Crynodeb

  • Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau

  • Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni

  • Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu

  • Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni

  • Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl

  1. Eisteddfod Llanym-lyfli? 🤩wedi ei gyhoeddi 10:13 GMT+1 29 Mai 2023

    Mae cynhadledd i'r wasg wedi dechrau ar y maes.

    Yn ôl prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, mae pobl eisoes wedi bathu enw newydd i leoliad yr Eisteddfod eleni, sef Llanym-lyfli!

    Sian Lewis

    “Sir Gar, chi’n haeddu 10/10 am eich ymdrech eleni,” meddai.

    Fe gadarnhaodd bod 8,000 o bobl wedi manteisio ar y cynnig o docynnau am ddim i’r maes i deuluoedd incwm isel.

    “Mae’r Urdd heddiw yn Urdd i bawb, un sy’n adlewyrchu’r Gymru newydd.”

  2. "...i Sir Gâr, i sioe'r geiriau..."wedi ei gyhoeddi 10:06 GMT+1 29 Mai 2023

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  3. Faint wyt ti'n ei wybod am Eisteddfod yr Urdd?wedi ei gyhoeddi 09:59 GMT+1 29 Mai 2023

    BBC Cymru Fyw

    Wyt ti'n gwybod lle gafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1929?

    Dyna un o gwestiynau cwis Cymru Fyw yr wythnos hon - beth am i ti roi cynnig arni?

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  4. 'Hollol anhygoel'wedi ei gyhoeddi 09:52 GMT+1 29 Mai 2023

    Roedd Indi'n un o griw Ysgol Gymraeg Bro Myrddin fu'n perfformio ddydd Sul

    Indi
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Indi'n rhan o'r perfformio ddydd Sul

    "O'n ni 'di creu dawns o'r enw 'Tân ar y Gwaed' yn rapio a gyda phobl eraill," dywedodd.

    "Oedd e'n absolutely amazing. O'dd llawer o bobl 'na, o'n ni 'di creu e 'da'r ysgol a o'dd boi o'r enw Gwilym 'di creu'r gân a chreu'r rap."

  5. Wedi anghofio'ch het?wedi ei gyhoeddi 09:48 GMT+1 29 Mai 2023

    Er ei bod hi ychydig yn wyntog, mae’n ddiwrnod braf arall yn Llanymddyfri heddiw.

    Efallai y bydd eli haul neu het fwced yn handi nes ymlaen!

    Hetiau
    Disgrifiad o’r llun,

    Y stondinau ar agor erbyn hyn a chyfle i fachu het fwced liwgar!

  6. Mae'r map ar yr ap!wedi ei gyhoeddi 09:43 GMT+1 29 Mai 2023

    Cofiwch lawrlwytho ap yr Eisteddfod ar eich ffôn er mwyn cael yr holl wybodaeth.

    Map, amserlen, canlyniadau, gweithgareddau gŵyl Triban a mwy.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  7. Beth yw Prosiect 23?wedi ei gyhoeddi 09:36 GMT+1 29 Mai 2023

    Drwy brosiect blwyddyn o hyd, ‘Prosiect 23’, mae pob plentyn o fewn ysgolion cynradd, uwchradd ac unedau arbenigol Sir Gâr wedi cael cyfle i fod yn ran o gyffro yr Eisteddfod eleni.

    Mr urdd wedi gwnio
    Disgrifiad o’r llun,

    Celf a chrefft 'Prosiect 23'

    Nod ‘Prosiect 23’ oedd addysgu pobl ifanc am hanes, traddodiadau a diwylliant eu hardal, a hynny drwy elfennau celf, yn ogystal â drama a dawns, cerddoriaeth a chanu.

  8. 'Cynnwys pawb' yn Eisteddfod eleniwedi ei gyhoeddi 09:32 GMT+1 29 Mai 2023

    Gyda phrosiect 23 a sioe Chwilio'r Chwedl oedd yn digwydd ddydd Sul, dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, fod holl blant Sir Gaerfyrddin wedi cael cyfle i gael eu cynnwys.

    Siân Eirian
    Disgrifiad o’r llun,

    Siân Eirian

    "'Dyn ni ddim wedi gwrthod un plentyn i fod yn rhan o'r sioe," meddai.

    "Ond be' sydd yn bwysig yw ein bod ni wedi cynnwys celf a bod hwnna wedi bod yn brosiect blwyddyn, a bo' 'na 900 arall yn rhan o hwnna.

    "Be' sy'n hollbwysig i'n plant a phobl ifanc ni yw ein bod ni'n cynnwys pawb."

  9. Iaith arwyddo Makaton yn y Pafiliwn Gwyrddwedi ei gyhoeddi 09:28 GMT+1 29 Mai 2023

    Am y tro cyntaf, fe fydd Makaton yn cael ei ddefnyddio yn ystod perfformiadau.

    Gallwch fynd draw i'r pafiliwn gwyrdd i wylio rhai o'r cystadlaethau.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  10. Chwarae ar eiriau enwau lleol... 👀wedi ei gyhoeddi 09:22 GMT+1 29 Mai 2023

    Bobl Cefneithin, beth y'ch chi'n ei feddwl o hyn?!

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  11. Chwilio'r Chwedl: 'Profiad gwych' a chyfle i bawbwedi ei gyhoeddi 09:13 GMT+1 29 Mai 2023

    Disgrifiad,

    Chwilio'r Chwedl!

    Er mai ddydd Llun mae'r cystadlu'n dechrau, fe ddechreuodd yr ŵyl ieuenctid eleni ddydd Sul mewn gwirionedd wrth i filoedd o blant ac oedolion lenwi'r maes yn Llanymddyfri, Sir Gâr.

    Roedd dros 900 o blant a phobl ifanc y sir yn perfformio ar wahanol adegau yn ystod y prynhawn ar draws bedwar o lwyfannau'r maes fel rhan o ddigwyddiad Chwilio'r Chwedl.

  12. Pafiliynau coch, gwyn a gwyrdd!wedi ei gyhoeddi 09:06 GMT+1 29 Mai 2023

    Eisteddfod yr Urdd

    Bydd yna ragbrofion a chystadlaethau lu yn ystod y dydd a llawer iawn o weithgareddau eraill hefyd.

    Dyma'r map holl bwysig!

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  13. O gwmpas y maes mewn munudwedi ei gyhoeddi 09:00 GMT+1 29 Mai 2023

    Fyddwch chi'n ymweld â'r maes eleni? Dyma flas i chi o'r hyn sydd yno...

    Disgrifiad,

    Eisteddfod yr Urdd 2023

  14. Yr Urdd yn Llanymddyfri am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 08:55 GMT+1 29 Mai 2023

    Hon fydd yr wythfed tro i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Sir Gaerfyrddin.

    Baneri yn Llanymddyfri

    Roedd yr ymweliad cyntaf yn 1935 a’r mwyaf diweddar yn 2007.

    Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddod i Lanymddyfri.

  15. Dydd Sul anarferol Eisteddfod yr Urdd yn 'deimlad arbennig'wedi ei gyhoeddi 08:52 GMT+1 29 Mai 2023

    Roedd hi'n llawn ar y maes ddydd Sul, yn wahanol i'r arfer, gyda sioe Chwilio'r Chwedl.

    Roedd 900 o blant yn rhan o'r perfformiadau!

    Dydd Sul ar y mes
    Disgrifiad o’r llun,

    Dydd Sul ar y maes

  16. Sut mae cyrraedd y maes?wedi ei gyhoeddi 08:48 GMT+1 29 Mai 2023

    Urdd Gobaith Cymru

    Mae'r holl wybodaeth sydd ei angen ar wefan yr Urdd, dolen allanol - mae hi'n gyfleus i gyrraedd mewn car, gan ddefnyddio'r meysydd parcio, neu drafnidiaeth gyhoeddus.

    Pobol yn cyrraedd y maes
  17. Tawel ger y stondinau ar hyn o bryd...wedi ei gyhoeddi 08:42 GMT+1 29 Mai 2023

    ... ond mae'n siŵr o brysuro ymhen ychydig pan fyddan nhw'n agor am 09:00!

    Stondinau'n dawel ben bore
  18. Y drysau ar agor a'r haul yn tywynnu!wedi ei gyhoeddi 08:35 GMT+1 29 Mai 2023

    Roedd y maes yn prysuro ben bore ar gyfer y diwrnod cyntaf o gystadlu.

    Ein gohebydd Sara Dafydd sydd yno'n gwylio'r cystadleuwyr yn cyrraedd.

    Disgrifiad,

    Mae'r drysau wedi agor ar faes yr Eisteddfod a'r lle'n dechre prysuro

  19. Croeso i Eisteddfod yr Urdd 2023!wedi ei gyhoeddi 08:32 GMT+1 29 Mai 2023

    Croeso

    A chroeso hefyd i lif byw Cymru Fyw o'r maes yn Llanymddyfri.

    Mae'r haul yn gwenu ar y cystadleuwyr cyntaf wrth iddyn nhw gyrraedd y maes...

    Llun Croeso i Lanymddyfri

    ... ac mae cymuned Llanymddyfri'n barod i groesawu plant a phobl ifanc Cymru a thu hwnt i'r Eisteddfod.

    Dilynwch y cyfan yn fyw ar Cymru Fyw!

  20. Cwis: Steddfod yr Urddwedi ei gyhoeddi 10:33 GMT+1 26 Mai 2023

    Faint wyddoch chi am Eisteddfod yr Urdd? Rhowch bob chware teg i'ch hun a rhowch dro ar y cwis...

    Read More