Llafur yn wynebu cwestiynau mawr o ran sut i ddod allan o'r 'twll etholiadol tywyll'wedi ei gyhoeddi 10:40 GMT+1 9 Mai
Mwy nawr gan yr arbenigwr ar etholiadau, Syr John Curtice, sy'n dweud yn sicr bod cwestiynau mawr i Lafur eu hateb bellach.
Wrth siarad ar raglen BBC Wales Breakfast, dywedodd: "Mae Cymru… lle nad yw Llafur wedi colli mewn canrif, nid yn unig yn drydydd, ond yn drydydd gwael, gyda dim ond 11% o'r bleidlais."
Ychwanegodd "nad oedd amheuaeth" fod Llafur yn wynebu cwestiynau mawr ynghylch sut y maen nhw am ddod allan o’r twll etholiadol yma y maen nhw ynddo.
Dywedodd Syr John nad yw’r berthynas rhwng cefnogwyr y Ceidwadwyr a Llafur yr hyn yr oedd arfer bod, gan ychwanegu “nad oes perthynas bellach rhwng pleidleisio dros y ddwy blaid hynny a sefyllfa gwaith pobl".
"Oedran sy’n bwysig, nid galwedigaeth.
"Y newid strwythurol hollbwysig arall yw nad yw ein gwleidyddiaeth bellach yn ymwneud â dadleuon yn unig am y chwith yn erbyn y dde, ynghylch a ydym am i gymdeithas fod yn fwy cyfartal neu a ddylem fod yn mynd ar ôl twf economaidd."














