Crynodeb

  1. Beirniadu cynlluniau Reform a'r Ceidwadwyr ar dorri treth incwmwedi ei gyhoeddi 11:40 GMT+1 14 Ebrill

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Mae'r blaid yn dweud y byddan nhw'n barod i godi ceiniog ar dreth incwm yng Nghymru am gyfnod penodol er mwyn ariannu'r addewid o £300m ar ofal cymdeithasol.

    Fe fyddai hyn am gyfnod penodol, nid parhaol, meddai Jane Dodds - ond heb amlinellu beth yn union fyddai'r amserlen.

    Wnaeth hi hefyd ymosod ar y ddwy blaid sydd wedi addo torri treth incwm yn yr etholiad yma - Reform a'r Ceidwadwyr - gan honni bod unrhyw blaid sy'n dweud eu bod nhw am dorri treth incwm tra'n gwario ar wasanaethau cyhoeddus "yn dweud celwydd."

  2. 'Angen £300m ar gyfer gofal cymdeithasol'wedi ei gyhoeddi 11:39 GMT+1 14 Ebrill

    Dywed Jane Dodds fod angen £300m "wedi'i glustnodi ar gyfer gofal cymdeithasol i helpu i gael ein cleifion... allan o'r drws."

    Mae'r blaid wedi dweud, os bydd ei angen, y byddant yn gofyn i'r cyhoedd yng Nghymru am geiniog arall ar dreth incwm.

  3. A ddylai'r rhaglen Taith barhau ar gyfer myfyrwyr?wedi ei gyhoeddi 11:38 GMT+1 14 Ebrill

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae cwestiynau mawr ynglŷn â dyfodol rhaglen Taith, sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc astudio a gweithio dramor, a gafodd ei sefydlu ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael Erasmus+.

    Gan fod y DU bellach yn ailymuno ag Erasmus, dyw hi ddim yn sicr y bydd Taith yn parhau. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y bydden nhw’n parhau i fuddsoddi yn y rhaglen ochr yn ochr ag aelodaeth o’r cynllun Ewropeaidd.

    Cafodd y system cyllid myfyrwyr bresennol ar gyfer myfyrwyr Cymreig ei chyflwyno o dan Weinidog Addysg o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Mae’r blaid yn dweud y dylai’r hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel y system “fwyaf hael” yn y Deyrnas Unedig barhau i fod ar gael i fyfyrwyr Cymreig lle bynnag y mae nhw’n astudio – er gwaethaf y cwestiynau cynyddol ynghylch pa mor fforddiadwy yw’r system yma.

  4. Dim gwario arian ar annibyniaethwedi ei gyhoeddi 11:37 GMT+1 14 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae Jane Dodds yn gadarn iawn na fydd hi'n cefnogi unrhyw lywodraeth sy'n gwario arian ar annibyniaeth.

    Mae hi'n dweud bod hwn yn llinell goch iddyn nhw gan nad ydyn nhw'n cefnogi annibyniaeth, ond am eu bod hefyd eisiau gweld pob ceiniog a phob punt yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.

    Wrth gyfeirio at gost pwyllgor cenedlaethol Plaid Cymru ar annibyniaeth dywedodd bod hanner miliwn o bunnau yn lot fawr o arian, fyddai'n gallu talu am fwy o arian a mwy o nyrsys.

  5. A fyddai'n helpu Plaid Cymru i ffurfio llywodraeth?wedi ei gyhoeddi 11:35 GMT+1 14 Ebrill

    Pan ofynnwyd iddi fwy am ei llinellau coch ac a fyddai hynny'n ymestyn i helpu Plaid Cymru i ffurfio llywodraeth, dywed Jane Dodds na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol "yn newid ein meddyliau ar ôl yr etholiad".

    Mae hi'n dweud bod cynlluniau Plaid Cymru ar gyfer comisiwn annibyniaeth yn cynnwys "mwy na cheiniog" o gyllid.

    "Ni fyddem yn cefnogi unrhyw lywodraeth sy'n gwario arian ar annibyniaeth," meddai.

    Pan ofynnwyd iddi a yw hynny'n golygu y byddai'n caniatáu i Dan Thomas o blaid Reform ddod yn brif weinidog os na fydd Plaid Cymru yn gollwng y syniad o gomisiwn, nid yw'n ateb y cwestiwn yn uniongyrchol.

    Dywedodd ei bod yn ei gwneud hi'n "glir iawn" beth oedd y llinellau coch ac yn awgrymu y byddai'n rhaid i Blaid Cymru ddod o hyd i bartneriaid y gallai fod eu hangen arni.

  6. Gwarchod natur a'r amgylchedd yn bwysig - ond lle mae'r arian yn dod?wedi ei gyhoeddi 11:30 GMT+1 14 Ebrill

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Dadlau mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn bencampwyr dros yr amgylchedd.

    Mae lle amlwg i'r pwnc yn eu maniffesto, a'r geiriad yn glir a phendant ynglŷn a'r angen i warchod natur a brwydro newid hinsawdd.

    Mae glanhau afonydd a moroedd Cymru yn un o bump prif flaenoriaeth y blaid, er enghraifft.

    Gallwch chi ddychmygu sut y gallai gofynion fel mwy o gyllid i Gyfoeth Naturiol Cymru, neu system baner las ar gyfer ansawdd dŵr afonydd godi yn ystod trafodaethau wedi'r etholiad petai'r llywodraeth nesa' angen cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

    Ond bydd na gwestiynau gan rai ynglŷn â sut mae'r blaid yn bwriadu cyflawni rhai o'r addewidion mwyaf trawiadol.

    Beth yw'r amserlen ar gyfer "gwahardd" gollyngiadau carthffosiaeth, er enghraifft - o gofio y byddai'n golygu prosiect seilwaith enfawr a chostus.

    Ac o le mae'r arian yn dod i alluogi beth sy'n ymddangos fel cynnydd nodedig yn y cyllid sy'n cael ei gynnig i'r amgylchedd yn fwy cyffredinol - er mwyn plannu mwy o goed, targed i "ddyblu natur" erbyn 2050, a £50m yn fwy bob blwyddyn i'r gyllideb amaeth?

  7. Mewnfudo dal yn bwnc sy'n poeni rhai etholwyrwedi ei gyhoeddi 11:25 GMT+1 14 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Er nad oes gan y Senedd rym dros fewnfudo, mae o'n bwnc sydd yn poeni rhai etholwyr.

    Ond yn ei haraith yn lansio'r maniffesto mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds yn dadlau "nad yw Cymru yn cael ei gorlwytho, mae Cymru yn cael ei gwagio".

    Yn herio rhai o ddadleuon Reform dywedodd: "Mae Reform yn dweud mai'r broblem yw pwy sy'n gadael, ond 'da ni'n dweud mai ein problem yw pam bod pobl ifanc eisiau gadael?"

    Ac felly mae Jane Dodds yn dadlau bod angen gwella economi ymhob rhan o Gymru, fel bod pobl ifanc yn ei weld fel rhywle y gallen nhw fyw a gweithio ynddo.

  8. 'Argyfwng gofal cymdeithasol'wedi ei gyhoeddi 11:24 GMT+1 14 Ebrill

    Effaith yr "argyfwng gofal cymdeithasol", meddai Jane Dodds, yw pam mae gwelyau'n llawn mewn wardiau ysbytai.

    "Dyma'r her fwyaf sy'n wynebu Cymru."

    Mae hi'n addo "Coleg Brenhinol Gofalwyr".

    "Os yw rhywun yn barod i adael yr ysbyty, mae eu gofal yn dechrau'r diwrnod hwnnw. Nid ar ôl anghydfod ariannu. Nid ar ôl atgyfeiriad. Y diwrnod hwnnw," meddai.

    Mae hi'n dweud y byddan nhw'n "onest" os yw cyllid gofal cymdeithasol "yn gofyn am geiniog yn y bunt yn fwy ar dreth incwm, byddwn ni'n cyflwyno'r achos hwnnw i'r cyhoedd".

  9. Galw am barth ynni ar wahân i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:22 GMT+1 14 Ebrill

    Dywed Jane Dodds y bydd yn gwneud "cartrefi'n gynhesach ac yn rhatach i'w rhedeg" mewn ymgais i leihau costau byw.

    "Rhaglen 10 mlynedd i uwchraddio inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ledled Cymru, wedi'i gwneud yn iawn ac ar raddfa fawr".

    Ychwanegodd Jane Dodds y bydd yn "pwyso" ar Lywodraeth y DU i edrych ar "brisio trydan rhanbarthol, gan gynnwys parth ar wahân i Gymru".

    "Os cynhyrchir ynni yma, mewn ardaloedd sy'n gyfoethog mewn ynni adnewyddadwy, dylai fod yn rhatach yma," meddai.

    YnniFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Cymru yn cael ei 'gwagio'wedi ei gyhoeddi 11:17 GMT+1 14 Ebrill

    Dywed Dodds nad yw Cymru "yn cael ei llethu" gan fewnfudwyr, ond ei bod yn cael ei "gwagio".

    Mae hi'n dweud bod Reform UK eisiau dweud wrth bobl "y broblem yw pwy sy'n cyrraedd".

    "Rydym yn dweud mai'r broblem yw pam mae ein pobl ifanc ein hunain yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael," meddai hi.

  11. 'Cynnig gofal plant da'wedi ei gyhoeddi 11:16 GMT+1 14 Ebrill

    Dywed Jane Dodds fod "pob plentyn yn haeddu dechrau teg".

    "O feichiogrwydd i ail ben-blwydd plentyn - mae'r misoedd cynnar hynny'n llunio popeth sy'n dilyn," meddai.

    Dywed y bydd y blaid yn darparu "gofal plant am ddim o ansawdd uchel o naw mis oed, 30 yr wythnos, 48 ​​wythnos y flwyddyn".

    Dywed mai "cynnig gofal plant da yw'r ffordd fwyaf arwyddocaol y gall llywodraeth nesaf Cymru leihau'r lefel anweddus o dlodi plant a welwn yng Nghymru".

  12. Addewid i 'bob person ifanc' o fewn tri mis i adael yr ysgolwedi ei gyhoeddi 11:15 GMT+1 14 Ebrill

    Mae Jane Dodds yn addo addysg bellach, prentisiaeth â thâl, swydd gyda hyfforddiant neu gefnogaeth wedi'i theilwra i waith i "bob person ifanc" o fewn tri mis i adael yr ysgol.

    "Neb ar ôl yn aros. Neb ar ôl heb lwybr", meddai.

    Mae hi'n addo "rhwystro" cynllun Plaid Cymru i gael gwared ar grant costau byw o £1,000 i fyfyrwyr Cymru sy'n astudio yn Lloegr.

  13. 'Lot o wariant' yn y maniffestowedi ei gyhoeddi 11:15 GMT+1 14 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae hwn yn faniffesto gweddol fyr i'w gymharu â rhai o'r pleidiau eraill ond eto mae 'na lot o wariant yma.

    Er enghraifft mae yna gynnydd sylweddol mewn gofal plant am ddim i 30 awr am 48 wythnos y flwyddyn i bob plentyn rhwng 9 mis a phedair oed - cynnig llawer mwy hael nag 20 awr Plaid Cymru fyddai'n costio £400-500m.

    Maen nhw eisiau buddsoddi mwy o arian mewn gofal cymdeithasol, mwy o nyrsys, buddsoddi mewn adeiladau ysbytai gan gynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd.

    Mae 'na gymorth i fusnesau lletygarwch, cronfa £400m i wella canol trefi, ac maen nhw am adeiladu 30,000 o dai cymdeithasol.

    Ond does dim costau ynghlwm â'r maniffesto yma, felly mi fydd hi'n ddiddorol gweld beth fydd asesiad arbenigwyr ariannol yr IFS.

  14. 'Nid yw cenedlaetholdeb yn trwsio unrhyw beth'wedi ei gyhoeddi 11:11 GMT+1 14 Ebrill

    Mae arweinydd y blaid, Jane Dodds, yn dechrau ei haraith gydag ymosodiad ar ddiffygion cenedlaetholdeb, fel y mae hi'n eu gweld nhw.

    "Nid yw pobl yn gofyn am newid mwyach - maen nhw'n ei fynnu," meddai. Ond mae hi'n dweud bod "cenedlaetholdeb yn ffynnu yn absenoldeb gobaith" ac yn cynnig "rhywbeth deniadol - rhywun i'w feio".

    "Nid yw cenedlaetholdeb yn clirio rhestr aros. Nid yw'n hyfforddi nyrs... nid yw'n trwsio unrhyw beth".

  15. Pa etholaethau maen nhw'n eu targedu?wedi ei gyhoeddi 11:07 GMT+1 14 Ebrill

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Mae'r blaid yn cydnabod nad ydyn nhw'n disgwyl arwain Llywodraeth Cymru wedi 7 Mai ond maen nhw yn gobeithio ennill digon o seddi i allu defnyddio'u "talp o aelodau i ddylanwadu ar gyfeiriad y llywodraeth nesaf".

    Ac mae'r blaid yn agored iawn ynglŷn â ble mae eu gobeithion gorau o sicrhau'r seddi hynny - gyda phwyslais mawr ar lefydd lle mae ganddyn nhw rywfaint o hanes etholiadol, sef Caerdydd Ffynnon Taf, Gŵyr Abertawe, Brycheiniog Tawe Nedd, Ceredigion Penfro a Gwynedd Maldwyn.

  16. A fyddent yn diystyru gweithio gyda Plaid Cymru?wedi ei gyhoeddi 11:05 GMT+1 14 Ebrill

    Mae llinell goch y Democratiaid Rhyddfrydol am "ddim ceiniog" yn cael ei wario ar annibyniaeth wedi codi cwestiynau ynghylch a fyddai'r blaid yn diystyru gweithio gyda Phlaid Cymru.

    Er ei bod wedi diystyru pleidlais annibyniaeth y tymor hwn, mae Plaid Cymru wedi addo comisiwn a fyddai'n edrych ar syniadau sy'n paratoi'r ffordd tuag at Gymru yn gadael y DU.

    Y bore 'ma dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Rodney Berman y gallent "dal i weithio gyda" Phlaid Cymru - ond nid Reform na'r Torïaid.

    Dywedodd wrth BBC Radio Wales: "Ond yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw - mae yna lawer o gomisiynau eisoes wedi argymell llawer o gynnydd mewn pwerau i ddod i Lywodraeth Cymru a chynyddu cyfleoedd ariannu. Gadewch i ni weithio ar gyflawni'r rheini."

    Democratiaid RhyddfrydolFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Y gynhadledd yn dechrau - prif ymrwymiadau y Democratiaid Rhyddfrydolwedi ei gyhoeddi 11:02 GMT+1 14 Ebrill

    Dyma brif addewidion y blaid:

    • Datganoli mwy o bwerau i Gymru, gan gynnwys rheilffyrdd, carchardai a'r heddlu;
    • O bosibl codi treth incwm 1c y bunt i ariannu gofal cymdeithasol;
    • Rhaglen i atgyweirio, disodli ac uwchraddio ysbytai Cymru;
    • Gwahardd gollwng carthion yn y dyfrffyrdd;
    • Adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol;
    • Gofal plant am ddim o naw mis i bedair oed am 30 awr yr wythnos, 48 ​​wythnos y flwyddyn;
    • Sicrhau nad oes unrhyw arian yn cael ei wario ar annibyniaeth i Gymru.
    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Beth fydd blaenoriaethau y Democratiaid Rhyddfrydol?wedi ei gyhoeddi 10:59 GMT+1 14 Ebrill

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Fel sawl plaid arall, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn addo "atgyweirio, disodli ac uwchraddio" adeiladau a seilwaith hen ysbytai - gan ystyried bod Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd angen sylw arbennig.

    Er bod y ddau ysbyty hynny ar eu pen eu hunain wedi cronni costau atgyweirio sylweddol o £170m - yn ôl ein dadansoddiad ni, y bil ar gyfer holl Wasanaeth Iechyd Cymru ydy £1bn.

    Ond mae'r blaid hefyd yn addo buddsoddi'n helaeth mewn gofal cymunedol ac ataliol, yn ogystal â gwario i "drwsio'r argyfwng" mewn gofal cymdeithasol er mwyn "achub y GIG".

    Byddai llawer o Golegau Brenhinol gofal iechyd a melinau meddwl yn cefnogi'r nodau hynny - ac er y gallai trawsnewid o'r fath wneud y gwasanaeth iechyd yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol - gallai'r costau fod yn enfawr, o leiaf i ddechrau.

    Gyda disgwyl i gyllideb llywodraeth nesaf Cymru fod yn dynn - y cwestiwn yw beth fydd y blaid yn ei flaenoriaethu?

  19. Brwydro 'amherthnasedd' yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 10:57 GMT+1 14 Ebrill

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Cyn y lansiad heddiw rwyf wedi clywed gan ymgyrchydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r maniffesto o safbwynt brwydro “amherthnasedd” yng Nghymru.

    Yn wir, mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi’i chael hi’n anodd gwneud marc tebyg i'r un mae Syr Ed Davey wedi ei wneud yn Lloegr.

    Os ydych yn edrych ar y polau piniwn, mae’n ymddangos bod nenfwd weddol isel i’r Democratiaid Rhyddfrydol - tua 7% ar ddiwrnod da.

    Cymharwch hwn gyda thwf y Gwyrddion, sydd yn anelu i fod uwchlaw 10%. Mae Arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, wedi bod yng Nghymru sawl gwaith ers cael ei ethol ym mis Medi.

    Er hyn, mae Jane Dodds wedi bod yn gyson yn dweud fod Syr Ed Davey “yn gefnogol”, a bod yna “groeso” iddo ymweld yn ystod yr ymgyrch.

  20. Pobl yn chwilio am y tir canol ac felly'n 'dod aton ni'wedi ei gyhoeddi 10:55 GMT+1 14 Ebrill

    "Gyda'r holl bolareiddio sydd wedi bod ar drafodaeth wleidyddol, 'dan ni yn gwybod bod pobl yn chwilio am y tir canol hwnnw," meddai Jane Dodds yn ystod lansio'r ymgyrch.

    "Rydyn ni eisoes wedi gweld pleidleiswyr Llafur a'r Ceidwadwyr yn dod aton ni ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n parhau ar 7 Mai."

    Bellach mae'r maniffesto yn nwylo ein gohebwyr.

    maniffesto