yn dod mewn i'r wlad yr wythnos yma, mae rhywbeth tebyg yn dod mewn wythnos nesa', ac mae na ryw filiwn a hanner yn dod mewn erbyn diwedd y mis.
"Tasech chi'n cael e mewn nawr a chael e mewn i'ch stoc chi – gwych!
"Ond rhowch eich archeb fewn fel bod e 'da chi yn barod i'r gaeaf i wneud e cyn bydd y feirws yma'n datblygu gwanwyn blwyddyn nesaf, achos mi fydd e."
Beth yw tafod glas?
Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd heintus, sy'n cael ei ledaenu yn bennaf trwy wybed mân brathog.
Mae'n cael effaith ar ddefaid, gwartheg, anifeiliaid cnoi cil eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.
Nid yw'n gallu cael ei drosglwyddo rhwng pobl, a does dim risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.
Gall effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid, ac mewn achosion difrifol mae'n gallu achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid sydd wedi'u heintio.
Mae lliw glas ar dafod anifail yn un o'r symptomau, a hynny oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

Mae ffermwyr wedi cael rhybudd i fod ar eu gwyliadwriaeth am symptomau yn eu hanifeiliaid
Mae Prys Morgan, cyfarwyddwr cig oen a biff AHDB yn "cydnabod fod hwn yn amser pryderus i fusnesau fferm".
Ychwanegodd y "dylai ffermwyr frechu eu hanifeiliaid ar fyrder yn hytrach nag aros am arwyddion clinigol", gan mai dyma'r amddiffyniad gorau yn erbyn y clefyd.
Mae yna ymdrech fawr yn y diwydiant amaeth i godi ymwybyddiaeth o'r tafod glas.
Tafod Glas: Cyfyngiadau ar symud da byw dros y ffin i ddod i ben
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025
Cwmni milfeddygol wedi gwerthu miloedd o frechlynnau tafod glas
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2025
Rhybudd am effaith 'drychinebus' cyfyngiadau y tafod glas
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2025
Dywed Elin Jenkins o'r FUW: "Gydag yr achosion yn codi, mae'n glir iawn ei fod wedi cyrraedd.
"Ma' fe yn achosi salwch yn anifeiliaid, marwolaethau ac erthyliadau. Mae hwn yn rhywbeth i gymryd o ddifri'."
Er bod rhai ffermwyr yn dweud fod brechu yn gostus, mae undebau'n dweud eu bod yn lobïo'r llywodraeth i helpu.
"Ry'n ni yn holi am hyn," meddai Ms Jenkins.
"Ry'n ni hefyd yn holi i 'neud yn siŵr fod digon o gyflenwad o'r brechlyn ar gael."
'Galw am frechlynnau yn uchel iawn'
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: "Brechu yw'r unig fesur rheoli hirdymor hyfyw ar gyfer y tafod glas.
"Mae'r galw am frechlynnau yn uchel iawn ar hyn o bryd.
"Rydym yn parhau i annog pob ceidwad anifeiliaid sy'n agored i niwed i drafod brechu gyda'u milfeddyg preifat.
"Cynghorir ffermwyr a milfeddygon i archebu brechlynnau nawr er mwyn sicrhau mynediad at gyflenwadau sydd ar gael yn fasnachol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.