Pecynnau tyllu clustiau gartref yn gallu 'malu clust yn llwyr'

Tyllu clustFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim cyfyngiad oedran ar gyfer pobl sy'n prynu pecynnau tyllu eu hunain

GanLiz Clements
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am fwy o reoleiddio a gosod isafswm oedran ar gyfer pecynnau tyllu cartref, gyda rhai yn dweud eu bod wedi gweld effaith ofnadwy pobl yn gwneud tyllau yn eu clustiau eu hunain.

Mae'r ymarferydd tyllu corff, Lucy Quinn, wedi gweld digon sydd wedi mynd o'i le dros y blynyddoedd.

Ymhlith y gwaethaf mae tyllau y mae pobl wedi gwneud ei hunain gyda phecynnau tyllu cartref (at-home piercing kits) a "gynnau tyllu" wedi eu prynu ar-lein.

Er bod y teclynnau'n gyfreithlon ac nad oes cyfyngiad oedran ar gyfer pobl sy'n prynu pecynnau tyllu, mae hi'n credu bod angen rheolau llym arnyn nhw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn annog pobl i fynd at ymarferwyr proffesiynol.

Lucy Quinn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy yn ceisio addysgu cleientiaid, rhieni ac aelodau o'r cyhoedd sut mae gwneud dewisiadau diogel

Mae Lucy, sy'n 30 oed o'r Barri, wedi gweithio yn y diwydiant am bedair blynedd, ac mae hi'n dweud ei bod hi wedi gweld anafiadau o ganlyniad i'r pecynnau tyllu cartref yn dod yn fwy cyffredin.

"'Dyn ni'n gweld pobl â chreithiau neu anffurfiadau difrifol iawn," meddai.

Mae Lucy yn rheoli Empress Piercing, lle maen nhw'n tyllu gan ddefnyddio nodwyddau yn unig.

Mae'n dweud nad yw llawer o bobl yn deall y gwahaniaeth rhwng defnyddio gwn a defnyddio nodwydd.

"Mae gwn tyllu yn defnyddio gemwaith sydd ddim yn finiog i greu'r twll, tra bod nodwydd yn ganiwla gwag, llyfn sy'n creu sianel dyllu llyfn a glân iawn," meddai.

'Anodd deall pa mor wael yw'r sefyllfa'

Mae hi'n dweud y gall canlyniadau hunan-dyllu gyda phecynnau cartref fod yn ddifrifol.

"Mae clust un o fy nghleientiaid wedi'i malu'n llwyr ac yn pwyso am ymlaen, a does dim byd allen ni neud am y peth," meddai.

Mae busnes Lucy yn blaenoriaethu addysgu cleientiaid, rhieni ac aelodau o'r cyhoedd i wneud dewisiadau diogel, ac mae hi'n cyhoeddi fideos ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu addysgu eraill.

Mae hi'n deall na fydd pawb sydd wedi gwneud tyllau eu hunain gyda phecynnau cartref wedi cael unrhyw gymhlethdodau.

"Mae llawer o bethau lle gallwch chi ddweud 'wnes i hynny ac roedd popeth yn iawn', ond y gwir amdani yw nad yw hynny'n wir i bawb.

"Fi'n credu, oni bai eich bod chi'n dyllwr proffesiynol sy'n gweld hynny bob dydd, ei bod hi'n anodd iawn deall pa mor wael yw'r sefyllfa."

Dywedodd Lucy mai'r sefyllfa ddelfrydol fyddai gwahardd y pecynnau, ond mae hi'n credu "nad rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd dros nos yw hynny" ond y byddai "cyfyngiadau oedran yn ddechrau da iawn".

Maddie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maddie yn credu na ddylai plant gael mynediad mor hawdd at becynnau o'r fath

Dim ond 14 oed oedd Maddie pan brynodd becyn tyllu clustiau ar-lein i'w ddefnyddio adref, ar ôl gweld fideos ar TikTok o bobl yn tyllu eu clustiau eu hunain.

Mae hi'n dweud eu bod yn "hawdd iawn" i'w prynu, heb "unrhyw wirio oedran".

Yn gyfreithiol, nid oes rheolau am yr oedran y gall pobl brynu'r pecynnau, ond mae Cymdeithas Ymarferyddion Tyllu Corff Proffesiynol y DU (UKAPP) eisiau gweld y pecynnau'n cael eu "gwahardd".

"Ro'n i wir eisiau cael tyllau yn fy ail a thrydydd safle [ar waelod y glust], felly prynais becyn ar Amazon - roedd yn eitha' rhad," meddai Maddie.

'Do'n i ddim yn sylweddoli'r risg'

Roedd y rhan fwyaf o'r tyllau yn iawn, ac eithrio dau a achosodd drafferthion iddi.

"Wnaeth y tyllau yn y trydydd safle ddim gwella'n dda iawn ac fe aethon nhw'n heintus yn y pendraw," meddai.

Bellach yn 17 oed, mae Maddie o Dorfaen yn credu na ddylai plant gael mynediad mor hawdd at becynnau o'r fath.

"Fi'n credu y dylai fod gwiriad oedran. Ro'n i mor ifanc, do'n i ddim yn sylweddoli'r risg."

'Maen nhw'n beryglus iawn'

Yn y DU, nid oes isafswm oedran ar gyfer tyllu clustiau gan weithiwr proffesiynol, ond mae stiwdios fel arfer yn gweithredu eu rheolau eu hunain.

Yng Nghymru, mae'n anghyfreithlon perfformio tyllu ar rannau 'personol' o'r corff - gan gynnwys y tafod - ar unrhyw un iau na 18 oed.

Mae modd prynu pecynnau tyllu ar-lein am gyn lleied â £1.50 ar amrywiaeth o wefannau heb unrhyw gais i wirio oedran.

Dywedodd llefarydd ar ran Amazon eu bod yn mynnu bod pob cynnyrch yn "cydymffurfio â deddfau, rheoliadau a pholisïau perthnasol Amazon", ac nad ydyn nhw'n "gwerthu cynnyrch i blant i'w prynu", a gallan nhw gymryd camau os nad yw'r rheolau'n cael eu dilyn.

Dywedodd eBay, sydd hefyd yn gwerthu'r pecynnau, gan nad oes cyfyngiadau yn y DU sy'n "gwahardd gwerthu pecynnau tyllu clustiau i'w defnyddio gartref", eu bod ar gael "yn eang" ac "heb eu gwahardd" ar y platfform.

Rhian Mansfield
Disgrifiad o’r llun,

"Bydden ni'n hoffi eu gweld yn cael eu gwahardd yn llwyr," meddai Rhian Mansfield

Mae Rhian Mansfield, 42, yn ymarferydd tyllu corff proffesiynol ac yn aelod o'r UKAPP.

Mae'r grŵp am i becynnau tyllu cartref gael eu gwahardd yn llwyr.

"Maen nhw'n beryglus iawn... bydden ni'n hoffi eu gweld yn cael eu gwahardd yn llwyr," meddai.

Mae Rhian yn credu bod llawer o bobl yn tanamcangyfrif y risg, ac er ei bod yn deall apêl pecynnau rhatach, mae hi'n credu y dylai pobl fod yn fwy gwybodus.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn annog pobl i fynd at ymarferwyr proffesiynol.

"Does dim modd sicrhau diogelwch y cynhyrchion yma, yn enwedig pan maen nhw'n cael eu prynu ar-lein," meddai llefarydd.

"Byddem bob amser yn cynghori pobl i beidio â defnyddio pecynnau cartref ar gyfer tyllu, ond i fynd at dyllwr proffesiynol sydd wedi'i drwyddedu'n llawn ac sy'n gweithio o safle cymeradwy."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.