Crynodeb

  • Roedd arweinwyr chwe phrif blaid wleidyddol Cymru yn wynebu'i gilydd mewn dadl arbennig cyn etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai

  • Yn cymryd rhan oedd Darren Millar, y Ceidwadwyr Cymreig; Anthony Slaughter, Plaid Werdd Cymru; Eluned Morgan, Llafur Cymru; Jane Dodds, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig; Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru; a Dan Thomas, Reform UK Cymru

  1. Problemau swyddi i fyfyrwyrwedi ei gyhoeddi 20:26 GMT+1 28 Ebrill

    Mae Eluned Morgan yn cael ei herio ynghylch problemau y mae myfyrwyr sydd wedi hyfforddi i fod yn barafeddygon a bydwragedd yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i swyddi.

    "Yr hyn a ddigwyddodd oedd ein bod ni wedi gwario llawer o arian ar weithwyr asiantaeth, ac roedd pawb yn dweud wrthym ni am leihau nifer y gweithwyr asiantaeth.

    "Rydym yn cadw mwy o bobl yn y GIG."

    Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn enghraifft arall lle nad oedd cynllun Llafur yn gweithio yn y GIG.

  2. 'Ni all pethau barhau fel y maen nhw'wedi ei gyhoeddi 20:25 GMT+1 28 Ebrill

    Yn ôl Anthony Slaughter o'r Gwyrddion byddai "parhau yn ôl yr arfer, gan addasu o gwmpas yr ymylon", ddim yn trwsio'r GIG.

    "Ni all pethau barhau fel y maen nhw, nid yw ffraeo o gymorth i neb," meddai.

    "Rydym yn edrych ar symud adnoddau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol."

  3. Ceidwadwyr: 'Ein GIG mewn argyfwng'wedi ei gyhoeddi 20:24 GMT+1 28 Ebrill

    Dywed Darren Millar, o'r Ceidwadwyr, y byddai ei blaid yn dechrau gweithio ar unwaith ar y GIG.

    "Nid cynllun rydyn ni wedi'i gyhoeddi, maniffesto rydyn ni wedi'i gyhoeddi," meddai.

    Mae'n dweud bod gan y maniffestio neges glir iawn: "Mae ein GIG mewn argyfwng."

    Mae'n dweud bod modd dod o hyd i arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd drwy gael gwared ar wleidyddion ychwanegol ym Mae Caerdydd.

    Ond mae Eluned Morgan yn ateb na fyddai cael gwared ar y gwleidyddion hynny "yn talu am y GIG am ddiwrnod".

    Mae Darren Millar yn sefyll y tu ôl i ddarllenfa wrth ymyl Eluned Morgan.
  4. Cymharwch bolisïau'r pleidiauwedi ei gyhoeddi 20:20 GMT+1 28 Ebrill

    Mae Cymru Fyw wedi paratoi'r teclyn hwn i chi allu gweld a chymharu pa safbwynt mae'r pleidiau'n ei gymryd ar yr hyn sy'n bwysig i chi.

    Teclyn cymharu polisiau
  5. 'Pam wnaeth Farage eich penodi chi?'wedi ei gyhoeddi 20:17 GMT+1 28 Ebrill

    Mae arweinwyr Plaid Cymru a Reform yn ffraeo am gyfeiriad eu pleidiau gwleidyddol.

    "A wnaeth [Nigel] Farage eich penodi i achosi trafferth iddo neu oherwydd y byddech chi'n gwneud popeth mae'n ei ddweud?" gofynna Rhun ap Iorwerth.

    "Rwy'n credu mai'r olaf ydyw," ychwanega.

    Mae yna ochenaid bach gan y gynulleidfa wrth iddo gwestiynu arweinyddiaeth Reform.

  6. Farage 'ddim yn credu' yn y GIGwedi ei gyhoeddi 20:16 GMT+1 28 Ebrill

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn cyhuddo Reform o beidio bod â chynllun ar gyfer y GIG.

    "Mae eu harweinydd, Nigel Farage, wedi ei gwneud yn glir nad yw'n credu mewn GIG sy'n cael ei ariannu o drethi cyffredinol," meddai.

    Atebodd Thomas: "Mae eich bos yn sefyll yn y canol yma, dyna Eluned Morgan."

  7. GIG yn 'flaenoriaeth enfawr' i Reformwedi ei gyhoeddi 20:14 GMT+1 28 Ebrill

    Mae Dan Thomas yn mynnu bod y GIG yn "flaenoriaeth enfawr" i'w blaid. Mae'n cyhuddo Llafur o fethu â chyrraedd y targedau a gafodd eu gosod ar ôl y pandemig.

    Dywed fod nyrsys yn cael eu "siomi gan uwch reolwyr nad ydynt yn cael eu dwyn i gyfrif".

    "Mae angen i ni wneud yn siŵr bod uwch reolwyr yn rhedeg yr ysbytai'n iawn," meddai.

  8. Eluned Morgan: 'Dim cywilydd'wedi ei gyhoeddi 20:14 GMT+1 28 Ebrill

    Dywed Eluned Morgan fod rhestrau aros wedi gostwng am naw mis yn olynol. Mae hi'n dweud bod ganddi gynllun a'i fod yn gweithio.

    Wedi'i herio ynglŷn â methiant Llafur i gyrraedd targedau amseroedd aros, dywedodd Morgan nad oes ganddi "gywilydd o'r ffaith ein bod ni'n gosod targedau heriol".

    "Gallem fod wedi gosod targedau sy'n hawdd eu cyrraedd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig profi'r system."

  9. Y cwestiwn cyntaf am y GIGwedi ei gyhoeddi 20:03 GMT+1 28 Ebrill

    Daw'r cwestiwn cyntaf i'r arweinwyr yn dod gan Ameera Hussain, myfyriwr o Gaerdydd sy'n gweithio yn y GIG.

    Cwestiwn 1: Mae angen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar Gymru. Beth wnewch chi i'w gynnal a'i gadw?
  10. Pam fod y Senedd yn ehangu?wedi ei gyhoeddi 19:59 GMT+1 28 Ebrill

    Mae nifer Aelodau’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96 yn yr etholiad eleni.

    Y gobaith yw y bydd cael mwy o Aelodau yn helpu’r Senedd i graffu’n well ar gynlluniau Llywodraeth Cymru a’u herio, yn ogystal â rhoi llais cryfach i gymunedau.

    Ond mae beirniaid wedi dadlau mai “prosiect hunanfodlon” yw hyn, ac mae disgwyl iddo gynyddu’r gyllideb bron i £19m.

    Bydd y cynnydd hefyd yn golygu y bydd nifer y cynrychiolwyr yn dod yn debyg i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Darllenwch fwy yma.

    Senedd Cymru
  11. Ar fin dechrau...wedi ei gyhoeddi 19:57 GMT+1 28 Ebrill

    Munudau sydd i fynd nes bydd yr arweinwyr yn dechrau'r ddadl deledu yma yng Nghaerdydd.

    Arhoswch gyda ni heno wrth i ni ddod â'r uchafbwyntiau a'r holl ddadansoddi i chi...

    Stiwdio
  12. Beth fydd gan y pleidiau i'w ddweud am y GIG?wedi ei gyhoeddi 19:54 GMT+1 28 Ebrill

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Bydd arweinwyr y pleidiau yn siŵr o gael eu holi am gyflwr y gwasanaeth iechyd.

    Fe fyddan nhw'n awyddus i amlinellu sut y byddan nhw'n ceisio gwella gwasanaethau, gan ymrwymo efallai i wario rhagor ar staff ac adnoddau.

    Ond mae iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn barod yn llyncu mwy na 55% o holl gyllideb Llywodraeth Cymru ar wariant dydd i ddydd, cyfran sydd wedi cynyddu'n sylweddol ers datganoli.

    Gwasanaeth Iechyd

    Mae nifer y staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd hefyd wedi cynyddu'n sylweddol gyda thua 20% yn rhagor erbyn hyn o gymharu â'r cyfnod ar ddechrau'r pandemig yn 2019/20.

    Ond dyw'r codiadau hynny, yn ôl arbenigwyr o Sefydliad Astudiaethau Cyllid (yr IFS), heb arwain at gynnydd cyfatebol mewn gweithgarwch yn y gwasanaeth iechyd.

    Yr her pellach i'r gwleidyddion yw bod y galw am wasanaethau iechyd yn debygol o gynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf wrth i'r boblogaeth barhau i heneiddio.

    A bydd hynny'n digwydd dros gyfnod pan fydd y gyfran o gymdeithas sydd o oed gweithio, ac yn talu trethi i gynnal gwasanaethau cyhoeddus, yn lleihau.

  13. Y paratoadau olaf...wedi ei gyhoeddi 19:46 GMT+1 28 Ebrill

    Mae'r arweinwyr yn yr adeilad, ac mae'r paratoadau bron ar ben cyn dadl yr arweinwyr yn Sgwâr Canolog, BBC Cymru yng Nghaerdydd.

    Eluned Morgan
    Rhun ap Iorwerth
    Jane Dodds
    Darren Millar
    Anthony Slaughter
    Dan Thomas
  14. Sut mae'r system bleidleisio newydd yn gweithio?wedi ei gyhoeddi 19:41 GMT+1 28 Ebrill

    Mae’r system bleidleisio yn newid fel rhan o ddiwygiadau ehangach sydd wedi’u gwthio yn y Senedd gan Lafur a Phlaid Cymru.

    Dyma’r prif newidiadau:

    • Mae nifer y gwleidyddion yn y Senedd yn cynyddu o 60 i 96.
    • Mae’r system cyntaf i'r felin yn cael ei dileu o blaid system gyfrannol o’r enw D’Hondt.
    • Mewn etholiadau blaenorol roedd gan bleidleiswyr ddwy bleidlais. Y tro hwn, bydd gan bleidleiswyr un bleidlais, lle maent yn dewis plaid yn hytrach nag ymgeisydd penodol.
    • Bydd pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru yn gymwys i bleidleisio.

    Dyma'r cerddor a'r cyflwynydd Sage Todz i egluro mwy...

  15. Beth fydd dylanwad y gynulleidfa heno?wedi ei gyhoeddi 19:36 GMT+1 28 Ebrill

    Gareth Lewis
    Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae’n debygol y bydd y gynulleidfa’n chwarae rhan fawr yn nadl heno.

    Mae’n fwy anodd i wleidyddion ddadlau'n erbyn profiadau pobl nac yw hi i wrthsefyll ei gilydd neu gwestiynau gan newyddiadurwyr.

    Hyd yma yn yr ymgyrch hon rydym wedi clywed straeon eithaf tywyll gan aelodau’r gynulleidfa am restrau aros hir a'r trafferthion sy’n deillio o’r argyfwng costau byw, sydd wedi rhoi pwysau gwirioneddol ar wleidyddion.

    Yn yr eiliadau yma mae addewidion gwleidyddol yn gwrthdaro â bywyd go iawn.

    Gall hynny greu rhaglen deledu afaelgar, ond mae hefyd yn dangos maint a difrifoldeb rhai o’r problemau y mae angen i wleidyddion fynd i’r afael â nhw.

  16. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 19:29 GMT+1 28 Ebrill

    Ar 7 Mai bydd pobl Cymru yn bwrw pleidlais yn etholiad y Senedd, ac heno mae arweinwyr y pleidiau yn wynebu ei gilydd a'r cyhoedd.

    Mae'r ddadl yn cael ei chynnal yn adeilad Sgwâr Canolog, BBC Cymru yng Nghaerdydd, gyda Bethan Rhys Roberts yn cadeirio.

    Mae'r cyfan yn dechrau am 20:00. Arhoswch gyda ni.