Crynodeb

  1. Beth yw'r dyddiadau pwysig?wedi ei gyhoeddi 10:51 GMT 5 Mawrth

    20 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

    17:00 ar 21 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post a phleidlais bost drwy ddirprwy

    17:00 ar 28 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

    7 Mai - Diwrnod y bleidlais

    17:00 ar 7 Mai - Cyfle olaf i gasglu papur pleidleisio newydd drwy'r post os bydd y gwreiddiol wedi'i ddifetha neu wedi mynd ar goll

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau brys drwy ddirprwy

    8 Mai - Cyfrif y pleidleisiau

  2. Ym mha etholaeth ydw i?wedi ei gyhoeddi 10:49 GMT 5 Mawrth

    Wrth i nifer yr aelodau gynyddu yn y Senedd, mae ffiniau'r etholaethau hefyd yn newid.

    Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 o etholaethau, gyda chwe sedd yn y Senedd i bob etholaeth.

    Ewch yma i weld ym mha etholaeth rydych chi ynddi.

    Map etholaethau

    Bydd y pleidiau yn rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth ac fe all ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholiad.

    Fe fyddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol, ac mae'r seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau.

    Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar eu rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny.

  3. 96 o Aelodau o'r Senedd eleniwedi ei gyhoeddi 10:43 GMT 5 Mawrth

    Y Senedd yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

    Mae Aelodau o'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau'n well i bawb yng Nghymru.

    O 2026 ymlaen bydd gan y Senedd 96 o aelodau, wedi'u hethol o bob cwr o Gymru.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Comisiwn y Senedd
  4. Beth sy'n cael ei gyhoeddi heddiw?wedi ei gyhoeddi 10:37 GMT 5 Mawrth

    Maniffesto Reform sydd dan sylw heddiw, y rhestr o flaenoriaethau ac addewidion gan y blaid os ydyn nhw mewn grym yn y Senedd ar ôl yr etholiad ym mis Mai.

    Fel y gwelwch chi mae'r maniffesto yn nwylo ein gohebwyr, ac fe fyddwn ni'n dod â'r holl fanylion i chi cyn gynted â phosib.

    Maniffesto
  5. Croesowedi ei gyhoeddi 10:35 GMT 5 Mawrth

    Croeso atom ni wrth i Reform gyhoeddi eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026.

    Fe allwch chi wylio'n fyw o 11:00 ymlaen, gyda disgwyl i'r arweinwyr Cymreig a Phrydeinig, Dan Thomas a Nigel Farage, annerch aelodau'r blaid.

    Fe fyddwn ni hefyd yn dod â'r holl ddadansoddi i chi gydol y bore, felly arhoswch gyda ni.

    Y Maniffesto