Crynodeb

  • Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau

  • Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni

  • Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu

  • Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni

  • Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl

  1. Chwiorydd o Afghanistan yn mwynhau ar y maeswedi ei gyhoeddi 19:30 GMT+1 31 Mai 2023

    Mae dwy chwaer o Afghanistan, sydd bellach yn byw yng Nghymru gyda'u teulu, wedi bod yn ymarfer eu Cymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd.

    Read More
  2. Yr Urdd yn sefydlu aelwyd newydd i garcharorionwedi ei gyhoeddi 18:29 GMT+1 31 Mai 2023

    Fe lwyddodd rhai o droseddwyr Carchar y Parc i ennill gwobrau yn adran gelf a chrefft Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.

    Read More
  3. Cyn-enillydd yn cwestiynu 'urddas' prif seremonïauwedi ei gyhoeddi 18:15 GMT+1 31 Mai 2023

    Mae nifer yn anhapus gyda threfn newydd prif seremonïau gwobrwyo Eisteddfod yr Urdd, sy'n cynnwys chwe 'awen' liwgar.

    Read More
  4. Beth yw'r farn ar 'awenau' lliwgar Eisteddfod yr Urdd?wedi ei gyhoeddi 16:32 GMT+1 31 Mai 2023

    Mae'r 'awenau' sy'n rhan o brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri wedi codi gwrychyn rhai oherwydd diffyg "urddas".

    Read More
  5. Urdd: Elain Roberts yw enillydd Medal Ddrama 2023wedi ei gyhoeddi 14:40 GMT+1 31 Mai 2023

    Bydd y ferch o Geredigion yn cael cyfle i dreulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

    Read More
  6. Lluniau o Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 09:37 GMT+1 31 Mai 2023

    Yr hwyl a'r bwrlwm o faes yr ŵyl yn Llanymddyfri.

    Read More
  7. Annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli yn yr eisteddfodwedi ei gyhoeddi 06:37 GMT+1 31 Mai 2023

    Cafodd saith o wirfoddolwyr eu hanrhydeddu ddydd Llun am eu cyfraniad i Eisteddfod yr Urdd.

    Read More
  8. 'Hollbwysig' i'r Urdd estyn allan i ddysgwyr Cymraegwedi ei gyhoeddi 19:04 GMT+1 30 Mai 2023

    Mae Nooh Ibrahim eisoes yn gweithio i'r Urdd ac wedi dysgu'r iaith, wrth i'r mudiad lansio partneriaeth newydd.

    Read More
  9. 'Dysgu Cymraeg yn bwysig i mi gan mai Cymro ydw i'wedi ei gyhoeddi 19:03 GMT+1 30 Mai 2023

    Ers chwe mis mae Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol cyntaf yr Urdd, wedi bod yn cael gwersi Cymraeg dyddiol.

    Read More
  10. Gwilym Morgan: 'Anhygoel' i ennill Medal y Dysgwyrwedi ei gyhoeddi 17:19 GMT+1 30 Mai 2023

    Gwilym Morgan, o Gaerdydd, oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

    Read More
  11. Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 16:14 GMT+1 30 Mai 2023

    Lluniau o ail ddiwrnod y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Llanymddyfri.

    Read More
  12. Urdd: Cyhoeddi enillwyr cystadlaethau dysgu Cymraegwedi ei gyhoeddi 14:44 GMT+1 30 Mai 2023

    Dau o bobl ifanc yn derbyn prif wobrau dysgu Cymraeg Eisteddfod yr Urdd 2023.

    Read More
  13. Wyn Jones am weld mwy yn aros yng nghefn gwladwedi ei gyhoeddi 12:39 GMT+1 30 Mai 2023

    Y chwaraewr rygbi yn dweud y "byddai'n neis" gweld mwy o bobl ifanc yn aros yng nghefn gwlad Cymru.

    Read More
  14. Canmol a chwyno am docynnau Eisteddfod yr Urddwedi ei gyhoeddi 17:56 GMT+1 29 Mai 2023

    Mae miloedd wedi manteisio ar gynnig o docynnau am ddim i deuluoedd incwm isel - ond i eraill, mae'r £20 o fynediad yn ddrud.

    Read More
  15. Diolch am ymuno â ni 👋wedi ei gyhoeddi 16:02 GMT+1 29 Mai 2023

    Dyma ddiwedd ein llif byw o ddiwrnod cyntaf o gystadlu Eisteddfod yr Urdd 2023.

    Diolch am ddilyn y diweddaraf a mwynhewch weddill yr wythnos yn yr heulwen, gobeithio. ☀️

    Hwyl am y tro!

    Ffair
    Disgrifiad o’r llun,

    I'r ffair nawr, unrhyw un?

  16. Ciw ar gyfer y pafiliwn Gwyrddwedi ei gyhoeddi 15:55 GMT+1 29 Mai 2023

    Dyma oedd yr olygfa tu allan i'r Pafiliwn Gwyrdd y prynhawn 'ma, wrth i deuluoedd a ffrindiau geisio cael lle i gefnogi.

    Bydd y cystadlu yn dal i barhau am beth amser.

    Ciw Pafiliwn Gwyrdd
  17. Cyfansoddi cerddoriaeth fel 'creu eich celf eich hun'wedi ei gyhoeddi 15:48 GMT+1 29 Mai 2023

    Prif Gyfansoddwr yr Eisteddfod, Gwydion Rhys, fu'n sôn am y profiad o ennill y fedal ar ôl y seremoni.

    "I clywed cerddorion go iawn yn chwarae'ch cerddoriaeth, does 'na ddim byd cweit yn 'run fath â hwnna."

    Disgrifiad,

    Gwydion Rhys yn cipio'r Fedal Gyfansoddi

  18. Sawl elfen newydd i'r seremonïau... gan gynnwys iaith arwyddowedi ei gyhoeddi 15:41 GMT+1 29 Mai 2023

    Mae ‘na elfen newydd arall i brif seremonïau’r dydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

    Ar y llwyfan, yn ogystal â’r arweinydd Heledd Cynwal a’r awenau, fe welwch chi ddynes arall.

    Seremoni'r Fedal Gyfansoddi
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd 'na sawl elfen newydd i'r seremoni

    Ei henw hi yw Cathryn McShane, a hi sy’n arwyddo beth sy’n digwydd yn ystod y seremoni, y tro cyntaf i hynny ddigwydd.

    Os yw ei hwyneb yn edrych yn gyfarwydd i chi, mae hynny oherwydd mai hi oedd un o’r arwyddwyr cyson yn ystod cynadleddau i’r wasg y prif weinidog, Mark Drakeford, yn ystod y pandemig.

  19. Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 15:35 GMT+1 29 Mai 2023

    Lluniau o ddiwrnod cynta'r cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Llanymddyfri.

    Read More
  20. Wedi pacio popeth?wedi ei gyhoeddi 15:31 GMT+1 29 Mai 2023

    Twitter

    Beth sydd ei angen ar gyfer wythnos o eiteddfota? Dyma ambell gyngor?!

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X