Crynodeb

  • Roedd arweinwyr chwe phrif blaid wleidyddol Cymru yn wynebu'i gilydd mewn dadl arbennig cyn etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai

  • Yn cymryd rhan oedd Darren Millar, y Ceidwadwyr Cymreig; Anthony Slaughter, Plaid Werdd Cymru; Eluned Morgan, Llafur Cymru; Jane Dodds, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig; Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru; a Dan Thomas, Reform UK Cymru

  1. Mae Cymru yn 'genedl groesawgar'wedi ei gyhoeddi 21:00 GMT+1 28 Ebrill

    Dywed Anthony Slaughter y dylai Cymru fod yn "falch iawn" o fod yn genedl noddfa.

    "Swm bach, bach o arian ydyw" i ariannu'r cynllun, meddai. "Mae Cymru yn genedl groesawgar, rydyn ni'n bobl groesawgar."

    Nid yw mewnfudo wedi'i ddatganoli - ond mae cenedl noddfa yn bolisi llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sy'n dod i Gymru.

    Dywed Jane Dodds: "Rydym am sicrhau bod gan bobl sy'n ffoi o ddiogelwch le diogel a chroesawgar i ddod iddo."

    Mae hi'n dweud bod 91% o'r arian a gafodd ei wario o dan faner cenedl noddfa wedi mynd i gefnogi ffoaduriaid Wcráin.

  2. Beth yw Cenedl Noddfa?wedi ei gyhoeddi 20:58 GMT+1 28 Ebrill

    Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer sut mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cefnogi yng Nghymru yw'r Cynllun Cenedl Noddfa. Cafodd ei gyhoeddi yn 2019.

    Ei nod yw sicrhau bod Cymru yn lle diogel a chefnogol i geiswyr lloches a ffoaduriaid o'r funud maen nhw'n cyrraedd, a'u helpu i ddod yn rhan o gymdeithas Gymreig.

    Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar helpu'r bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth (persecution) i feithrin bywyd iddyn nhw eu hunain yng Nghymru a chynnig mynediad at addysg, tai a gofal iechyd.

  3. Cenedl Noddfa – fforddiadwy?wedi ei gyhoeddi 20:57 GMT+1 28 Ebrill

    Mae Myles Wellington yn rheolwr gofal iechyd o Gaerdydd, ac ef sy'n rhoi'r trydydd cwestiwn ger bron yr arweinwyr heno.

    Cwestiwn 3: Mae ysgolion, ysbytai a thai cymdeithasol eisoes dan bwysau parhaol. Ydy Cymru wir yn gallu fforddio bod yn Genedl Noddfa?
  4. Holi Eluned Morgan am y berthynas â San Steffanwedi ei gyhoeddi 20:56 GMT+1 28 Ebrill

    Oscar Edwards
    BBC Cymru

    Mae rhai aelodau o'r gynulleidfa'n chwerthin wrth i Eluned Morgan gael ei holi am ymdrechion Syr Keir Starmer i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw.

    Mae hi'n dweud bod polisïau fel codi'r isafswm cyflog, helpu pensiynwyr i "gael gwell bargen" a darparu cefnogaeth ynni yn dangos fod y Prif Weinidog wedi bod yn dda i bobl Cymru.

    Mae'r cyflwynydd Bethan Rhys Roberts yn gofyn a yw'r bartneriaeth rhwng llywodraeth San Steffan a Llafur Cymru wedi bod mor ffrwythlon ag yr oedd hi'n ei ddisgwyl.

    "Mae yna bethau y mae o wedi dod i Gymru na fyddem ni wedi'u cael o dan y Ceidwadwyr," mae hi'n ymateb.

    Eluned Morgan
  5. Llafur wedi gollwng targedau tlodi plantwedi ei gyhoeddi 20:53 GMT+1 28 Ebrill

    Roedd llywodraeth Llafur Cymru wedi gollwng ei thargedau ar dlodi plant.

    Ai rhoi'r gorau iddi wnaeth y llywodraeth? Dywedodd Eluned Morgan mai'r rheswm oedd "nad oedd rhai o'r dulliau gweithredu o fewn eu cyrraedd".

    Mae'n ymddangos ei bod hi'n beio'n rhannol y cap dau blentyn ar fudd-dal a gafodd ei gyflwyno gan lywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU, ac a barhaodd nes iddo gael ei ddiddymu'n ddiweddar gan lywodraeth Lafur Syr Keir Starmer.

  6. 'Does yr un blaid eisiau trafod eu costau'wedi ei gyhoeddi 20:52 GMT+1 28 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r drafodaeth ynglŷn â chostau yn ddiddorol iawn, achos y gwirionedd yw nad oes yna'r un blaid eisiau trafod eu costau.

    Mae yna lot o wariant ym mhob un o'r maniffestos, ond beth sydd ddim yn glir gan unrhyw un yw ohonyn nhw yw ble yn union y daw'r arian yma.

    Maen nhw'n gwerthu gobaith i etholwyr ond y gwirionedd yw fydd yna ddim arian mawr yn llifo i goffrau Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf.

    Felly os yw unrhyw un o'r pleidiau yma eisiau gwario mwy mewn un maes penodol - boed hynny yn ofal plant, y gwasanaeth iechyd neu dorri trethi - yna mae'n anochel y bydd angen torri mewn maes arall.

    A does neb yn bod yn hollol onest ynglŷn â ble yn union y bydden nhw'n cyfaddawdu.

  7. 'Bydd annibyniaeth yn drychineb'wedi ei gyhoeddi 20:47 GMT+1 28 Ebrill

    Dywed Darren Millar y byddai torri trethi yn helpu Cymru i ddod yn "genedl fwy llewyrchus".

    "Bydd annibyniaeth yn drychineb i'n cyllid cyhoeddus," meddai.

    "Dydw i ddim yn barod i roi'r baich yna ar bobl ar adeg fel hon."

  8. Yr etholiad yma 'ddim am annibyniaeth'wedi ei gyhoeddi 20:47 GMT+1 28 Ebrill

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad yw'r etholiad hwn "ynghylch annibyniaeth".

    "Mae'n ymwneud ag iechyd, ac addysg a chreu swyddi," meddai.

    Pan ofynnwyd iddo am ei gynlluniau ar annibyniaeth yn y dyfodol, ni atebodd, gan ddweud mai "mater i'r bobl yma yn y gynulleidfa yw hynny".

    Mae Slaughter yn dweud mai annibyniaeth yw'r dyfodol gorau i Gymru, "ond dydyn ni ddim yno eto".

    Arweinwyr y pleidiau yn y ddadl
  9. 'Ydych chi eisiau bod yn arweinydd?'wedi ei gyhoeddi 20:46 GMT+1 28 Ebrill

    Mae Eluned Morgan yn cyhuddo Plaid Cymru o fod eisiau rhoi arian am ofal plant i filiwnyddion.

    "Ydych chi eisiau bod yn arweinydd? Mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd," meddai wrth Rhun ap Iorwerth.

    "Rydych chi wedi gwneud penderfyniad anodd. Ond rydych chi wedi penderfynu y bydd miliwnyddion yn cael mwy," ychwanegodd.

  10. 'Tybio eich bod wedi colli?'wedi ei gyhoeddi 20:44 GMT+1 28 Ebrill

    Mae Eluned Morgan yn cyhuddo pleidiau eraill o orfod rhewi cyflogau gweithwyr y sector gyhoeddus, ar ôl methu â chyllidebu ar gyfer cynnydd.

    Wrth ymateb, mae Dan Thomas yn cyhuddo Morgan o "dybio eich bod wedi colli". Mae Llafur wedi bod ar ei hôl hi mewn arolygon barn sydd wedi awgrymu y gallai'r blaid ddod yn drydydd.

    Dywed Darren Millar ei fod wedi bod yn "eithaf hapus i ateb cwestiynau am gostau". Dywed ei fod am helpu gyda chostau byw drwy ddarparu toriad o 1c mewn treth incwm.

    Dywed Jane Dodds na fydd hi'n cyhoeddi costau. "Rydym am ddylanwadu ar y llywodraeth," meddai.

  11. BBC Verify

    A yw rhestrau aros wedi gostwng am naw mis yn olynol?wedi ei gyhoeddi 20:41 GMT+1 28 Ebrill

    Wrth amddiffyn record ei llywodraeth ar y GIG, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Eluned Morgan, fod rhestrau aros wedi gostwng “am naw mis yn olynol”.

    Gall BBC Verify gadarnhau fod hyn yn gywir.

    Ond mae nifer yr arosiadau yn dal i fod yn llawer uwch nag yn y misoedd cyn pandemig Covid-19.

    Roedd y rhestr aros yn 687,958 ym mis Chwefror eleni, yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddaraf.

    Yn y misoedd cyn y pandemig, roedd rhestrau aros fel arfer tua 463,000.

    Nid yw nifer yr arosiadau yr un peth â nifer y cleifion unigol, oherwydd bydd rhai pobl yn aros am nifer o driniaethau - mae'r adroddiad diweddaraf yn dweud bod yr arosiadau ym mis Chwefror yn cyfeirio at 543,400 o gleifion unigol.

  12. Rhewi rhent a bysiau am ddimwedi ei gyhoeddi 20:40 GMT+1 28 Ebrill

    Yn ôl i'r cwestiwn ar gostau byw, dywedodd Anthony Slaughter fod gan y Gwyrddion "flaenoriaethau" i fynd i'r afael â'r argyfwng, fel rhewi rhent a chynnig teithio ar fysiau am ddim.

    Nid yw'n ateb cwestiwn am gyhoeddi costau, gan awgrymu y byddai'n eu rhestru ar y rhaglen.

    Dywed Morgan fod ei phlaid wedi bod yn "dryloyw iawn". "Rwy'n hapus i ddangos i chi beth sydd gennym ni," meddai.

  13. Y gynulleidfa am i'r gwleidyddion gyhoeddi costauwedi ei gyhoeddi 20:39 GMT+1 28 Ebrill

    Mae Dan Thomas wedi herio'r holl arweinwyr i gyhoeddi costau eu maniffestos. Does yr un blaid wedi gwneud hynny.

    Yn wreiddiol roedd Reform UK wedi dweud y bydden nhw'n cyhoeddi costau, cyn awgrymu'n ddiweddarach mai dim ond pe bai pleidiau eraill yn gwneud y bydden nhw'n gwneud hynny.

    Drwy godi dwylo awgrymodd y gynulleidfa eu bod nhw eisiau gweld faint mae'r pleidiau'n meddwl y bydd eu maniffestos yn ei gostio.

  14. Sut byddai Plaid yn gwella'r argyfwng costau byw?wedi ei gyhoeddi 20:38 GMT+1 28 Ebrill

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru yn cynnig y rhaglen gofal plant "fwyaf hael yn yr ynysoedd hyn" - gwerth £30,000 y plentyn.

    Dywedodd y byddai'n ehangu prydau ysgol am ddim, ac yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU "i wneud y pethau cywir o ran pris tanwydd".

  15. Costau byw: Beth fydd y cyfaddawd?wedi ei gyhoeddi 20:37 GMT+1 28 Ebrill

    Felicity Evans
    Golygydd Arian BBC Cymru

    Mae’r argyfwng costau byw yn un o faterion amlycaf yr etholiad yma, ac mae pob plaid yn gwneud addewidion i geisio gwneud bywyd yn fwy fforddiadwy.

    Yn fras, mae rhai pleidiau yn addo toriadau treth tra bo rhai yn addo ehangu’r gwasanaethau am ddim y gall y wladwriaeth eu cynnig.

    Mae Reform a’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig toriadau i dreth incwm a chap ar filiau treth gyngor.

    Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n codi’r posibilrwydd o gynnydd mewn treth incwm er mwyn darparu arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.

    Mae amrywiaeth o wariant newydd yn cael ei addo ar gyfer polisïau gwahanol, ac mae ehangu gofal plant am ddim wedi bod yn thema gyffredin i Lafur, Plaid Cymru, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol [mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn sôn am hyn ond heb fod yn benodol ynghylch y manylion].

    Ond er bod rhai maniffestos yn fwy costus nag eraill, gan gyflwyno gweledigaethau gwahanol ar gyfer Cymru, dywedodd yr IFS nad yw “unrhyw blaid wedi wynebu’n llawn y realiti cyllidebol sy’n wynebu’r llywodraeth nesaf”.

    Mewn geiriau eraill, beth fydd y cyfaddawd er mwyn ariannu’r ymrwymiadau hyn?

  16. Costau byw yw pwnc yr ail gwestiwnwedi ei gyhoeddi 20:34 GMT+1 28 Ebrill

    Mae costau byw yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i etholwyr.

    Daniel Vining, cogydd 33 mlwydd oed o Gaerffili, sy'n gofyn yr ail gwestiwn i'r arweinwyr, sef beth fydd eu pleidiau nhw'n ei wneud i helpu teuluoedd gyda chostau byw.

    Cwestiwn 2: Pe bai eich plaid yn cael ei hethol, beth fyddech chi’n ei wneud i helpu teuluoedd yng Nghymru gyda chostau byw?
  17. Pleidiau wedi'u rhannu ynghylch polisïau'r GIGwedi ei gyhoeddi 20:34 GMT+1 28 Ebrill

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae rhaniadau clir rhwng pleidiau sydd ar y chwith a'r dde yn ystod yr ymgyrch hon - yn gliriach, dwi'n meddwl, nag mewn unrhyw etholiad Senedd blaenorol.

    Cawson ni gipolwg cynnar ar hynny heno yn y cwestiwn cyntaf am y GIG.

    Cwestiynodd Rhun ap Iorwerth a Jane Dodds ymrwymiad Reform UK i system iechyd sydd wedi'i ariannu gan drethi – rhywbeth y mae Dan Thomas yn ei wadu.

    Tynnodd Dodds sylw hefyd at bolisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i gynyddu treth incwm i ariannu gofal cymdeithasol, tra bod Reform UK a’r Ceidwadwyr yn addo toriadau treth.

  18. Slaughter: Gor-ddefnydd o unedau bryswedi ei gyhoeddi 20:33 GMT+1 28 Ebrill

    Dywedodd Anthony Slaughter: "Mae cymaint o bobl yn mynd i'r uned damweiniau ac achosion brys er nad oes angen iddyn nhw, ond dyma'r unig opsiwn sydd ganddyn nhw."

    Mae'n dweud bod hynny'n "baglu'r system".

    Mae Darren Millar yn dweud bod angen mwy o ysbytai cymunedol.

    "Mae traean o welyau y GIG wedi mynd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Does ryfedd fod argyfwng gwelyau," meddai.

  19. 10 awr yn yr ysbyty heddiwwedi ei gyhoeddi 20:30 GMT+1 28 Ebrill

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Siaradodd aelod o'r gynulleidfa am ei gŵr yn treulio 10 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys (A&E) heddiw.

    Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod o leiaf 10,939 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru ym mis Mawrth.

    Roedd hyn 1,126 (11.5%) yn fwy nag yn y mis blaenorol.

    Mae targedau'n nodi na ddylai neb o gwbl aros mewn adran damweiniau ac achosion brys cyhyd â hyn.

  20. 'Ni fydd Reform yn achub y GIG'wedi ei gyhoeddi 20:27 GMT+1 28 Ebrill

    Dywedodd Jane Dodds na fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth iechyd “fynd i ddwylo Reform UK oherwydd na fyddent yn achub y GIG”.

    Mae hi'n dweud bod angen i fwy o arian fynd at ofal cymdeithasol "oherwydd bod hynny'n helpu pob rhan o'n hysbytai".

    Mae angen mwy o arian, meddai.

    "Os nad yw'r arian hwnnw ar gael drwy'r cyllidebau o San Steffan neu o'r Senedd, byddwn yn codi eich trethi o geiniog yn y bunt."

    Mae Jane Dodds yn sefyll y tu ôl i'w darllenfa wrth iddi ymateb i gwestiwn