Lleihau cynghorwyr cymuned yng Ngheredigion yn 'bygwth democratiaeth'

Yr arfordir ger Aberteifi
GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder yng Ngheredigion y bydd lleihau nifer y cynghorwyr cymuned a thref yn y sir yn ergyd i ddemocratiaeth leol.

Cadarnhaodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru y bydd yna 174 yn llai o gynghorwyr tref a chymuned yng Ngheredigion o fis Mai 2027.

Fe alwodd Heledd Gwyndaf o gyngor cymuned Llandysiliogogo ar y Gweinidog Cabinet, Siân Gwenllian, i ddiddymu'r penderfyniad ac atal y newidiadau.

Mae'r Comisiwn yn dweud bod y newid yn "adlewyrchu nifer gwirioneddol y cynghorwyr ar draws cymunedau Ceredigion yn well" oherwydd bod dros 160 o seddi gwag ar ôl yr etholiad diwethaf.

Talgarreg
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyngor cymuned Llandysiliogogo (sydd yn cynnwys Talgarreg) yn uno gyda Throedyraur

Mae disgwyl i bob Cyngor Sir adolygu trefniadau cymunedol ac etholiadol ar gyfer cymunedau bob 10 mlynedd ac fe gafodd y gwaith hwnnw ei gwblhau ar ran Cyngor Ceredigion gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Cafodd adroddiad ac argymhellion eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2024 ac fe gafodd newidiadau eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 6 Mai eleni.

Dyma'r ad-drefnu mwyaf o ran cynghorau tref a chymuned yng Ngheredigion ers degawdau.

Fe fydd y newid yn effeithio ar 50 o'r 51 o gynghorau cymuned a thref, gyda nifer yn uno i greu wardiau newydd, a'r nifer o gynghorwyr yn lleihau o 540 i 366, gostyngiad o 174.

Fe fydd rhai o drefi mwyaf Ceredigion yn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cynghorwyr:

  • Aberteifi 14 i 10

  • Aberaeron 12 i 8

  • Llanbedr Pont Steffan 15 i 10

  • Aberystwyth 19 i 18

  • Tregaron 11 i 8

  • Cei Newydd a Llanwchaearn 17 i 11

Heledd Gwyndaf

Yn ystod ymgynghoriad ar yr argymhellion drafft, fe godwyd pryderon gan 235 o'r 236 wnaeth ymateb.

Un sydd yn bryderus am y newidiadau yw Heledd Gwyndaf, aelod o Gyngor Cymuned Llanydysiliogogo. Mi fydd ei chyngor hi yn uno gyda chyngor cymuned Troedyraur, ac mi fydd yna leihad hefyd yn nifer y cynghorwyr ar gyfer y ddwy ardal o 22 i 8.

"Mae yna lawer iawn o bryderon," meddai. "Mae yna adnabyddiaeth o'n hardaloedd.

"Dw i ddim mor gyfarwydd ag ardal Troedyraur. Mae llai ohonyn ni yn mynd i wneud y gwaith. Mae yna lai o bennau yn mynd i fod rownd y bwrdd.

"Mae'r ardal yn mynd i gynyddu a'r nifer o gynghorwyr yn mynd i gwtogi. Mae'r adnoddau a'r cyfoeth o bobl a'r profiadau ac adnabyddiaeth byddwn ni yn colli yn enfawr.

"Mae hyn yn fygythiad i'n pobl ni ac i ddemocratiaeth yn gyffredinol. S'dim dwywaith bydd yn lleihau llais democrataidd pobl yng Ngheredigion. Ni'n gwneud popeth yn wirfoddol."

Tregaron
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd nifer y cynghorwyr tref yn Nhregaron yn gostwng o 11 i 8

Dywedodd Heledd Gwyndaf bod "ganddi bryderon mawr" am yr hyn oedd wedi digwydd gyda'r broses.

"Dw i yn meddwl bod eisiau edrych mewn i sawl cam o'r broses. Mi wnaeth dros 230 o bobl, boed nhw yn unigolion neu yn gynghorwyr sir, ymwrthod â'r argymhellion.

"Dim ond 1 yn unig oedd yn cytuno. Cafon nhw ddim eu hystyried o gwbl. Maen nhw wedi bwrw 'mlaen heb wrando ar y bobl."

Mae hi'n galw ar y Gweinidog Cabinet newydd, Siân Gwenllian i "ad-alw a dirymu'r gorchymyn" ac i gynnal ymchwiliad.

Hyd yn hyn, mae Siân Gwenllian wedi penderfynu peidio ymyrryd â'r penderfyniad gwreiddiol yn ôl ym mis Mai.

Yn Nhregaron, fe fydd nifer y cynghorwyr tref yn lleihau o 11 i 8. Mae Catherine Hughes yn ildio'r awenau ar ôl dros 20 mlynedd fel cynghorydd tref ac wedi disgrifio'r penderfyniad fel un "pryderus".

"O ran Tregaron, ni'n mynd i golli tri. Lawr o 11 i 8. Pwy fydd yn moyn sefyll yn yr etholiad newydd, oherwydd mae pwyse gwaith wedi mynd lawr yn drwmach dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae fe'n bwysig bod mewnbwn gan bobl lleol i beth sydd yn digwydd yn eu cymuned nhw. Dw i yn rhagweld y bydd mwy o lefydd gwag i ddweud y gwir.

"Dw i ddim yn meddwl bod angen torri nôl ar lawr gwlad. Os gollwn ni beth sydd gyda ni ar lawr gwlad, wedyn dw i ddim yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd i'n cymunedau ni."

Doedd neb ar gael i wneud cyfweliad ar ran Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ond fe ddywedodd llefarydd: "Roedd y Comisiwn yn falch o'r cyfle i ddiweddaru ffiniau cymunedau yng Ngheredigion fel eu bod yn adlewyrchu eu hardaloedd yn well.

"Dyma'r arolwg cyntaf ers amser hir iawn felly roedd llawer o welliannau i'w gwneud i ffiniau ar draws y sir.

"Y cyngor sir sy'n penderfynu ar y polisi ar faint o gynghorwyr y dylai cymuned eu cael, nid y Comisiwn. Yn yr achos hwn, argymhellodd y Comisiwn leihau nifer y seddi ar draws y sir o 174, yn unol â pholisi maint cynghorau Ceredigion.

"Yn y set ddiwethaf o etholiadau lleol, gadawyd 162 o seddi'n wag yng nghymunedau Ceredigion gan nad oedd digon o ymgeiswyr, felly byddai'r gostyngiad mewn termau real yn nifer y cynghorwyr tua 12, gan dybio y byddai nifer tebyg yn sefyll yr etholiad yn 2027.

"Mae'r nifer llai o seddi yn adlewyrchu nifer gwirioneddol y cynghorwyr ar draws cymunedau Ceredigion yn well. Yn hollbwysig, mae hefyd yn cryfhau democratiaeth ar draws Ceredigion trwy wneud etholiadau yn fwy tebygol.

Yn ôl y Comisiwn eu gwaith yw paratoi argymhellion tra mater i lywodraeth Cymru yw gwneud penderfyniadau.

Dywedodd Heledd Gwyndaf bod cynghorwyr yn cael eu "cyfethol" os oedd seddi gwag a bod hyn yn "ran bwysig iawn o'r broses ddemocrataidd," ac nad oedd y ffigwr o 162 o seddi gwag yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfredol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y newidiadau yn dilyn "proses adolygu drylwyr" gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a taw'r nod oedd sicrhau bod gan gymunedau ledled Ceredigion "gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal."

Yn ôl Cyngor Ceredigion maen nhw'n "gwerthfawrogi'r rôl bwysig y mae cynghorau tref a chymuned yn ei chwarae" wrth gynrychioli cymunedau lleol."

Mae llefarydd ar ran Un Llais Cymru - sef y corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru - yn dweud eu bod am gwrdd â'r Gweinidog Cabinet wythnos nesaf yn dilyn sylwadau gan gynghorau sy'n aelod o'r corff.

Ymatebion rhai o'r cynghorau cymuned

Dywedodd Cyngor Cymuned Beulah y byddai cwtogi'r nifer o gynghorwyr yn "rhoi pwysau ychwanegol ar gynghorwyr unigol".

Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Tref Tregaron eu bod yn "gwrthwynebu'n gryf yr argymhelliad" i gwtogi'r nifer o gynghorwyr.

Yn ôl Cyngor Cymuned y Ferwig, "fe fydd llai am fod yn gynghorwyr" wrth gwtogi niferoedd.

Dywedodd Cyngor Cymuned Ysbyty Ystwyth y bydd "llai o gynrychiolaeth gymunedol, hunaniaeth yn cael ei cholli, a lleisiau yn mynd ar goll."

Dywedodd Cyngor Cymuned Penbryn: "Oni bydd y baich ar gyn lleied o Gynghorwyr yn aruthrol? A fydd darpar gynghorwyr yn dymuno ysgwyddo'r holl gyfrifoldebau beichus yn y dyfodol? Pwy fydd yn dymuno bod yn gynghorwr cymuned yn y dyfodol?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig