Etholiad

Canlyniadau Senedd Cymru

Dim mwyafrif i’r un blaid
49 sedd i fwyafrif
96 o 96 sedd
  • Plaid Cymru 43 seddi 20 o seddi wedi’u cipio
  • Reform UK 34 seddi 34 o seddi wedi’u cipio
  • Llafur 9 seddi 35 o seddi wedi’u colli
  • Ceidwadwyr 7 seddi 22 o seddi wedi’u colli
  • Y Blaid Werdd 2 seddi 2 o seddi wedi’u cipio
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd 1 o seddi wedi’u cipio
Newid o'i gymharu â 2021

Crynodeb

  1. 'Gwybod faint o bobl sy'n dathlu'r fuddugoliaeth'wedi ei gyhoeddi 12:41 GMT+1 9 Mai

    Rhun ap Iorwerth

    Mae Rhun ap Iorwerth yn annerch y dorf:

    “Alla i ddim credu pa mor dda mae’n teimlo i weld chi gyd yma, ac ym mhob rhan o Gymru dwi’n gwybod faint o bobl sy’n dathlu’r fuddugoliaeth yma.

    "This is history made by the people of Wales.”

  2. Cliciwch uchod i wylio'n fywwedi ei gyhoeddi 12:39 GMT+1 9 Mai

    Senedd
  3. Cannoedd o bobl tu allan i'r Seneddwedi ei gyhoeddi 12:38 GMT+1 9 Mai

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Senedd

    Mae cwpl o gannoedd o bobl wedi troi allan i'r Senedd heddiw i groesawu aelodau newydd Plaid Cymru, y grŵp sy’n gobeithio llywodraethu Cymru.

    Y disgwyl yw y bydd Rhun ap Iorwerth yn eu hannerch yn fuan.

  4. Gwyliwch yn fyw o'r Seneddwedi ei gyhoeddi 12:35 GMT+1 9 Mai

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cyfarch torf o gannoedd o gefnogwyr Plaid Cymru y tu allan i'r Senedd.

    Cliciwch uchod i wylio'n fyw.

  5. Teuluoedd aelodau Plaid Cymru'n dathluwedi ei gyhoeddi 12:29 GMT+1 9 Mai

    Mae teuluoedd rhai o aelodau Plaid Cymru yn y Bae hefyd, gan gynnwys plant Rhun ap Iorwerth a phlant Beca Phillips.

    plant rhun
    Disgrifiad o’r llun,

    Plant Rhun ap Iorwerth; Elen, Osian a Siwan

    beca
    Disgrifiad o’r llun,

    Plant aelod newydd Brycheiniog Tawe Nedd, Rebeca Phillips

  6. Torf o gefnogwyr Plaid Cymru ym Mae Caerdyddwedi ei gyhoeddi 12:24 GMT+1 9 Mai

    Mae rhai o ymgyrchwyr Plaid Cymru wedi ymgynnull tu allan i'r Senedd wrth i'r aelodau gyrraedd ar gyfer y dathliadau. Ymysg y rhai oedd yno oedd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

    Torf
    leanne
    senedd
  7. Prif weinidogion Cymru hyd ymawedi ei gyhoeddi 12:16 GMT+1 9 Mai

    Alun Michael. Rhodri Morgan a Carwyn Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Alun Michael. Rhodri Morgan a Carwyn Jones

    Wrth i'r dyfalu barhau ynghyclh pwy fydd y prif weinidog nesaf, dyma olwg ar y rhai sydd wedi bod yn y swydd yn y gorffennol.

    Alun Michael oedd y prif weinidog cyntaf - bu wrth y llyw am 273 diwrnod.

    Bu ei olynydd Rhodri Morgan yn brif weinidog am naw mlynedd a 304 o ddiwrnodau.

    Carwyn Jones ddaeth wedyn - cafodd ei ethol yn Rhagfyr 2009 a bu'n brif weinidog am naw mlynedd a dau ddiwrnod.

    Mark Drakeford oedd prif weinidog Cymru yn ystod Covid - bu'n brif weinidog am bum mlynedd a 98 diwrnod.

    Vaughan Gething oedd y prif weinidog am y cyfnod lleiaf - 138 diwrnod.

    Mae Eluned Morgan wedi bod yn brif weinidog ers Awst 2024.

    Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan

  8. Ar ôl enwebu prif weinidog, yna dewis yr ysgrifenyddion a gweinidogionwedi ei gyhoeddi 12:10 GMT+1 9 Mai

    Ar ôl i’r Senedd ddewis prif weinidog, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at y Brenin yn argymell penodi y sawl sydd wedi'i enwebu yn swyddogol.

    Ar ôl ei benodi, bydd y prif weinidog yn dewis hyd at 17 o ysgrifenyddion cabinet a gweinidogion Cymru, dolen allanol i ffurfio Llywodraeth Cymru.

    senedd
  9. Pwy fydd llywydd newydd y Senedd?wedi ei gyhoeddi 12:03 GMT+1 9 Mai

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Elin Jones

    Mae meddyliau yn dechrau troi tuag at beth sy’n digwydd nesaf. Y cam cyntaf fydd dewis llywydd newydd.

    Mae Elin Jones AS Plaid Cymru yng Ngheredigion Penfro yn parhau yn llywydd am y tro, ond mae hi am ildio'r awenau felly pwy fydd yn camu fewn i'w sedd?

    Mae enw Paul Davies, aelod Ceidwadol Ceredigion Penfro yn un sy'n codi'n aml.

    Bydd angen cefnogaeth mwyafrif o aelodau'r Senedd i unrhyw benodiad, ac mae angen iddyn nhw gytuno ar ddirprwy hefyd.

    Fis Ebrill y llynedd cyhoeddodd Elin Jones y byddai'n rhoi'r gorau i'w dyletswyddau, a hynny ar ôl bod yn Llywydd ers 2016.

    Wedi hynny fe fydd modd cynnal pleidlais i ddewis prif weinidog.

    A hyd yn oed heb gytundeb gyda phleidiau eraill mae'r fathemateg yn ffafrio Rhun ap Iorwerth, gan na fyddai Llafur, y blaid Werdd na'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn cefnogi Dan Thomas o Reform.

    Y cyfle cyntaf i gynnal pleidlais fydd ddydd Mawrth, ac mae'n glir bod Plaid Cymru ar frys i wneud hynny cyn gynted â phosib er mwyn dechrau ar y gwaith o lywodraethu.

  10. 'Dim diddordeb, ond mi wnes i bleidleisio'wedi ei gyhoeddi 11:57 GMT+1 9 Mai

    Fe aeth gohebydd BBC Cymru, Gareth Williams draw i Langefni i weld beth oedd barn pobl wedi'r canlyniad.

    Dywedodd Rhian o Langefni: “Does gen i ddim diddordeb mewn gwleidyddiaeth ond mi wnes i bleidleisio ddoe.

    “Dwi’m yn gwybod sut 'wnawn nhw, hefo’r ffordd mae’r byd yn mynd ar y funud mae hi am fod yn anodd i bwy bynnag fydd i mewn.”

    Rhian
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Rhian o Langefni iddi bleidleisio er nad oes ganddi ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth

    Dywedodd John ei fod wedi "colli interest ar politics... ti'n cael dy adael lawr gan bobl sydd fod i wylio ar ôl chdi 'de, dio'm werth yr amser."

    "Fedrai'm cefnogi Plaid Cymru, ma' nhw 'di gadael fi lawr fatha unigolyn, teulu, tref ag yr ynys, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw am wylio ar ôl pobl leol ond na, ma' gynno' nhw agendas ei hunain.

    "Gwylio ar ôl fy hun dwi am wneud a deud y gwir."

    John
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd John ei fod wedi colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth

    Ar y llaw arall, roedd John Wyn yn falch gyda'r canlyniad.

    "Dwi'n hapus iawn efo'r ffordd yr aeth yr holl beth, mae'n hen bryd bod Cymru'n sefyll ar ei thraed ei hun, unrhyw beth yn well na Llafur.

    Ychwanegodd fod Rhun ap Iorwerth yn "ffantastig, mae o'n ddyn da, ei gefndir yn dda, mae'n siarad yn dda, gobeithio bydd o'n brif weinidog da".

    John Wyn
  11. Gwen ar wynebau aelodau Plaid Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd y Seneddwedi ei gyhoeddi 11:45 GMT+1 9 Mai

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae holl aelodau Plaid Cymru wedi cyrraedd y Senedd, mae'r grŵp yn cwrdd yn hen siambr Tŷ Hywel - o bosib yr unig ystafell sy'n ddigon mawr i’w dal nhw gyd.

    Roedd gwen enfawr ar wynebau pob un ohonyn nhw, llawer ohonyn nhw dal mewn sioc wedi'r canlyniad gwell na'r disgwyl ddoe.

    I rai mae'r senedd yn lle cyfarwydd iawn, i eraill mae hwn yn brofiad hollol newydd.

    "Mae hwn fel bod yn ôl yn yr ysgol" medd un.

    "Dio ddim cweit wedi suddo mewn" medd un arall, oedd ddim yn disgwyl cael eu hethol ddoe.

    Yr arweinydd Rhun ap Iorwerth oedd yr olaf i gerdded i mewn i'r ystafell, i gymeradwyaeth enfawr gan ei gyd aelodau a staff.

  12. Prif Weinidog Gogledd Iwerddon am gydweithio â Phlaid Cymruwedi ei gyhoeddi 11:43 GMT+1 9 Mai

    Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O'Neill, hefyd wedi llongyfarch Plaid Cymru yn dilyn yr etholiad.

    Mae Ms O'Neill, o Sinn Féin, yn cyfeirio at y ffaith bod Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban bellach yn cael eu llywodraethu gan bleidiau sydd a'r amcan o ddod a'r Deyrnas Unedig i ben.

    Dywed Ms O'Neill ei bod hefyd yn edrych 'mlaen at gydweithio gyda Mr ap Iorwerth a Mr Swinney.

    o'neillFfynhonnell y llun, X
  13. Llongyfarchiadau o Gatalunyawedi ei gyhoeddi 11:38 GMT+1 9 Mai

    Mae cyn-arlywydd Catalunya, a oedd yn y swydd o 2021 i 2024, Pere Aragonès, yn un o'r ffigyrau tramor amlwg sydd wedi llongyfarch Plaid Cymru yn dilyn yr etholiad.

    Yma, mae Aragonès yn llongyfarch Plaid Cymru a'r SNP ar eu canlyniadau, gan ddweud bod llais gwledydd sydd ddim yn annibynnol yn amlygu, a hefyd y gobeithion am hunanreolaeth.

    catalunyaFfynhonnell y llun, X
  14. Y diweddaraf o'r Alban gan ein gohebydd Liam Evanswedi ei gyhoeddi 11:32 GMT+1 9 Mai

  15. 'Gwersi i'w dysgu gan yr Alban' - Leanne Woodwedi ei gyhoeddi 11:25 GMT+1 9 Mai

    Rydyn ni wedi rhoi ychydig o sylw i'r Alban y bore 'ma, ond mae un o gyn-arweinwyr Plaid Cymru'n dweud bod "gwersi i'w dysgu gan Yr Alban".

    Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Leanne Wood: "Mae'r Alban, yr SNP, maen nhw wedi cael canlyniad rhagorol unwaith yn rhagor ddoe."

    Wrth gael ei holi a oes angen i Blaid Cymru fynd i'r un safle â'r Alban ar annibyniaeth er mwyn rhoi mwy o ddylanwad ar Lywodraeth y DU, dywedodd: "Rheiny yw'r gwersi sydd angen i ni eu dysgu...

    "Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich hunain fel opsiwn arall, fel bygythiad... a byddwch chi'n gallu defnyddio hwnna i gael mwy o bwerau ac i sicrhau gwell cyllid.

    "Dyna beth mae’r SNP wedi gwneud yn llwyddiannus. A dwi’n meddwl bod Plaid Cymru am geisio trio dysgu’r gwersi yna a gweld beth 'allen nhw wneud yn debyg. Ond ni fydd yn hawdd."

    Leanne WoodFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. 'Tasech chi'n Brif Weinidog? Be' fyddai'n cael eich sylw?wedi ei gyhoeddi 11:18 GMT+1 9 Mai

    Pa bynciau sydd o bwys i chi a beth fyddai eich blaenoriaeth petaech chi'n brif weinidog ?

    Cyn yr etholiad, aeth tîm Cymru Fyw ar draws Cymru i holi.

    Disgrifiad,

    'Tasech chi’n Brif Weinidog – beth fyddech chi’n ei wneud gyntaf?

  17. Rhun ap Iorwerth: O argyfwng i gipio grymwedi ei gyhoeddi 11:08 GMT+1 9 Mai

    PCFfynhonnell y llun, Getty Images

    Tua 100 mlynedd ar ôl sefydlu Plaid Cymru, ac ar ôl tua chanrif o oruchafiaeth Llafur yng Nghymru, mae un cyfnod gwleidyddol yn dod i ben, ac un arall yn dechrau.

    Wrth i afael hir Llafur ar rym ddirwyn i ben yn ddisymwth, mae arweinydd Plaid Cymru yn debygol o fod yn brif weinidog am y tro cyntaf ar ôl etholiad llwyddiannus.

    Mae'n nodi newid rhyfeddol o'i gymharu â thair blynedd yn ôl, pan etifeddodd Rhun ap Iorwerth blaid mewn anhrefn.

    Roedd adroddiad beirniadol ar "ddiwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn Plaid Cymru wedi gorfodi ei ragflaenydd, Adam Price, i ymddiswyddo, gan adael y blaid yn wynebu argyfwng o hyder a hygrededd.

    Felly beth ydym ni'n ei wybod am y dyn y mae disgwyl iddo ddod yn seithfed prif weinidog Cymru?

    Darllenwch fwy yma.

  18. 'Pleidlais dactegol dros Blaid Cymru wedi effeithio'r Democratiaid Rhyddfrydol'wedi ei gyhoeddi 10:59 GMT+1 9 Mai

    Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams, yn dweud y gallai ei blaid fod wedi gwneud yn well yn yr etholiad os nad oedd pobl yn teimlo'r angen i bleidleisio yn dactegol i rwystro Reform.

    "Rwy'n teimlo, wrth fynd o amgylch fy ardal ac ar draws canolbarth Cymru, fod pleidlais dactegol lethol yn amlwg," meddai ar raglen BBC Radio Wales Breakfast.

    "Ddim i chwarae lawr buddugoliaeth Plaid Cymru, ac mae angen eu llongyfarch, ond roedd 'na ymdeimlad llethol, yn sicr yn y canolbarth, bod angen atal Reform, ac yn y pen draw, fe wnaeth y neges yna guddio'r hyn roedden ni'n ceisio ei ddweud."

  19. Y Blaid Werdd yn barod i gydweithiowedi ei gyhoeddi 10:52 GMT+1 9 Mai

    Anthony SlaughterFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, yn dweud bod ei blaid yn "barod am y cam nesaf" ar ôl ennill dwy sedd yn yr etholiad.

    Wedi'r canlyniad ddydd Gwener, mae Mr Slaughter yn cynrychioli etholaeth Caerdydd Penarth tra bod Paul Rock yn un o'r chwe aelod i Gaerdydd Ffynnon Taf.

    "Dim ond y dechrau ydy hyn," meddai Mr Slaughter.

    "Dwi'n sicr allwn ni gydweithio [gyda Phlaid Cymru] ar faterion lle mae gennym dir cyffredin.

    "Dwi'n gyffrous bod mwyafrif blaengar yn y Senedd."