Farage a Thomas yn ateb cwestiynauwedi ei gyhoeddi 11:48 GMT 5 Mawrth
Mae araith arweinydd y blaid yng Nghymru wedi dod i ben ac mae Nigel Farage a Dan Thomas bellach yn ateb cwestiynau gan ohebwyr.
Ffynhonnell y llun, PA MediaReform yn cyhoeddi manylion eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026
Wrth siarad, dywedodd yr Arweinydd Cymreig, Dan Thomas, y bydd y blaid yn "rhoi pobl Cymru yn gyntaf"
Mae torri trethi, cael gwared o'r terfyn cyflymder 20mya ac adeiladu ffordd liniau'r M4 ymhlith prif benawdau'r maniffesto
Dan Thomas yn dweud nad oes angen targed ar yr iaith Gymraeg
Gwyliwch: Aelod o'r gynulleidfa yn gweiddi ar Farage cyn cael ei hebrwng o'r neuadd
Farage yn dweud fod y blaid yn bod "mor ofalus ag y gallwn", pan ofynnwyd iddo am ymddiriedaeth y cyhoedd
Mae araith arweinydd y blaid yng Nghymru wedi dod i ben ac mae Nigel Farage a Dan Thomas bellach yn ateb cwestiynau gan ohebwyr.
Ffynhonnell y llun, PA Media
Owain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru
Un o egwyddorion sylfaenol y gwasanaeth iechyd, ers ei sefydlu yn 1948, yw y dylai fod yn rhad ac am ddim i gleifion pan fo nhw ei angen.
Mae hyn yn golygu mai'r wladwriaeth sy'n talu drwy godi trethi.
Ond mae systemau gwahanol yn bodoli mewn gwledydd eraill lle mae pobl yn cyfrannu tuag at eu costau meddygol naill ai yn uniongyrchol neu drwy systemau yswiriant amrywiol.
Yn y gorffennol mae arweinydd Nigel Farage wedi awgrymu bod angen ystyried ailedrych ar y dull o ariannu'r gwasanaeth.
Ond mae'r maniffesto hwn yn datgan fod y blaid wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd, yng Nghymru, sy'n rhad ac am ddim i gleifion ar yr adeg y maen nhw ei angen.
Ond mae 'na gydnabyddiaeth hefyd fod angen newidiadau i "drwsio system sydd wedi torri".
Y tu hwnt i hynny mae nifer o'r polisïau iechyd yn debyg i rai gafodd eu cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig rai dyddiau yn ôl, yn cynnwys lleihau'r pwysau ar unedau brys a chynyddu defnydd y gwasanaeth iechyd o dechnoleg ddigidol.
Mae yna ymrwymiad hefyd i ostwng rhestrau aros - ond dyw'r maniffesto ddim yn cynnwys unrhyw dargedau penodol ynglŷn â hynny.
Dywed Thomas fod GIG Cymru yn "methu pobl sy'n dibynnu fwyaf arno".
Mae'n cael cymeradwyaeth am ymrwymo i'w gadw'n "rhad ac am ddim wrth ei ddefnyddio", ac mae'n addo "ehangu canolfannau llawfeddygol a chanolfannau diagnostig cyflym".
Dywed y bydd rheolwyr "yn cael eu dwyn i gyfrif".
Teleri Glyn Jones
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Does dim llawer o sôn yn y ddogfen yma ynglŷn ag ariannu'r polisïau, yn enwedig yr addewidion mawr fel torri treth incwm.
Mae’r blaid wedi dweud eu bod yn hyderus o’u ffigyrau ac i fod yn deg, mae'r rhan fwyaf o'r addewidion yn doriadau i dâp coch neu wariant, yn hytrach na phrosiectau newydd.
Yn y bôn, athroniaeth y blaid hon yw cael llai o lywodraeth, llai o ymyrraeth, llai o wario cyhoeddus er mwyn galluogi llai o drethi.
Mae Dan Thomas yn cael cymeradwyaeth fawr gan yr aelodau am addo ffordd liniaru'r M4, ac eto am addo dod â pholisi 20mya Llywodraeth Cymru i ben.
Yn ystod wythnosau cyntaf llywodraeth Reform, byddai'n "dechrau'r broses o wrthdroi'r terfyn cyflymder cyffredinol hwn," meddai.
"Pleidleisiwch dros Reform i ddod â'r rhyfel yn erbyn modurwyr i ben."
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDywed Dan Thomas fod cynghorau wedi bod yn "twyllo" talwyr treth y cyngor.
Mae'n dweud mai "un o'r biliau cartref mwyaf" ydyw ac yn dweud y byddai llywodraeth Reform yng Nghymru yn capio cynnydd blynyddol ar 4.99%.
Mae'r blaid yn addo refferenda os yw cynghorau eisiau codiadau uwchlaw'r terfyn hwnnw.
"Os yw cynghorau'n trin y cap hwnnw fel targed, byddwn yn ei ostwng ymhellach," meddai.

Teleri Glyn Jones
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Wrth i Dan Thomas siarad mae'r dorf yn nodio'u pennau mewn cytundeb wrth iddo sôn am fewnfudo - mae'n dweud mai "Reform yw'r unig blaid sy'n clywed pryderon pobl Cymru ynglŷn â mewnfudo".
Mewn neges i Blaid Cymru dywedodd nad oedd pobl Cymru’n cefnogi torri oddi wrth y Deyrnas Unedig, a bod pobl Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru “ganolbwyntio ar y swydd o wella gwasanaethau cyhoeddus”.
Mae'r dorf yn ymateb yn gadarnhaol iawn i gael gwared â pholisi sero net er mwyn dod â biliau ynni i lawr hefyd.
Ac yma yng Nghasnewydd, yn edrych dros un o rannau prysuraf yr M4 mae’r dorf yn ffrwydro wrth iddo addo adeiladu’r ffordd liniaru ar y draffordd.
Mae’n teimlo fel bod y gynulleidfa yma o aelodau yn mynd yn fwyfwy brwdfrydig wrth i’r araith barhau.

Rhwng 2019 a 2025 gwariodd Llywodraeth Cymru £63.87m ar y polisi cenedl noddfa - sy'n cyfateb i 0.05% o'i chyllideb ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Cafodd rhan fwyaf yr arian hwnnw - £58.22m - ei wario ar gefnogi pobl o Wcráin a ddaeth i Gymru ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn eu mamwlad.
Yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref, ar 30 Medi 2025 roedd 12,687 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cefnogi gan bolisi cenedl noddfa yng Nghymru, gan gynnwys 8,328 o Wcráin a 1,028 o Afghanistan a gefnogodd ymdrechion y DU yno.
O'r 3,331 sy'n weddill, roedd 99 o bobl yn cael eu lletya yn yr hyn sy'n cael eu galw'n westai lloches yng Nghaerdydd, gyda Llywodraeth y DU yn talu am hynny.
Dywed Dan Thomas y byddai'n dileu polisi cenedl noddfa Llywodraeth Cymru "yn ein hwythnosau cyntaf o lywodraeth".
"I'r rhai sy'n dweud nad yw mewnfudo yn broblem yng Nghymru, mae ymhlith tri phrif bryder y cyhoedd yng Nghymru a Reform yw'r unig blaid sy'n gwrando."
Mae'n galw ar y cyfryngau ac eraill i beidio â "chymysgu pryder am mewnfudo ... â hiliaeth neu anoddefgarwch".
Dywed Dan Thomas bod "byddin newydd y bobl yn barod i herio Llafur a Phlaid Cymru".
Mae'n disgrifio'r maniffesto fel "cynllun gweithredu" ac yn dweud bod y blaid yn "barod am lywodraeth" a fyddai'n "rhoi pobl Cymru yn gyntaf".
Ni fydd Reform yn "ariannu cymorth tramor" a phlannu coed yn Uganda, a byddai'n cau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn China, meddai.
"Byddwn yn gwario eich arian lle mae ei angen fwyaf," meddai, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd.
Ffynhonnell y llun, PA MediaEfallai nad ydych chi'n gyfarwydd iawn ag arweinydd Cymreig Reform, gan mai dim ond fis diwethaf y cafodd Dan Thomas ei benodi.
Yn wreiddiol o'r Coed Duon, safodd yn Islwyn yn Etholiad Cyffredinol 2010 dros y Ceidwadwyr.
Yn fwy diweddar arweiniodd Gyngor Barnet yng ngogledd Llundain rhwng 2019 a 2022 fel aelod Ceidwadol.
Pan enillodd Llafur yr etholiad lleol yn 2022, daeth yn arweinydd yr wrthblaid tan fis Mai 2024.
Ymddiswyddodd ar ôl 19 mlynedd fel cynghorydd yn 2025, ac ymunodd â Reform.
Mae wedi dweud yn flaenorol ei fod wedi symud yn ôl i Gymru er mwyn magu ei blant ac i fod yn agosach at ei deulu.
Mae'r Arweinydd Cymreig, Dan Thomas bellach ar ei draed yng Nghasnewydd.
Mae'n dechrau drwy grybwyll hanes y Siartwyr, cyn dweud bod Reform yn barod i gamu i mewn fel llywodraeth i Gymru, a chynnig "gobaith".

Dywed Farage fod Llafur wedi "berchen ar Gymru" yn y gorffennol.
Yng Nghymru, mae'r blaid wedi ennill pob etholiad mawr ar gyfer seneddau'r DU neu Gymru ers canrif.
"Mae hwn yn etholiad hollbwysig - nid yn unig i Gymru - nid yn unig i ni - ond i'r prif weinidog," meddai.
"Os yw canlyniad Llafur yn debyg i'r arolygon barn cyfredol, bydd Cymru yn dod â phrif weinidogiaeth Syr Keir Starmer i ben".
"Os cawn ni hyn yn iawn, byddwn ni'n cael gwared ar y prif weinidog gwaethaf y mae unrhyw un ohonom wedi'i weld yn ein hoes."
Mae merch newydd godi ar ei thraed yn yr awditoriwm yn heclo Nigel Farage yn ystod ei araith.
Roedd hi’n gweiddi am hawliau pobl sy’n gweithio. Cafodd ymateb chwyrn gan y dorf a’i hebrwng allan o’r ystafell gynhadledd gan y staff diogelwch.
Ffynhonnell y llun, PA MediaMae Nigel Farage yn dechrau drwy drafod materion rhyngwladol yn dilyn datblygiadau yn y Dwyrain Canol.
Mae'n dweud wrth y gynulleidfa o tua 550 yng Nghasnewydd y byddai wedi bod yn gyfiawn cefnogi'r Unol Daleithiau ac Israel ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch oherwydd bygythiad bom niwclear Iran.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesLlun o brifddinas Iran, Tehran, y bore yma
Mae Arweinydd Prydeinig Reform, Nigel Farage, newydd gamu i'r llwyfan yng Nghasnewydd.
Cliciwch uchod i wylio'n fyw.

Mae'r ddogfen ychydig dros 30 o dudalenau o hyd, arhoswch gyda ni am fwy o fanylion.
Teleri Glyn Jones
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Mae manylion cyntaf y maniffesto wedi eu cyhoeddi, dyma'r penawdau'n fras:
- Torri trethi: Mi fyddai Reform yn torri ceiniog oddi ar dreth incwm. Mae 'na ychydig o ddryswch o'r cychwyn yma oherwydd mae'n ymddangos i addo dau beth. I ddechrau torri ceiniog oddi ar bob punt ym mhob band, ond hefyd ymhellach mewn i'r ddogfen, mae'n gaddo torri ceiniog oddi ar y gyfradd sylfaenol yn unig. Mi wnawn ni'n gorau i ddatrys y dirgelwch yma yn ystod y gynhadledd i'r wasg.
- Mi fydden nhw'n cael gwared o'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol.
- O dan y teitl "rhoi Cymru'n gyntaf', maen nhw'n addo rhoi terfyn ar y polisi cenedl noddfa a rhoi diwedd ar y defnydd o westai i gartrefu mewnfudwyr. Mi fydden nhw hefyd yn blaenoriaethu Cymry ar restrau aros am dai cymdeithasol.
- Mae nhw'n ymrwymo i adeiladu ffordd liniaru i'r M4 a gwella'r A55 yn ogystal ag uwchraddio'r A470 rhwng y de a'r gogledd.
- Ac i ffermwyr, mi fydden nhw'n diwygio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i "ganiatáu i ffermwyr ffermio".
Ffynhonnell y llun, Athena PicturesCyhoeddodd Darren Millar gynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig ddydd Mawrth
Ddydd Mawrth fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig rannu manylion eu maniffesto nhw gan wneud addewidion i dorri trethi, gwahardd ffonau mewn ysgolion ac adeiladu ffyrdd.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr drefnu'r lansiad ar fyr rybudd er mwyn cyhoeddi eu haddewidion cyn Reform heddiw.
Ers lansiad y Ceidwadwyr, mae arbenigwyr wedi cwestiynu sut y byddai modd talu am y cynlluniau heb wneud toriadau sylweddol yn rhywle arall.
Mae'r neuadd yn llenwi yng Nghasnewydd wrth i ni aros am ddechrau'r digwyddiad yn y munudau nesaf.
Fe allwch chi wylio'r cyfan o Gasnewydd trwy glicio ar dop y dudalen.
