Crynodeb

  1. Angen bod yn ‘onest’ am gostau gofalwedi ei gyhoeddi 10:51 GMT+1 14 Ebrill

    India Pollock
    Gohebydd materion cymdeithasol BBC Cymru

    Mae'r cwestiwn o sut ydyn ni’n talu am ofal i bobl hŷn bregus wedi chwalu ymgyrchoedd etholiadol yn San Steffan yn y gorffennol.

    Mae’r gyfran o bobl hŷn yn tyfu’n gyflymach yng Nghymru na gweddill y DU ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud ei bod hi'n bryd bod yn "onest" gyda phleidleiswyr ynglŷn â sut mae talu am y gofal.

    Maen nhw'n dweud y bydden nhw’n codi cyfradd treth incwm Cymru o un geiniog yn y bunt ar gyfer "cyfnod brys" er mwyn buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, os na fydd San Steffan yn diwygio fformiwla ariannu Cymru nac yn trethu banciau a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol mawr.

  2. Maes gwasanaeth cymdeithasol yn 'hynod bwysig' i Jane Doddswedi ei gyhoeddi 10:45 GMT+1 14 Ebrill

    Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth, bu Jane Dodds yn weithiwr cymdeithasol am 27 mlynedd, gan weithio'n bennaf mewn adrannau amddiffyn plant.

    Mae'n dweud bod y maes yn hynod bwysig iddi, a daeth swyddi pellach gyda Byddin yr Iachawdwriaeth mewn gwasanaethau amddiffyn plant, a chyfnod yn arwain yr adran plant o fewn Cyngor y Ffoaduriaid.

    Mae wedi cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyngor, yn San Steffan ac yn fwyaf diweddar yn y Senedd - gan gael ei disgrifio fel un sy'n "cyflawni pethau'n dawel tra'n cadw cysylltiad bob amser â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad".

    Ewch yma i ddarllen y proffil yn llawn.

    Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images/BBC
  3. Gyda phwy fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydweithio?wedi ei gyhoeddi 10:41 GMT+1 14 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Jane Dodds oedd unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd diwethaf.

    Eu gobaith yw y bydden nhw'n gallu cynyddu ar hynny mewn senedd fwy. Ond mae Jane Dodds yn gwybod na fydd hi'n arwain llywodraeth, felly ei gobaith yw y gallen nhw wireddu rhai o'u polisïau drwy ddod i gytundeb gyda'r blaid sy'n llywodraethu.

    Ond gyda phwy fydden nhw'n gweithio?

    Mae hi'n glir na fydd hi'n gweithio gyda Reform na'r Ceidwadwyr, ond mae hi hefyd yn dweud nad yw hi am weld "un geiniog" yn cael ei wario ar annibyniaeth.

    Awgrym felly na fyddai chwaith yn gweithio gyda Phlaid Cymru sydd eisiau gwario £500,000 ar bwyllgor cenedlaethol fyddai'n dechrau paratoi'r achos dros annibyniaeth.

  4. 'Llond dwrn o ASau yn dylanwadu ar y llywodraeth nesaf'wedi ei gyhoeddi 10:38 GMT+1 14 Ebrill

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, eisoes wedi dweud na fydd gan unrhyw blaid unigol fwyafrif ar ôl yr etholiad.

    Ychwanegodd y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn bresennol gyda "llond dwrn o ASau" a fyddai'n "dylanwadu ar gyfeiriad y llywodraeth nesaf".

    "Byddai ei phlaid yn diogelu'r gwasanaeth iechyd drwy fuddsoddi o leiaf £300m yng ngwasanaethau gofal cymdeithasol," meddai.

  5. Bwriad i gynyddu biliau treth er mwyn cyfrannu mwy at ofal cymdeitrhasolwedi ei gyhoeddi 10:36 GMT+1 14 Ebrill

    Felicity Evans
    Golygydd Ariannol BBC Cymru

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod am fod yn "onest â phleidleiswyr am y gost o amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus".

    Felly, os na fydd Llywodraeth y DU yn newid y ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu mae'r blaid yn dweud y bydden nhw'n barod i gynyddu cyfraddau treth incwm Cymru o geiniog am "gyfnod o argyfwng" er mwyn gallu rhoi £300m tuag at ofal cymdeithasol.

    Mi fyddai hyn yn cymryd pwysau oddi ar y Gwasanaeth Iechyd medden nhw drwy ei gwneud hi'n haws rhyddhau gwelyau ar gyfer y bobl sydd eu hangen.

    Mi fyddai cynyddu pob un o'r tri band treth incwm o geiniog yn codi tua £338m rhwng 2027 a 2028 - ond gyda'r argyfwng costau byw yn un o brif flaenoriaethau pleidleiswyr eleni mi fyddai'n ddiddorol gweld faint fydd yn barod i bleidleisio am gynnydd yn eu biliau treth.

  6. Addo amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd a chlirio afonydd a moroedd Cymruwedi ei gyhoeddi 10:32 GMT+1 14 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Fe gafodd arweinydd y blaid, Jane Dodds ei hethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2021 ac er mai hi oedd unig aelod y blaid, mae'n dweud y gall y blaid ennill pum sedd eleni - a fyddai'n ddigon i ffurfio grŵp swyddogol yn y Senedd.

    Mae'n addo amddiffyn y Gwasanaeth iechyd drwy fuddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol, ehangu gofal plant am ddim, a sicrhau nad oes "un geiniog" yn cael ei wario ar annibyniaeth.

    Er mai dim ond un aelod o'r Senedd sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, mae Jane Dodds wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol i basio cyllideb ac yn dweud y byddai'n fodlon gwneud hynny eto.

    Drwy wneud hyn mae hi wedi sicrhau gwaharddiad ar rasio milgwn, mwy o arian ar gyfer gofal plant a theithiau bws am bunt i bobl ifanc, Ond mae'r arweinydd wedi rhybuddio na fydd hi'n cefnogi plaid sy'n gwario ceiniog ar baratoadau ar gyfer annibyniaeth i Gymru.

    Byddai hynny, o bosib, yn diystyru cytundeb gyda Phlaid Cymru, sy'n cystadlu gyda Reform i fod y blaid fwyaf, ac sydd wedi addo sefydlu pwyllgor cenedlaethol, fyddai'n costio £500,000 i ddechrau paratoi'r achos dros annibyniaeth.

    Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ehangu’r cynnig gofal plant am ddim i 30 awr, am 48 wythnos y flwyddyn, i bob plentyn o naw mis i bedair oed.

    Maen nhw hefyd yn addo clirio afonydd a moroedd Cymru, gan roi cyllid ychwanegol i Gyfoeth Naturiol Cymru a gwaharddiad ar fonysau i benaethiaid cwmnïau dŵr nes bod gollyngiadau carthion yn dod i ben.

  7. Y Democratiaid Rhyddfrydol yn ffyddiog o ennill sawl seddwedi ei gyhoeddi 10:28 GMT+1 14 Ebrill

    Yn y Mwmbwls y lansiodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hymgyrch ddechrau Ebrill ac mae'r blaid wedi aros yn y de ar gyfer cyhoeddi eu maniffesto - sef yn y brifddinas.

    Yn ystod lansio'r ymgyrch dywedodd y blaid eu bod yn hyderus y "gallwn ennill seddi yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, Gŵyr Abertawe, Brycheiniog Tawe Nedd, Gwynedd Maldwyn a Cheredigion Penfro".

    Mae modd gwylio'r lansiad yn fyw ar frig y dudalen yma.

    dem rhydd
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 10:26 GMT+1 14 Ebrill

    Croeso aton ni wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol gyhoeddi eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026.

    Fe allwch chi wylio'n fyw o 11:00 ymlaen wrth i'r maniffesto gael ei lansio yng Nghaerdydd.

    Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r olaf o'r prif bleidiau i lansio eu maniffesto.

    Fe fyddwn ni hefyd yn dod â'r holl ddadansoddi i chi gydol y bore, felly arhoswch gyda ni.

    Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 7 Mai.

    mapFfynhonnell y llun, Getty Images