Cyhoeddi 'digwyddiad difrifol' wedi gwrthdrawiad bws yn Sir Gâr

Mae'r A484 ar gau rhwng Cydweli a Llandyfaelog
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn delio â "digwyddiad difrifol" yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â bws.
Dywedodd y llu eu bod yn delio gyda'r digwyddiad ar yr A484 ger cylchfan Parc y Bocs yng Nghydweli.
Mae'r ffordd ar gau ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.
Mae swyddogion yr heddlu ger y digwyddiad wedi cadarnhau nad oes unrhyw un wedi marw.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau bod eu timau nhw yn ymateb i'r digwyddiad hefyd.
"Mae ein hadrannau brys yn brysur, ac mae amseroedd aros yn debygol o fod yn hirach wrth i ni drin yr unigolion sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf."
Dywedodd ficer lleol, Jim Flanagan y cafodd ei ddargyfeirio oherwydd y gwrthdrawiad, gan ychwanegu ei fod wedi gweld to bws dros wrych.
Ychwanegodd fod sawl ambiwlans yno a bod ambiwlans awyr wedi glanio mewn cae gerllaw.