Gweiddi a rhegi yn y llys wrth i bobl gael eu carcharu am derfysg Trelái

Ashdon O'Dare (chwith) oedd yn gyfrifol am sbarduno'r terfysg, ac roedd Lee Robinson yn annog pobl i daflu bom petrol
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae iaith sarhaus yn y copi isod.
Roedd gweiddi a rhegi yn y llys wrth i naw person o Gaerdydd gael eu dedfrydu ddydd Mercher i gyfnodau dan glo am gymryd rhan mewn terfysg yn ardal Trelái dair blynedd yn ôl.
Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i'r ardal ar ôl i rhwng 100 a 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol ym mis Mai 2023.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn y gwrthdrawiad.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys cerrig, ffrâm gwely, drysau a thân gwyllt eu taflu at yr heddlu.
Wedi i'r diffynnydd cyntaf gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, fe waeddodd unigolion yn yr oriel gyhoeddus a dweud "shut up, you slut" wrth y barnwr Tracey Lloyd-Clarke.
Bu'n rhaid i'r barnwr orfodi'r cyhoedd i adael y llys, ac fe ofynnodd i staff y llys ddod â dau ddyn yn ôl a'u cadw dan amheuaeth o ddirmyg llys.
31 heddwas wedi'u hanafu
Fe gafodd 31 o heddweision ac un aelod o'r cyhoedd eu hanafu yn ystod y terfysg.
Dywedodd y barnwr fod "galar ofnadwy" teuluoedd Kyrees a Harvey yn cael ei deimlo gan y gymuned hefyd.
Ychwanegodd fod sibrydion ynglŷn â'r hyn oedd wedi digwydd a beth oedd wedi achosi'r gwrthdrawiad wedi lledaenu'n gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe dyfodd y dorf dros gyfnod o oriau, gyda drwgdeimlad ac wedyn trais tuag at yr heddlu yn cynyddu.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn
Y rhai gafodd eu dedfrydu yn y llys ddydd Mercher am derfysg (riot) oedd:
Ashdon O'Dare, 28 o Drelái - chwe blynedd a chwe mis.
Clywodd y llys mai O'Dare oedd yn gyfrifol am sbarduno'r terfysg a'i fod wedi annog y dorf i droi'n dreisgar tuag at yr heddlu.
Lee Robinson, 39 o Gaerau – chwe blynedd a chwe mis.
Roedd Robinson un o'r rhai cyntaf yno'n ffilmio'r digwyddiad ar ei ffôn, yn annog pobl eraill i daflu bom petrol tuag at un o swyddogion Heddlu'r De.
Clywodd y llys fod "ei weithredoedd wedi cynyddu'r troseddu".

O'r chwith i'r dde: Michaela Gonzales, Jordan Bratcher a Tyler Stapleton
Michaela Gonzales, 37 o Drelái – pum mlynedd a dau fis.
Fe geisiodd Gonzales dawelu'r dorf fach wedi'r gwrthdrawiad, ond wrth i'r heddlu geisio symud pobl i ffwrdd o ble bu farw'r bechgyn, fe drodd hi'n dreisgar hefyd.
Fe waeddodd droeon mai "ein strydoedd ni yw'r rhain" ac fe daflodd botel tuag at yr heddlu cyn annog eraill i wneud hefyd.
Roedd hi yn ei dagrau wrth i'r barnwr gyhoeddi'r ddedfryd.
Jordan Bratcher, 27 o Lanisien – pum mlynedd a chwe mis.
Roedd Bratcher yn un o'r grŵp amlwg fu'n taflu amryw o eitemau tuag at yr heddlu dros gyfnod o oriau.
Clywodd y llys fod plant yn bresennol pan fu'n troseddu.
Tyler Stapleton, 26 o Drelái – pedair blynedd a phedwar mis.
Roedd Stapleton un o'r rhai cyntaf i gyrraedd Heol Wilson, cyn iddo ymuno â'r grŵp fu'n herio'r heddlu yno.
Fe ymunodd â grŵp fu'n casglu eitemau o erddi yn yr ardal er mwyn eu taflu at yr heddlu.
Pan gafodd ei arestio, dywedodd wrth swyddogion ei fod wedi gwneud "rhywbeth twp iawn".

Roedd Keiron Beccano a Luke Williams ymysg y rhai a gafodd eu carcharu ddydd Mercher
Keiron Beccano, 38 o Drelái – pum mlynedd a chwe mis.
Bwriad Beccano oedd cerdded heibio llinell yr heddlu ond fe ymunodd â'r grŵp oedd yn herio swyddogion.
Roedd yn un o'r criw aeth i erddi i godi eitemau er mwyn eu taflu.
Fe ddechreuodd dorri darnau o rwbel yn ddarnau llai a'u taflu hefyd.
Luke Williams, 32 o Drelái – chwe blynedd.
Roedd Williams yn bresennol o'r cychwyn ac yn annog pobl eraill i ymuno yn y terfysg.
Bu'n ffrydio'r digwyddiad yn fyw i filoedd o bobl am awr a hanner ar ei ffôn, nes i'r batri redeg yn fflat. Bu'n dathlu pan gafodd plismyn eu hanafu.

Mae McKenzie Pring a Jaydan Baston wedi cael eu dedfrydu i gyfnodau mewn sefydliad i droseddwyr ifanc
McKenzie Pring, 21 o Gaerau - pedair blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Pring oedd un o'r cyntaf i fynd i ardd er mwyn codi cerrig a gafodd eu taflu at yr heddlu, cyn iddo redeg i ffwrdd.
Dywedodd y barnwr ei bod hi'n ystyried oedran Pring ar y pryd.
Jaydan Baston, 21 o Gaerau – pedair blynedd a chwe mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Fe gyrhaeddodd y terfysg gyda McKenzie Pring a bu'n chwerthin ar unigolion oedd yn taflu eitemau at yr heddlu.
Yn ddiweddarach fe gododd peth o'r rwbel oedd yn y ffordd cyn ei daflu at yr heddlu.
Harvey James, 20 o'r Tyllgoed – gorchymyn cymunedol 24 mis.
Fe ymunodd â'r dorf ac fe ddechreuodd ffilmio'r digwyddiad er ei ffôn symudol.
Cododd garreg oddi ar y llawr a'i guddio o dan ei siwmper. Fe'i gwelwyd yn taflu rhywbeth at y swyddogion cyn ffoi o'r ardal mewn car.
Gan ei fod yn 17 oed ar y pryd, fe benderfynodd y barnwr i osod gorchymyn cymunedol fydd yn para am ddwy flynedd.
Fe ddechreuodd aelodau o'r oriel gyhoeddus glapio wrth glywed na fyddai'n mynd i'r carchar.
Dywedodd y barnwr: "Nid adloniant yw hyn. Gwrandawiad dedfrydu yw e. Gadewch y llys nawr. Pob un ohonoch chi."
Dedfrydu dyn am ymosod ar blismyn yn ystod terfysg Trelái
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2025
Chwe dyn yn euog o derfysg mewn cysylltiad ag anhrefn Trelái
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2025
Dedfrydu wyth o bobl ifanc wedi anhrefn Trelái
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2025
Bydd y naw sydd wedi cael eu dedfrydu i gyfnodau dan glo yn treulio hyd at 40% o'u dedfryd mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc, gyda gweddill y ddedfryd yn y gymuned.
Mae disgwyl i 10 o bobl eraill gael eu dedfrydu ddydd Iau, a 10 arall ddydd Gwener.
Mae 10 o bobl ifanc eisoes wedi'u dedfrydu am eu rhan yn yr aflonyddwch, ac mae pob un wedi cael gorchymyn atgyfeirio - math o ddedfryd gymunedol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.